1Dyweded Israel yr awr hon, oni buase i’r Arglwydd fod gyd â ni:
2Oni buase’r Arglwydd gyd a ni pan gyfododd dynnion yn ein herbyn ni,
3Yna ein llyngcasent ni yn fyw, pan enynnodd eu llid hwynt i’n herbyn:
4Yna y dyfroedd a’n boddasent ni: afon a aethe tros ein henaid.
5Yna ’r aethe tros ein henaid ddyfroedd chwyddedig:
6Bendigedic yw’r Arglwydd, yr hwn ni roddodd ni yn sclyfaeth iw dannedd hwynt.
7Ein henaid a ddihangodd fel aderyn o faglau’r adarwŷr: y fagl a dorrwyd, a ninneu a ddianghasom:
8Ein porth ni sydd yn enw’r Arglwydd, yr hwn a wnaeth nefoedd a daiar.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
