Psalmau 115 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. cxv.

1Nid i ni ô Arglwydd, nid i ni, ond i’th enw dy hun dod ti ogoniant o herwydd dy drugaredd a’th wirionedd.

2Pa ham y dywed y cenhedloedd, pa le yn awr eu Duw hwynt?

3Canys ein Duw ni yn y nefoedd: efe a wnaeth yr hyn a fynnodd oll.

4Eu delwau hwy o aur, ac arian, o waith dynnion.

5Genau iddynt, ac ni lefarant, llygaid ganddynt, ac ni welant.

6[Y mae] clustiau iddynt, ac ni chlywant, ffroenau ganddynt, ac ni aroglant.

7Dwylo iddynt, ac ni theimlant: traed iddynt, ac ni cherddant: ni leisiant ai gwddf.

8Y rhai ai gwnânt ydynt fel hwythau, phob vn a ymddiriedo ynddynt.

9[Tŷ] Israel ymddyriet ti yn yr Arglwydd, efe yw eu porth, ai tarian.

10Tŷ Aaron ymddyriedwch yn yr Arglwydd: efe yw eu porth, ai tarian.

11Y rhai a ofnwch yr Arglwydd, ymddyriedwch yn yr Arglwydd: efe yw eu porth, ai tarian.

12Yr Arglwydd a’n cofiodd ni, efe bendithia, bendithia efe dŷ Israel: bendithia efe dŷ Aaron.

13Bendithia efe y rhai a ofnant yr Arglwydd, fychain, a mawrion.

14Yr Arglwydd a chwanêga arnoch arnoch chwi, ac ar eich plant.

15Bendigêdic ydych chwi gan yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth nefoedd a daiar.

16Y nefoedd’r nefoedd eiddo yr Arglwydd: efe a roddes y ddaiar i feibion dynnion.

17Y meirw ni foliannant yr Arglwydd, na’r rhai oll a ddescynnant i ddistawrwydd.

18Ond nyni a fendithiwn yr Arglwydd o hyn allan yn dragywydd. Molwch yr Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help