Psalmau 43 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. xliij.Iudica me Deus.

1Barn fi, ô Dduw, a dadle fy nadl, yn erbyn y genhedlaeth anrhugarog: gwaret fi rhag y dŷn twyllodrus ac anwir.

2Canys ti Dduw fy nerth, pa ham i’m ffieiddiaist? pa ham yr âf alarus trwy orthrymder y gelyn?

3Anfon dy oleuni, a’th wirionedd, tywysant hwy fi, ac arweiniant fi i fynydd dy sancteiddrwydd, ac i’th bresswylfod.

4Yna’r âf at allor Duw, at Dduw hyfrydwch fyng-orfoledd, ac mi a’th foliannaf ar delyn ô Dduw, fy Nuw.

5Pa ham i’th ddarostyngir fy enaid? a pha ham y terfysci ynof? gobeithia yn Nuw, canys etto y moliannaf ef, iechydwriaeth fy wyneb, a’m Duw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help