1Ac wedi hyn y paratôdd Absalom iddo eu hun gerbydau, a meirch: a deng-ŵr a deugain i redeg oi flaen ef.
2Ac Absalom a gyfode yn fore, ac a safe ger llaw ffordd y porth: ac yna Absalom a alwe atto bob gŵr yr hwn yr oedd iddo fatter i ddyfod at y brenin am farn, ac a ddywede, o ba ddinas ti? yntef a ddywede, o vn o lwythau Israel dy wâs di.
3Ac Absalom a ddywede wrtho ef, wele dy ymadroddion yn dda, ac yn inion: ond nid gan y brenin a wrandawo arnat ti.
4Dywede Absalom hefyd, oh na’m gosodid i yn farn-wr yn y wlad, fel y dele attafi bob gŵr yr hwn fydde ganddo ymrafel neu gynghaws, fel y gwnawn i gyfiawnder iddo.
5A phan nessâe neb i ymgrymmu iddo ef: yna efe a estynne ei law, ac a ymafle ynddo ef, ac ai cussane ef,
6Ac fel hyn y gwnae Absalom i holl Israel y rhai a ddeuent am farn at y brenin: felly Absalom a ennillodd galon holl wŷr Israel.
7Ac ym mhen deugain mlhynedd y dywedodd Absalom wrth y brenin, mi a âf yn awr, ac a dalaf fy adduned yr hon a addunedais i’r Arglwydd yn Hebron.
8Canys dy wâs a addunodd adduned pan oeddwn i yn aros o fewn Gesur yn Syria gan ddywedyd: os gan ddychwelyd y dychwel yr Arglwydd fi i Ierusalem, yna y gwasanaethaf yr Arglwydd.
9A r brenin a ddywedodd wrtho ef, dos mewn heddwch: felly efe a gyfododd, ac a aeth i Hebron.
10Yna Absalom a anfonodd chwil-wyr drwy holl lwythau Israel gan ddywedyd: pan glywoch lef yr vdcorn yna dywedwch, Absalom sydd yn teyrnasu yn Hebron.
11A dau cant o wŷr a aethant gyd ag Absalom o Ierusalem ar wahodd, ac yr oeddynt yn myned yn ei perffaithrwydd, ac heb wybod dim oll.
12Ac Absalom a anfonodd am Abitophel y Geloniad cynghor-ŵr Dafydd oi ddinas Gilo, tra fydde efe yn offrymmu aberthau: a’r cydfrad-wriaeth gref, a’r bobl oedd yn myned, ac yn amlhau gyd ag Absalom.
13Yna y daeth cennad at Ddafydd gan ddywedyd: y mae calon gwŷr Israel ar ôl Absalom.
14Yna y dywedodd Dafydd wrth ei holl weision y rhai gyd ag ef yn Ierusalem, cyfodwch, a ffoiwn, canys ni ddiang-wn ni gan Absalom: bryssiwch i fyned, rhac iddo ef fryssio a’n dala ni, a bwrw drygioni i’n herbyn ni, a tharo y ddinas a mîn y cleddyf.
15A gweision y brenin a ddywedasant wrth y brenin: wele dy weision ar ôl yr hyn oll a ddewiso fy arglwydd frenin.
16Felly y brenin a aeth, ai holl dŷlwyth ar ei ôl: a’r brenin a adawodd ddeg o ordderchwragedd i gadw’r tŷ.
17Ar brenin a aeth a’r holl bobl ar ei ôl: ac a safasant mewn lle pell.
18Ai holl weision ef oeddynt yn cerdded ger ei law ef, yr holl Gerethiaid, a’r holl Pelethiaid: a’r holl Gethiaid y chwe chan-wr y rhai a ddaethent ar ei ôl ef o Gath oeddynt yn cerdded o flaen y brenin.
19Yna y dywedodd y brenin wrth Ittai y Gethiad, i ba beth yr ei di hefyd gyd a ni? dychwel, 132 a thrig gyd a’r brenin, canys dieithr ydwyt ti, a chyrwydrad hefyd o’th frô dy hun.
20Doe y daethost ti, a fudwn i di heddyw i fyned gyd a ni? myfi a âf i ryw lê: dychwel, a dŵg dy frodyr gyd a thi trugaredd, a gwirionedd.
21Ac Ittai a attebodd y brenin, ac a ddywedodd, mai byw’r Arglwydd, ac mai byw fy arglwydd frenin, yn vnic yn y lle’r hwn y byddo fy arglwydd frenin ynddo pa vn bynnac ai i angen, ai i enioes, yno yn ddiau y bydd dy wâs.
22Yna Dafydd a ddywedodd wrth Ittai, dôs, a cherdda: ac Ittai y Gethiad a aeth ai holl wyr, a’r holl blant y rhai ganddo ef.
23A’r holl wlâd oeddynt yn llefain a llef vchel, pan ydoedd yr holl bobl yn myned: a’r brenin a aeth tros afon Cedron, a’r holl bobl a aethant ar hŷd ffordd yr anialwch.
24Yna wele Zadoc, a’r holl Lefiaid gyd ag ef, yn dwyn Arch cyfammod Duw, a hwy a osodasant i lawr Arch Dduw, ac Abiathar a aeth i fynu, nes darfod i’r holl bobl ddyfod allan o’r ddinas.
25Yna y dywedodd y brenin wrth Zadoc, dychwel ag Arch Dduw i’r ddinas: os cafi ffafor yng-olwg yr Arglwydd, efe a’m dwg i eil-waith, ac a bar i mi ei gweled hi, ai phabell.
26Ond os fel hyn y dywed efe, nid wyf fodlon it: wele fi, gwnaed i mi fel da yn ei olwg.
27A’r brenin a ddywedodd wrth Zadoc yr offeiriad, onid 1.Sam.9.9.gweledudd ti? dychwel i’r ddinas mewn heddwch, a’th ddau fab gyd a thi Ahunaaz dy fab, ac Ionathan mab Abiathar.
28Gwelwch fi yn aros yn rhossydd yr anialwch, nes dyfod gair oddi wrthit iw fynegu i mi.
29Felly Zadoc, ac Abiathar a ddugasant yn ôl Arch Dduw i Ierusalem: ac a arhosasant yno.
30A Dafydd a aeth i fynu i frynn yr oliwydd, yr oedd yn myned i fynu, ac yn ŵylo, ai benn wedi ei oruchguddio, ac yr oedd efe yn myned yn droed-noeth: a’r holl bobl y rhai[oeddynt] gyd ag ef a oruchguddiasant bawb ei ben, ac a aethant i fynu, gan fyned ac ŵylo.
31Yna y mynegwyd Ddafydd gan ddywedyd, Ahitophel mewn cydfradwriaeth ag Absalom: a Dafydd a ddywedodd, ô Arglwydd diddymma attolwg gyngor Ahitophel.
32A phan ddaeth Dafydd hyd benn yr hwn yr addole efe Dduw ynddo, yna wele Husat’r Arciad yn ei gyfarfod ef wedi rhwygo ei bais, a phridd ar ei benn.
33A Dafydd a ddywedodd wrtho ef: od ei trosodd gyd a mi, byddi yn faich arnafi.
34Ond os dychweli i’r ddinas, a dywedyd wrth Absalom, dy wâs di ô frenin fyddaf, gwas dy dâd er ystalm, ac yn awr dy wâs dithe hefyd: a diddymma i mi gyngor Ahitophel.
35Oni gyd a thi yno Zadoc, ac Abiathar yr offeiriaid? am hynny pob gair a’r a glywech o dŷ’r brenin, mynega i Zadoc, ac i Abiathar yr offeriaid.
36Wele yno gyd a hwynt eu dau fab, Ahimaaz Zadoc, ac Ionathan Abiathar: danfonwch gan hynny gyd a hwynt attafi bob peth a’r a glywoch.
37Felly Husai cyfell Dafydd a ddaeth i’r ddinas: ac Absalom a ddaeth i Ierusalem.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.