1Clyw fy llef ô Dduw yn fyng-weddi: cadw fy enioes rhag ofn y gelyn.
2Cuddia fi rhag cyfrinach y rhai drygionus, rhag terfysc gweithredwŷr anwiredd.
3Y rhai a hogâsant eu tafod fel cleddyf, ac a saethasant saeth geiriau chwerwon:
4I seuthu’r perffaith yn ddirgel, yn ddisymmwth y saethant ef, ac ni ofnant.
5Ymnerthant peth drygionus, ymchwedleuant am guddio y rhwydau: dywedant, pwy ai gwêl hwynt?
6Chwiliasant allan anwireddau, chwplasant y dirgelwch, a chwiliwyd a dyfnder calon pob vn
7Eithr Duw ai saetha hwynt â saeth ddisymmwth, yr archoller hwynt.
8Ac hwy a wnant iw tafodau eu hun syrthio arnynt: pob vn ai gwêlo a giliant.
9Pob dŷn ai gwêlo a fynêgant gweithred Duw canys deallant ei waith ef
10Y cyfiawn a lawenycha yn yr Arglwydd, ac a obeithia ynddo ef: a’r rhai iniawn o galon oll a orfoleddant.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
