1Yn y 2.Bren.24.1. ierem.25.1.drydedd flwyddyn o deyrnasiad Ioachim brenin Iuda y daeth Nabuchodonosor brenin Babilon i Ierusalem, ac a warchaodd arni.
2A’r Arglwydd a roddes iw law ef Ioachim brenin Iuda, a rhan o lestri tŷ Dduw, yntef ai dûg hwynt i wlâd Sennar i dŷ ei dduw ef: îe i dryssor-dŷ ei dduw y dûg efe y llestri.
3A dywedodd y brenin wrth Asphenaz ei ben-stafellud, am ddwyn o feibion Israel y rhai oeddynt o’r hâd brenhinawl, ac o’r tywysogion,
4Fechgyn (y rhai ni ynddynt ddim gwrthyni, eithr yn dda yr olwg, a deallgar ym mhob doethineb, ac yn gŵybod gŵybodaeth, ac yn dirnad cyfarwyddyd, a’r rhai grym ynddynt) i sefyll yn llŷs y brenin: iw dyscu lyfr, ac iaith y Caldeaid.
5A’r brenin a ddognodd iddynt hwy bêth o ran bwyd y brenin, dydd yn ei ddydd, ac o’r gwîn a yfe efe; felly iw maethu hwynt dair blynedd: fel y safent yn ôl hynny ger bron y brenin.
6Ac yr ydoedd yn eu plith hwynt o feibion Iuda, Daniel, Ananias, Misael, ac Azarias.
7A’r pen-stafelludd a osododd arnynt enwau, sef ar Ddaniel y gosododd efe Baltassar, ac ar Ananias Sidrach, ac ar Misael Misach, ac ar Azarias Abednego.
8A Daniel a roddes ei frŷd nad ymhaloge efe drwy ran fwyd y brenin, na thrwy’r gwîn a yfe efe: gan hynny efe a ddymunodd ar y pen-stafelludd, ar na bydde raid iddo ef ymhalogi.
9A Duw a roddes Daniel mewn hawddgarwch a thiriondeb o flaen y pen-stafelludd.
10A’r pen-stafelludd a ddywedod wrth Ddaniel, ofni yr ydwyfi fy arglwydd y brenin yr hwn a ddognodd eich bwyd chwi, a’ch diod chwi: o herwydd pa ham y gwele efe eich wynebau yn gulach na’r bechgyn y rhai ydynt fel chwithau? felly y parech fy mhen yn ddyledus i’r brenin,
11Yna y dywedodd Daniel wrth Melassar yr hwn a osodase y pen-stafelludd ar Ddaniel, Ananias, Misael, ac Azarias:
12Prawf attolwg dy weision ddêc diwrnod, a rhoddant i ni ffâ iw bwytta, a dwfr iw yfed.
13Yna edrycher ger dy fron di ein prŷd ni, a phrŷd y bechgyn y rhai ydynt yn bwytta rhan o fwyd y brenin, ac fel y gwelech, gwna di â’th weision.
14Ac efe a wrandawodd arnynt yn y peth hyn, ac ai profodd hwynt ddêc o ddyddiau.
15Ac ym mhen y dêng nhiwrnod y gwelid eu prŷd hwynt yn degach, ac yn dewach o gig na’r holl fechgyn y rhai oeddynt yn bwytta rhan o fwyd y brenin.
16Yna y darfu i Melassar gymmeryd ymmaith rhan eu bwyd hwynt a’r gwîn a yfent, a rhoddi iddynt ffâ,
17A’r bechgyn hynny ill pedwar, Duw a roddes iddynt ŵybodaeth, a deall ym mhob dysc, a synnwyr: Daniel a hyfforddiodd efe ym mhob gweledigaeth, a breuddwydion.
18Ac ym mhen y dyddiau yn y rhai y dywedase y brenin am eu dwyn hwynt i mewn: yna y pen-stafelludd ai dûg hwynt ger bron Nabuchodonosor.
19A’r brenin a chwedleuodd â hwynt; ac ni chafwyd o honynt oll fel Daniel, Ananias, Misael, ac Azarias: am hynny y safasant hwy ger bron y brenin.
20Ac mhob rhyw synnwyr, a deall, a’r a geisie y brenin ganddynt, efe ai cafodd hwynt o’r ddecfed ran goruwch yr holl ddewiniaid astronomyddion, y rhai o fewn ei holl frenhiniaeth ef.
21Felly y bu Daniel, hyd y flwyddyn gyntaf i’r brenin Cyrus.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.