1Gwedi darfod cytuno i forio o honom i’r Ital, hwy a roesant Paul a rhyw garcharorion eraill at Ganwriad yr hwn a enwid Iulius, o fyddin Augustus,
2A 1.Côr 11.25. dringo a wnaethom i long o Adramyttium, ar fedr hwylio i duedd Asia, ac ni a gychwnnasom, a chyd â ni yr oedd Aristarchus o Macedonia o Thessalonia.
3A thrannoeth ni a diriasom yn Sydon, ac Iulius gan fod yn gymmwynascar wrth Paul, a roddes iddo gennad i fyned at ei gyfeillion, i gael ymgeledd.
4Ac yn myned oddi yno, nyni a hwyliasom tann Cyprus, am fod y gwynt i’n herbyn.
5Ac wedi hwylio o honom tros y môr ger llaw Cilicia a Pamphilia, nyni a ddaethom i Myra o Lycia.
6Ac yno y canwriad yn cael llong o Alexandria yn myned i’r Ital, a’n gosodes ni ynddi.
7Ac wedi i ni hwylio yn anniben lawer o ddyddiau, a dyfod yn brin ger llaw Guidum, am na adawe y gwynt i ni: ni a hwyliasom is law Creta, ger llaw Salmône,
8A braidd yr hwyliasom heibio iddi, ac ni a ddaethō i ryw le a alwāt y porth laddoedd prydferth, at ba rai yr oedd dinas Lasæa yn gyfagos.
9Ac yn ôl hir o amser, pan oedd yn enbyd morwriaeth, a darfod hefyd yr ympryd, Paul a’u cyngorodd hwynt, gan ddywedyd wrthynt:
10O’ch wŷr, mi a welaf y bydd yr hynt hon drwy niwed a cholled fawr, nid am y llwyth a’r llong yn vnic, eithr ein heinioes ni hefyd.
11Er hynny ei gyd, mwy y credodd y canwriad i lywydd y llong, ac i’r meistr, nag i’r pethau a ddywedase Paul.
12A phan nad oedd y porthladd yn dda i aiâfu, yr rhan fwyaf o honynt a ymgynghorasant, forio oddi yno os bydde fodd i allu dyfod i Phænice, a gaiâfu yno, yr hwn sydd borthladd yn Creta, ar gyfer y deau-orllewin a gogledd-orllewin.
13A phan chwythodd y deheu-wynt, hwynt hwy a dybiasant gaffael eu meddwl, ac wedi iddynt gychwyn, hwy a hwyliasant yn agos i Creta.
14Ond cyn nemmawr y cyfododd yn ei herbyn hi dymhestl-wynt yr hwn a elwir Euroclyddon.
15A phan ddaliwyd y llong, ac na alle wrthladd y gwynt, nyni a ymroesom, ac ni a ddygwyd
16A phan daflwyd ni goris ynys fach a elwir Clauda, braidd y gallasom gael y bâd:
17Yr hwn â godasant i fynu, ac hwy a gydgynhorthwyafant gan gylchu y llong, ac ofni a wnaethant rhag taro ar sugn-draeth: ac hwy a ostyngasant yr hwyl, ac felly y dygwyd hwynt,
18A phan gyfododd garw-for tymestlog drānoeth arnom ni, hwy a yscafnhausant y llōg.
19A’r trydydd dydd y bwriasom â’n dwylo ein hunain daclau y llong allan.
20A phan na’d ymddangosodd na haul, na sêr, dros lawer o ddyddiau, a thymestl nid bychan ar ein gwartha, dygwyd pob gobaith oddi arnom y byddem ni gadwedig.
21A phan fuase bellach hir ympryd, yna y safodd Paul yn eu canol hwy, ac a ddywedodd, ôch wŷr, chwi a ddylasech wrando arnafi a pheidio a chychwyn o Creta, a diangc rhag y pericl a’r golled ymma.
22Ac yr awr hon yr wyfi yn eich rhybuddio chwi ar fod yn dda eich cyssur can na chollir bywyd vn o honoch ond y llong yn vnic.
23Canys angel Duw yr hwn a’m piau, a’r hwn yr wyf yn ei addoli, a safodd yn fy ymyl y nôs hon,
24Gan ddywedyd: nac ofna Paul, rhaid i ti sefyll ger bron Caesar, ac wele, fe roddes Duw i ti y rhai oll y fydd yn morio gyd â thi.
25Am hynny cymmerwch gyssur (ô wŷr) canys yr wyf fi yn credu i Dduw y bydd fel y traethodd efe wrthif:
26Ond y mae yn rhaid i ni ddyfod i ryw ynys.
27Ac wedi dyfod y bedwaredd nos ar ddêc, fel yr oeddem yn morio yn Adria yng-hylch hanner nos, y morwyr a dybiasant eu bod yn neshau i ryw dir.
28Ac hwy a blymiasant, ac a’i cawsant yn vgain gwryd, ac wedi myned ychydig pellach hwy a blymiasant eilwaith, ac a gawsant bymthec gwryd.
29Ac hwy yn ofni rhag syrthio mewn lleoedd geirwon, hwy a fwriasant allan bedair angor o’r llyw, ac a ddeisyfiasant ei myned hi yn ddydd
30Ac fel yr oedd y llong-wŷr yn amcanu ymadel â’r llong, wedi bwrw y bad i wared i’r môr, fel pe buase yn eu bryd fwrw allan angorau o’r pen blaen hefyd,
31Dywedodd Paul wrth y cawriad, a’r milwŷr, onid erys y rhai hyn yn y llong, ni ellwch chwi fod yn gadwedig.
32Yna y torrodd y milwyr raffau y bâd, ac a adawsant iddo fyned ymmaith.
33A thra fu hi yn dyddhau, Paul a eiriolodd ar bawb gymmeryd bwyd, gan ddywedyd: dymma y pedwerydd dydd ar ddêc gan ddisgwil, yr arhoesoch ar eich cythlwnc heb gymmeryd ddim
34Am hynny fyng-hyngor i i chwi yw cymmeryd bwyd: o blegit hynny fydd eich iechydwriaeth chwi: canys ni syrth blewyn o ben vn o honoch chwi.
35Ac wedi iddo ddywedyd hyn, gan gymmeryd bara, efe a ddiolchodd i Dduw yn eu gŵydd hwynt oll, ac a’i torodd, ac a ddechreuodd fwyta.
36A phawb oll wedi myned yn gyssurol, a gymmerasant fwyd hwythau.
37Ac yr oedd o honom ni oll yn y llong, ddau cant, ac vn ar bymthec a thrugain o eneidiau.
38Ac wedi cael digon o fwyd, hwy a yscafnhausant y llong, gan fwrw y gwenith i’r môr.
39Ac wedi ei myned hi yn ddydd, ni adnabuant hwy y tir, ond hwy a ganfuasant ryw gilfach, ac iddi dorlan, lle y meddyliasant (os gallent) wthio y llong i mewn.
40Ac wedi iddynt godi yr angorau, yr ymroesant i’r mor, ac a ollyngasant yn rhydd rwymau y llyw, ac a godasant yr hwyl i’r gwynt, ac a geisiasant y lann.
41Ac wedi i ni syrthio ar draethell dau-for, a gwthio y llong, y pen blaen a lynodd heb allu symudo, eithr y pen ôl a ddrylliodd gan nerth y tonnau.
42A chyngor y milwŷr oedd lladd y carcharorion, rhag i vn o honynt wedi nofio allan ddiangc ymmaith.
43Ond y Cannwriad yn ewyllysio cadw Paul a rwystrodd iddynt eu hamcan, ac a archodd i bawb a’r a fedre nofio, gan ymfwrw yn gyntaf i’r môr, ddiangc i dir.
44A’r lleill rai ar ystyllod, ac eraill o’r ryw ddrylliau o’r llong, ac felly y daeth pawb i dir yn ddiangol.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.