Rhufeiniaid 6 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VI.2 Er mwyn na bydde i nêb orfoleddu yn y cnawd, eithr yn hytrach ei ddarostwng ef i’r yspryd, 3 Y mae efe yn dangos wrth rinwodd a diwedd bedydd, 5 Fod ail-enedigaeth yn gyssylltiedig â chyfiawnder, ac am hynny y mae yn annog i fuchedd dduwiol, 21 Gan osod yng-wydd dyn obr pechod a chyfiawnder.

1Beth wrth hynny a ddywedwn? a drigwn ni yn wastad mewn pechod, fel yr amlhauo grâs?

2Na atto Duw: y rhai feirw i bechod, pa wedd y byddwn fyw etto ynddo ef?

3Oni wyddoch am danom oll y rhai a fedyddiwyd i Iesu Grist, ddarfod rin bedyddio iw farwolaeth ef?

4 Yn ôl dull dynol yr ydwyf yn dywedyd o blegit gwendid eich cnawd chwi: canys megis ac y rhoddasoch eich aelodau yn weision i aflendid ac anwiredd, i anwiredd, felly yr awr hon rhoddwch eich aelodau yn weision i gyfiawnder i sancteiddrwydd.

20Canys pan oeddech yn weision pechod, yr oeddech yn rhyddion oddi wrth gyfiawnder.

21Pa ffrwyth oedd i chwi y pryd hynny yn y cyfryw bethau y mae arnoch gywilydd o’u plegit yr awr hon? canys diwedd y pethau hynny yw marwolaeth.

22Ac yr awr hon wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod, a’ch gwneuthur yn weision i Dduw, y mae i chwi eich ffrwyth yn sancteiddrwydd, a’r diwedd yn fywyd tragywyddol.

23Canys cyflog pechod yw marwolaeth: eithr dawn Duw yw bywyd tragywyddol trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help