1Duw sydd obaith a nerth i ni, hawdd ei gael mewn cyfyngder.
2Am hynny nid ofnem pe syfle y ddaiar, a phe symmude y mynyddoedd i ganol y môr.
3[Pe] terfysce, a chymmysce ei ddyfroedd, cynhyrfe y mynyddoedd gan ei fordwy ef.Selah.
4Ffrydiau ei afon a lawenhânt ddinas Dduw: cyssegr presswylfeudd y Goruchaf.
5Duw oi mewn hi, nid yscog hi: Duw ai cynnorthwya yn foreu iawn.
6Y cenhedloedd a derfyscâsant, y teyrnasoedd a yscogâsant roddes efe ei lef, toddodd y ddaiar.
7[Y mae] Arglwydd y lluoedd gyd â ni: Duw Iacob yn amddeffynfa i ni.Selah.
8Deuwch, gwelwch weithredoedd yr Arglwydd pa anghyfannedd-dra a osododd efe ar y ddaiar.
9Gwnaiff i ryfeloedd beidio hyd eithaf y ddaiar, efe a ddryllia’r bŵa, ac a dyrr y waiwffon, a lysc y cerbydau â thân.
10Peidiwch, a gwybyddwch mai myfi Dduw: derchefir fi ymysc y cenhedloedd, derchefir fi ar y ddaiar.
11[Y mae] Arglwydd y lluoedd gyd â ni: amddeffynfa i ni Duw Iacob.Selah.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
