Marc 4 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IIII.Dammeg yr hâd. 30 A’r gronyn mwstard. 37 Crist yn gostegu y môr.

1Ac Math.13.1. Luc 8.4. efe a ddechreuodd drachefn athrawiaethu yn ymyl y môr: a thyrfa fawr a ymgasclodd atto, hyd oni bu iddo fyned i’r llong, ac eistedd ar y môr: a’r holl dyrfa oedd wrth y môr ar y tîr.

2Ac efe a ddyscodd iddynt lawer ar ddamhegion, ac a ddywedodd wrthynt yn ei ddysceidiaeth ef,

3Gwrandewch, wele, hau-ŵr a aeth allan i hau:

4A darfu wrth hau, i beth syrthio ar y ffordd, ac ehediaid yr awyr a ddaethant, ac a’i difâsant.

5A pheth a syrthiodd ar le caregog, lle nid oedd iddo fawr ddaiar, ac yn y fan yr eginodd am nad oedd iddo ddyfnder daiar.

6A phan gododd yr haul y poethwyd ef, ac am nad oedd gwreiddin efe a ŵywodd.

7A pheth a syrthiodd ym mhlith drain, a’r drain a dyfâsant, ac a’i tagâsant ef fel na roddes ffrwyth.

8A pheth arall a syrthiodd mewn tîr da, ac a roddes ffrwyth tyfadwy a chynhyrchol, ac a ddug, peth ei ddecfed ar hugain, a pheth ei drugeinfed, a pheth ei ganfed.

9Yna y dywedodd efe wrthynt, y nêb sydd ganddo glustiau i wrando gwrandawed.

10A phan oedd efe wrtho ei hun, y rhai oeddynt yn ei gylch ef gŷd â’r deuddec a ofynnasant iddo am y ddammeg.

11Ac efe a ddywedodd wrthynt, i chwi y rhodded gwybod dirgelwch teyrnas Dduw: eithr i’r rhai sy allan, ar ddammegion y gwneir pôb peth,

12Fel Esa.6.9. Math.13.14. Luc.8.10. Ioan.12.40. Act.28.26. Rhuf.11.8yn gweled y gwelant, ac ni chanfyddant, ac yn clywed y clywant: ac ni ddeallant: rhag iddynt ddychwelyd a maddeu iddynt eu pechodau.

13Ac efe a ddywedodd wrthynt, oni wyddoch chwi y ddammeg honn? a pha fodd y gwybyddwch yr holl damhegion eraill?

14Yr hau-wr, sydd yn hau y gair.

15Y rhai yn ymyl y ffordd, yw y rhai lle’r hauwyd y gair, ac wedi iddynt ei wrando, yn ebrwydd y daeth Satan, ac a ddug ymmaith o’u calonnau hwynt y gair a hauasid.

16Ac felly hwynt hwy ynt y rhai a dderbyniant y gair ar le carregog, y rhai wedi iddynt wrando’r gair ydynt yn ei dderbyn yn llawen,

17Ac nid oes iddynt wreiddin ynddynt eu hunain, eithr tros amser y maent: yna pan ddêl blinder ac erlid o achos y gair, yn y man y rhwystrir hwynt.

18Hwynt hwy hefyd yw y rhai a hauwyd ym mysc y drain, y sawl a wrandawant y gair:

19Ac y mae gofalon y bŷd hwn, 1.Tim.6.17.a hûd cyfoeth, a chwant pethau eraill yn dyfod i mewn, ac yn tagu’r gair, ac y mae efe yn myned yn ddi-ffrwyth.

20Ac hwynt hwy yw y rhai a hauwyd mewn tîr da, y rhai ydynt yn gwrando y gair, ac yn ei dderbyn, ac yn dwyn ffrwyth, vn ddêc ar hugain, arall drugain, ac arall gant.

21Ac efe a ddywedodd wrthynt, a Math.5.15. Luc.8.16. & 11.33ddaw canwyll iw gosod tan lestr neu tan wely, ynte iw gosod ar ganhwyll-bren?

22Canys Math.10.26. Luc.8.17. & 12.2nid oes dim cuddiedig yr nis amlygir, ac nid oes dim dirgel a’r nas daw i eglurdab.

23Od oes i neb glustiau i wrando, gwrandawed.

24Ac efe a ddywedodd wrthynt: edrychwch Math.7.2; Luc 6.38. beth a wrandawoch, pa fesur y mesuroch, y mesurir i chwithau: a chwanegir i chwi y rhai a wrandewch.

25Canys Math.13 12|MAT 13:12 & 25.29|MAT 25:29. Luc 8: 18|LUK 8:18 & 19: 26. y nêb y byddo ganddo y rhoddir iddo, a’r neb ni byddo ganddo, y dygir oddi arno yr hyn a fyddo ganddo.

26Hefyd efe a ddywedodd: felly y mae teyrnas Dduw fel pe bwrie vn hâd i’r ddaiar,

27A chyscu, a chodi nôs a dydd: a’r hâd yn egino, ac yn tyfu i fynu, ac yntef heb ŵybod pa fodd:

28Canys y ddaiar a ddwg ffrwyth o honi ei hun, yn gyntaf yr eginin, yn ôl hynny y dywysen, yna’r ŷd yn llawn yn y dywysen:

29A phan ymddangoso’r ffrwyth, yn ebrwydd y rhydd efe y crymman ynddo, am ddyfod y cynhaiaf.

30Ac efe a ddywedodd ym mhellach, i ba beth y Mat 13.31.|MAT 13:31. Luc.13.19.cyffelybwn i deyrnas Dduw? neu ar ba ddammeg y gwnawn ni gyffelybrwydd o honi?

31[Y mae] fel gronyn mustard, yr hwn pan hauer yn y ddaiar sydd leiaf o’r holl hadau a’r sydd ar y ddaiar:

32Eithr wedi ’r hauer, y mae yn codi, ac yn myned yn fwy nâ’r holl lyssiau, ac efe a ddwg ganghenhau mawrion, fel y gallo ehediaid yr awyr nythu tan ei gyscod ef.

33Ac â Math.13.34.chyfryw ddamhegion lawer y traethodd efe iddynt y gair, fel y gallent ei wrando.

34Ac heb ddamhegion ni thraethodd efe iddynt eithr efe a eglurodd y cwbl oll iw ddiscyblion o’r nailltu.

35Ac efe a ddywedodd wrthynt y dydd hwnnw ym mîn yr hwyr, awn trosodd i’r tu hwnt.

36Ac wedi iddynt ollwng ymmaith y dyrfa, y cymmerasant ef, fel yr oedd yn y llong, ac yr oedd hefyd longau eraill gŷd ag ef.

37Ac fe a gyfodes tymestl fawr o wynt, a’r tonnau a daflasant i’r llong hyd onid oedd hi yn llawn weithian.

38Ac yr oedd efe yn y pen ôl i’r llong yn Math.8.23. Luc.8.22cyscu ar obennydd, yna y deffroasant ef, gan ddywedyd wrtho: ô Athro onid gwaeth gennit er ein colli ni?

39Ac efe wedi codi i fynu a geryddodd y gwynt, gan ddywedyd wrth y môr, gostega: yna y gostyngodd y gwynt, ac y bu tawelwch mawr.

40Ac efe a ddywedodd wrthynt: pa ham yr ydych mor ofnog? pa fodd nad oes gennych ffydd?

41Eithr hwy a ofnasant yn ddirfawr, ac a ddywedâsant wrth eu gilydd: pwy yw hwn, gan fôd y gwynt a’r môr yn vfyddhau iddo?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help