1A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, llefara wrth yr offeiriaid meibion Aaron, a dywet wrthynt: nac ymhaloged wrth vn marw ym mysc ei bobl:
2Ond wrth ei gyfnesaf agos iddo: wrth ei fam, wrth ei dâd, ac wrth ei fàb, ac wrth ei ferch, ac wrth ei frawd.
3Ac wrth ei chwaer o forwyn agos iddo, yr hon ni fu eiddo gŵr: wrth honno yr ymhaloga efe.
4Nac ymhaloged bennaeth ym mysc ei bobl, iw aflanhau ei hun.
5Na Lefit.19.27.wnânt foelni ar eu pennau, ac nac eilliant gyrrau eu barfau, ac na rwygant rwygiad ar ei cnawd.
6Sanctaidd fyddant iw Duw, ac na halogant enw ei Duw: o herwydd offrymmu y maent ebyrth tanllydd’r Arglwydd bara eu Duw, am hynny byddant sanctaidd.
7Na 1.Tim.3.11.chymmerant buttain-wraig neu vn halogedic yn wraig, ac na chymmerant wraig wedi yscar oddi wrth ei gŵr, o herwydd sanctaidd yw efe iw Dduw.
8A chyfrif di ef yn sanctaidd, o herwydd bara dy Dduw di y mae efe yn ei offrymmu, bydded sanctaid it, o herwydd sanctaidd fi’r Arglwydd eich sancteiddudd.
9A phan ddechreuo merch vn offeiriad butteinio, halogi ei thâd y mae, llosger hi mewn tân.
10A’r offeiriad mwyaf oi frodyr, yr hwn y tywalldwyd olew’r eneiniad ar ei ben, ac a gyssegrodd ei law i wisco y gwiscoedd, na ddiosced oddi am ei ben, ac na rwyged ei ddillad.
11Ac na ddeued at gorph vn marw, nac ymhaloged wrth ei dâd, nac wrth ei fam.
12Ac nac aed allan o’r cyssegr fel na halogo gyssegr ei Dduw, am coron olew enneiniad ei Dduw arno ef: myfi yr Arglwydd.
13A chymmered efe wraig yn ei morwyndod.
14Na phrioded efe y rhai hynny gwraig weddw, na gwraig wedi yscar, na phuttain halogedic: onid cymmered forwyn oi bobl ei hun yn wraig.
15Ac na haloged ei hâd ym mysc ei bob: canys myfi yr Arglwydd ei sancteiddudd ef.
16A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd:
17Llefara wrth Aaron gan ddywedyd: na nessaed vn o’th hâd di drwy eu hoesoedd yr hwn y byddo anaf arno, i offrymmu bara ei Dduw ef.
18Canys 2.Samu.5.8.ni chaiff vn gŵr yr hwn y byddo anaf arno nessau: y gŵr dall, neu yr cloff, neu’r rhyfyr, neu rhy hîr
19Neu’r gŵr yr hwn y byddo iddo droed twnn, neu law donn.
20Neu a fyddo yn gefn-grwm, neu a magl, neu byssen ar ei lygad, neu’n grachlyd, neu yn glafrllyd, neu yn hittrwm.
21Na nessaed vn gŵr o hâd Aaron yr offeiriad yr hwn y byddo anaf arno i offrymmu ebyrth tanllyd yr Arglwydd: anaf sydd arno, na nessaed i offrymmu bara ei Dduw ef.
22Bara ei Dduw ef o’r sanctaidd cyssegredic, ac o’r cyssegredic a gaiff efe ei fwytta.
23Etto na ddeued at y wahan-lenn, ac na nessaed at yr allor, am anaf arno, ac na haloged fyng-hyssegr: canys myfi yr Arglwydd eu sancteiddudd hwynt.
24A llefarodd Moses wrth Aaron, ac wrth ei feibion, ac wrth holl feibion Israel.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.