Iudith 1 - William Morgan Bible 1588 original edition

PENNOD. I.Adailadaeth Ecbatan. 5 Nabuchodonosor yn gorchfygu Arphaxad. 12 Ac yn bygwth y rhai ni ddaethent iw gynnorthwyo ef.

1Yn y ddeuddecfed flwyddyn o deyrnasiad Nabuchodonosor, yr hwn a deyrnasodd yn Ninife y ddinas fawr [yn nyddiau Arpharad, yr hwn a deyrnasodd ar y Mediaid yn Ecbatan,

2Ac a adailadodd yn Echatan y muroedd oddi amgylch o gerric nâdd, yn dri chufydd o lêd, ac yn chwe chufydd o hŷd, ac a wnaeth vchder y mur o ddêc cufydd a thrugain, ai dewdwr o ddêc cufydd a deugain,

3Ai thŷrau hi a osododd efe ar ei phyrth hi o gant cufydd, ai llêd a sylfaenodd efe o drî vgain cufydd,

4Ac efe a wnaeth ei phyrth hi yn byrth derchafedic o ddêc cufydd a thrugain o vchder, ai llêd yn ddeugain cufydd yn ffordd iw luoedd galluoc ef fyned allan, ac i fyddinoedd ei wŷr traed ef)

5Ie yn y dyddiau hynny y brenin Nabuchodonosor a ryfêlodd yn erbyn brenin Arpharad yn y maes mawr, hwnn yw ’r maes yn ardaloedd Ragau.

6Yna holl drigiolion y mynyddoedd, a’r holl rai a’r a oeddynt yn presswylio wrth Euphrates, a Thygris, a Hysdaspes, a gwlâd Arioch brenin yr Elymiaid a ddaethant atto ef: a llawer iawn o genhedloedd a ymgynnullasant i ryfel meibion Gelod.

7A Nabuchodonosor brenin yr Assyriaid a anfonodd at yr holl rai a’r a oeddynt yn trigo o fewn Persia, a’r holl rai a’r oeddynt yn trigo yn y gorllewyn, ac at y rhai oeddynt yn presswylio yn Cilicia, a Damascus, a Libanus, ac Antilibanus, ac at yr holl rai a’r a oeddynt yn presswylio ar hŷd wyneb y mor-dîr.

8Ac at y bobloedd y rhai oeddynt o fewn Carmel, a Galaad, a Galile vchaf, a maes mawr Esorelom,

9Ac at yr holl rai a’r a oeddynt yn Samaria ai dinasoedd, a thu hwnt i’r Iorddonen hyd Ierusalem, a Betan, a Chelus, a Chades, ac afon yr Aipht, a Thaphnes, a Ramesse, a holl wlâd Gesem,

10Hyd oni ddelir at Tanis, a Memphis, ac at holl drigolion yr Aipht, ac oni ddelir i fyny­ddoedd Ethiopia.

11Ond holl drigolion y wlâd hon a ddiysty­râsant orchymyn Nabuchodonosor brenin yr Assyriaid, ac ni ddaethant gyd ag ef i’r rhyfel, o herwydd nid ofnasant rhagddo ef: îe yr oedd efe ger eu bronnau hwynt megis vn gŵr: am hynny hwynt a annfonasant ymmaith ei gennadau ef oddi wrthynt yn ddiystyr drwy ammarch.

12Am hynny Nabuchodonosor a lidiodd yn erbyn yr holl wlâd hon yn ddirfawr, ac a dyngodd iw deyrn-gader ai frenhiniaeth, yr ymddiale efe ar holl derfynau Cilicia, a Da­mascus, a Syria ac y lladde efe a’r cleddyf holl bresswyl-wŷr gwlâd Moab, a meibion Ammon, a holl Iuda, a’r rhai oll oeddynt yn yr Aipht, hyd oni ddelir i derfynau y ddau-fôr.

13Yna efe a fyddinodd ai nerth yn erbyn brenin Arphaxad, yn yr ail flwyddyn ar bympthec, ac efe a orchfygodd yn ei ryfel: canys efe a ymchwelodd holl nerth Arpharad, ai holl feirch ef, ai holl gerbydau.

14Ac efe a ennillodd ei ddinasoedd ef, ac a ddaeth hyd Ecbatan, ac a orescynnodd y tŷrau, ac anrheithiodd ei heolydd hi, ac a osododd ei harddwch hi yn wradwydd.

15Ac efe a ddaliodd Arpharad ym mynyddoedd Ragau, ac ai tarawodd trwyddo âi biccellau, ac ai destruwiodd ef ar hŷd y dwchwn hwnnw.

16Felly efe a ddychwelodd i Ninife, efe ai holl fintei yn dyrfa fawr iawn o ryfel-wŷr, ac efe a fu yno yn segura, ac yn gwledda, efe âi lu dros gant ac vgain o ddiwrnodau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help