1Pwy bynnag sydd yn credu mai Iesu yw’r Crist, o Dduw y ganed, a phob vn sydd yn caru yr hwn a genhedlodd, sydd hefyd yr hwn a genhedlwyd o honaw.
2Yn hyn y gŵyddom y carwn blant Duw, pan ydym yn caru Duw, ac yn cadw ei orchymynnion.
3Canys hyn yw cariad Duw, bod i ni gadw ei orchymynnion: a’i Canys y mae pob vn a’r a aned o Dduw yn gorchfygu’r byd a hon yw yr oruchafiaeth yr hon sydd yn gorchfygu y byd, ein ffydd ni.
5 1.Cor.15.37. Pwy sydd yn gorchfygu yr byd, onid yr hwn sydd yn credu mai Iesu yw Mab Duw?
6Hwn yw’r Iesu Grist a ddaeth trwy ddwfr a gwaed, nid trwy ddwfr yn vnic, onid 547 trwy ddwfr a gwaed: a’r Yspryd yw’r hwn sydd yn testiolaethu: canys yr Yspryd sydd wirionedd.
7Canys y mae tri yn testiolaethu yn y nef, y Tad, y Gair, a’r Yspryd glân: a’r tri hyn vn ydynt.
8Ac y mae tri yn testiolaethu ar y ddaiar, yr Yspryd a’r dwfr a’r gwaed: a’r tri hyn yn vn y maent
9Os testiolaeth dynnion a dderbyniwn y mae testiolaeth Duw yn fwy: canys hyn yw testiolaeth Duw, yr hon a destiolaethodd efe am ei Fab.
10Yr hwn sydd yn credu Io.3.36.ym Mab Duw y mae iddo y destiolaeth ynddo ei hun: hwn nid yw yn credu i Dduw, ai gwnaeth ef yn gelwyddog, gan na chredodd y destiolaeth yr hon a destiolaethodd Duw am ei Fab.
11A hon yw’r destiolaeth, roddio Dduw i ni fywyd tragywyddol: a’r bywyd hwn sydd yn ei Fab ef.
12Yr hwn y mae y Mab ganddo, y mae y bywyd ganddo: a’r hwn nid yw ganddo Fab Duw, nid oes ganddo fywyd.
13Y pethau hyn a scrifennais attoch chwi y rhai ydych yn credu yn enw Mab Duw, fel y gwypoch fod i chwi fywyd tragywyddol, ac fel y credoch yn enw Mab Duw.
14 Pen.3.22. A hyn yw’r hyfder sydd genym ynddo ef, canys o gofynnwn ddim yn ôl ei ewyllys ef, efe a’n gwrendu.
15Ac os gwyddom ei fod ef yn ein gwrando, pa bynnag a ofynnom, gwyddom fod i ni ein gofynniad a ofynnom iddo ef.
16Os gwêl neb ei frawd yn pechu pechod, nid i farwolaeth, gofynned, ac efe a rydd iddo fywyd, sef i’r rhai ni phechant i farwolaeth: y mae pechod i farwolaeth, nid wyf yn dywedyd y dylid gweddio tros hwnnw.
17Pob anghyfiawnder sydd bechod: ac y mae pechod nid i farwolaeth.
18Pwy bynnag a aned o Dduw, gwyddom nad yw yn pechu, eithr hwn a genhedlwyd o Dduw a’i ceidw ei hun, a’r drwg ni chyfwrdd ag ef.
19Gwyddom ein bod o Dduw, ac y mae yr holl fyd yn gorwedd mewn drygioni.
20Ac a ŵyddom Luc.24.45.ddyfod Mab Duw, ac efe a roes i ni feddwl i adnabod yr hwn sydd gywir, ac yr ydym yn y cywir hwnnw yn ei Fab ef, Iesu Grist: yr hwn sydd wir Dduw, a bywyd tragywyddol.
21[Fy] rhai bychain ymgedwch oddi wrth eulynnod. Amen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.