Psalmau 44 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. xliiij.Deus auribus nostris.Athrawiaeth at y pen-cerdd o feibion Corah.

1 Duw clywsom a’n clustiau, ein tadau a fynegâsant i ni y gweithredoedd a wnaethost yn eu hamser hwynt, yn y dyddiau gynt.

2Ti â’th law a orescynnaist y cenhedloedd, ac ai plennaist hwythau, ti a ddygaist y bobloedd, ac ai cynnyddaist hwythau.

3Canys nid ai cleddyf eu hun y gorescynasant y tîr, nid eu braich a barodd iechydwriaeth iddynt, eithr dy ddeheu-law di, a’th fraich, a llewyrch dy wyneb, o herwydd i ti eu hoffi hwynt.

4Ti Dduw yw fy mrenin: gorchymyn iechydwriaeth Iacob.

5Ynot ti y difethwn ni ein gelynnion: yn dy enw di y sathrwn y rhai a gyfodant i’n herbyn.

6O herwydd nid yn fy mŵa’r ymddyriedaf, nid fyng-hleddyf hefyd a’m hachub.

7Eithr ti a’n hachubaist ni oddi wrth ein gwrthwyneb-wŷr, ac a waradwyddaist ein caseion:

8Am hynny y moliannwn Dduw bôb dydd: ac y clodforwn dy enw yn dragywydd.Selah.

9Ond ti a giliaist, ac a’n gwradwyddaist ni, ac nid wyt yn myned allan gyd a’n lluoedd ni.

10Gwnaethost i ni droi yn ôl oddi wrth y gelyn: a’n caseion a anrhaithiâsant iddynt eu hun.

11Rhoddaist ni fel defaid iw bwytta, gwasceraist ni ym mysc y cenhedloedd.

12Gwerthaist dy bobl heb elw, ac ni chwanêgaist oi gwerth hwynt.

13Gossodaist ni yn warthrudd i’n cymmydogion, yn watwargerdd, ac yn ddiystyrwch ym mhlith y rhai ydynt o’n hamgylch.

14Gossodaist ni yn ddihareb ym mysc y cenhedloedd, yn rhai i escwyd pen arnynt ym mysc y bobloedd.

15Fyng-warthrudd beunydd ger fy mron, a chywilydd fy wyneb a’m tôdd.

16Gan lais y gwarthrudd-ŵr a’r cabl-wr, o herwydd y gelyn a’r ymddial-wr.

17Hyn oll a ddaeth arnom: etto ni’th anghofiasom di, ac ni buom anffyddlon yn dy gyfammod.

18Ni thrôdd ein calon yn hôl, ac ni lithrodd ein cerddediad oth lwybr di.

19Er i ti ein cûro i drig-fa dreigiau, a thoi trosom â chyscod angeu.

20Os anghofiasom enw ein Duw: neu estyn ein dwylo at Dduw dieithr:

21Oni chwilia Duw hyn allan? canys efe a ŵyr ddirgêloedd calon.

22O herwydd mai er dy fwyn di i’n lleddir beunydd, i’n cyfrifir fel defaid iw lladd:

23Cyfot i fynu, pa ham y cysci ô Arglwydd? na chilia yn dragywydd.

24Pa ham y cuddi dy wyneb, yr anghofi ein cystudd, a’n gorthrymder?

25Canys gostyngwyd ein henaid i’r llwch: glŷnodd ein bol wrth y ddaiar.

26Cyfot yn gynnorthwy i ni, ac gwaret ni er mwyn dy drugaredd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help