1Wedi iddynt aros dair blynedd heb ryfel rhwng Syria ac Israel:
2Yna yn y drydedd flwyddyn, Iehosaphat brenin Iuda a ddaeth i wared at frenin Israel.
3A brenin Israel a ddywedodd wrth ei weision, oni wyddoch mai eiddo ni Ramoth Gilead? a’n bod ni yn tewi heb ei dwyn hi o law brenin Syria?
4Yna efe a ddywedodd wrth Iehosaphat, 2.Cron.18.3.a ei di gyd a mi i ryfel Ramoth Gilead? ac Iehosaphat a ddywedodd wrth frenin Israel, yr ydwyfi fel tithe, fy mhobl i fel dy bobl dithe, fy meirch i fel dy feirch dithe.
5Iehosaphat hefyd a ddywedodd wrth frenin Israel: ymgynghora attolwg heddyw a gair yr Arglwydd.
6Yna brenin Israel a gasclodd o’r prophwydi yng-hylch pedwar cant o wŷr, ac a ddywedodd wrthynt hwy, a âf fi yn erbyn Ramoth Gilead i ryfel neu a beidiafi? dywedasant hwythau dos i fynu, canys yr Arglwydd ai dyru hi yn llaw’r brenin.
7Ac Iehosaphat a ddywedodd, onid ymma prophwyd i’r Arglwydd mwyach? fel yr ymgynghorem ag ef?
8A brenin Israel a ddywedodd wrth Iehosaphat, etto vn gwr drwy’r hwn y ymgynghori a’r Arglwydd, eithr câs yw gennyfi ef, canys ni phrophwyda efe i mi ddaioni namyn drygioni: (Michea mab Iimla a dywedodd Ichosphat, na ddyweded brenin felly.
9Yna brenin Israel a alwodd ar vn stafellyddion, ac a ddywedodd: bryssia Michea fab Iimla.
10A brenin Israel, ac Iehosaphat brenin Iuda oeddynt yn eistedd bob vn ar ei deyrn-gader wedi eu gwisco mewn wiscoedd, mewn llānerch ddrws porth Samaria: a’r holl brophwydi oeddynt yn prophwydo ger eu bron hwynt.
11A Zidecia mab Chanaana a wnaeth gyrn heirn: ac a ddywedodd, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, a’r rhai hyn y corni di y Syriaid nes it eu difa hwynt.
12A’r holl brophwydi oeddynt yn prophwydo fel hyn gan ddywedyd: dos i fynu i Ramoth Gilead, a ffynna, canys yr Arglwydd ai dyru hi yn llaw yr brenin.
13A’r gennad yr hwn a aethe i alw Michea a lefarodd wrtho ef gan ddywedyd: 2.Cron.18.12wele yn awr eiriau y prophwydi yn vn air yn dda i’r brenin: bydded attolwg dy air dithe, fel gair vn o’r rhai hynny, a dywet y goref.
14A dywedodd Michea: mai byw’r Arglwydd, mai’r hyn a ddywedodd yr Arglwydd wrthifi, hynny a lefaraf.
15Felly efe a ddaeth at y brenin, a’r brenin a ddywedodd wrtho, Michae, a awn ni i ryfel Ramoth Gilead, ai peidio? dywedodd yntef wrtho, dôs i fynu, a llwydda, canys yr Arglwydd ai dyru hi yn llaw’r brenin.
16A’r brenin a ddywedodd wrtho ef, hyd ba sawl gwaith yr ydwyfi yn dy dynghedu di, ar na ddywedech di wrthif onid gwirionedd yn enw yr Arglwydd?
17Yna efe a ddywedodd, gwelais holl Israel yn wascaredic ar hŷd y mynyddoedd, fel defaid y rhai ni iddynt fugail: a dywedodd yr Arglwydd, nid feistred arnynt hwy, dychweled pob vn iw dŷ ei hun mewn heddwch.
18A brenin Israel a ddywedodd wrth Iehosaphat: oni ddywedais i wrthit ti na prophwyde efe ddaioni i mi, eithr drygioni?
19Ac efe a ddywedodd, clyw gan hynny air yr Arglwydd: gwelais yr Arglwydd yn eistedd ar ei orseddfa, a holl lu y nefoedd yn sefyll o bob parth iddo ef ar ei law ddehau, ac ar ei law asswy ef.
20A’r Arglwydd a ddywedodd, pwy a dwylla Ahab, fel yr elo efe i fynu, ac y syrthio yn Ramoth Gilead: ac vn a ddywedodd fel hyn, ac arall oedd yn dywedyd fel hyn.
21Yna yspryd a ddaeth allan, ac a safodd ger bron yr Arglwydd, ac a ddywedodd, myfi ai twyllaf ef: a dywedodd yr Arglwydd wrtho ef, pa fodd?
22Dywedodd yntef, mi a âf allā, ac a fyddaf yn yspryd celwyddoc yng-enau ti holl brophwydi ef: yna a ddywedodd, twylli a gorchfygi dôs ymmaith, a gwna felly.
23Ac yn awr wele’r Arglwydd a roddodd yspryd celwyddoc yng-enau dy holl brophwydi hynn: a’r Arglwydd a lefarodd ddrwg am danat ti.
24Yna Zidecia mab Canaanah a nessaodd, ac a darawodd Michea tan gern: ac a ddywedodd, 2.Cron.18.28.pa bryd yr aeth yspryd yr Arglwydd oddi wrthifi i ymddiddan a thi?
25A Michea a ddywedodd, wele ti a gei weled yn y dwthwn hwnnw, pan elech di o stafell i stafell i ymguddio.
26A brenin Israel a ddywedodd, cymmer Michea, a dŵg ef at Amon tywysog y ddinas,
27A dywet, fel hyn y dywedodd y brenin, gosodwch hwn yn y charchar-dŷ: a bwydwch ef a bara cystudd, ac a dwfr blinder, nes i mi ddyfod mewn heddwch.
28A dywedodd Michea, os gan ddychwelyd y dychweli di mewn heddwch, ni lefarodd yr Arglwydd ynofi: dywedodd hefyd, gwrandewch yr holl bobl.
29Felly brenin Israel, ac Iehosaphat brenin Iuda a aethant i fynu i Ramoth Gilead.
30A brenin Israel a ddywedodd wrth Iehosaphat, 2.Cron.18.29.mi a newidiaf fy nillad, ac a âf i’r rhyfel, ond gwisc di dy ddillad dy hun: a brenin Israel a newidiodd ei ddillad, ac a aeth i’r rhyfel.
31A brenin Syria a orchymynnodd i dywysogion y cerbydau y rhai ganddo ([sef] deuddec ar hugain) gan ddywedyd, nac ymleddwch a bychan, nac’a mawr: onid a brenin Israel ei hun.
32Pan welodd tywysogion y cerbydau Iehosaphat, yna hwy a ddywedasant, diau brenin Israel efe, a hwynt a droasant i ymladd yn ei erbyn ef: a Iehosaphat a waeddodd.
33A phan welodd tywysogion y cerbydau nad brenin Israel oedd efe: yna hwynt a ddychwelasant oddi ar ei ôl ef.
34Yna rhyw ŵr a dynnodd mewn bŵa ar ei amcan, 2.Cron.18.33.ac a darawodd frenin Israel rhwng y cyssylltiadau, sef rhwng y lluric: am hynny efe a ddywedodd wrth ei wastrawd, trô dy law, a dwg fi allan o’r fyddin canys fo’m clwyfwyd i.
35A’r rhyfel a gryfhaodd y dwthwn hwnnw, a’r brenin oedd wedi ei osod mewn cerbyd ar gyfer, y Syriaid: ac efe a fu farw gyd ar hwyr, a gwred yr archoll a ffrydiodd i ganol y cerbyd.
36Am hynny yr aeth cyhoeddiad trwy’r gwerssyll yng-hylch machludiad yr haul gan ddywedyd: pob vn iw ddinas, a phob vn iw wlâd ei hun.
37Felly y bu farw’r brenin, ac y daeth efe i Samaria: a’r a gladdasant y brenin yn Samaria.
38Yna y glochwyd ei gerbyd ef yn llynu Samaria, a’r cŵn a lyfasant ei waed ef, (yr arfau hefyd a olchwyd) yn ôl gair yr Arglwydd yr hwn a lefarase efe.
39A’r rhan arall o hanession Ahab, a’r hyn oll a wnaeth efe, a’r tŷ ifori’r hwn a adailadodd efe, a’r holl ddinasoedd y rhai a adailadodd efe: onid ydynt hwy yn scrifennedic yn llyfr Cronicl brenhinoedd Israel?
40Felly Ahab a hunodd gyd ai dadau: ac Ahazia ei fab ef a deyrnasodd yn ei lê ef.
41Ac Iehosaphat mab Asa a aethe yn frenin ar Iuda yn y bedwaredd flwyddyn i Ahab brenin Israel.
42Iehosaphat 2.Cron.20.31.fab pymthengmlwydd ar hugain pan aeth efe yn frenin, a phum mhlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Ierusalem: ac enw ei fam ef Azuba merch Silhi.
43Ac efe a rodiodd yn holl ffordd Asa ei dad, ni ledpeiodd efe oddi wrthi hi, gan wneuthur yr hyn oedd inion yng-olwg yr Arglwydd.
44 Er hynny ni thynnwyd ymmaith yr vchelfeudd, y bobl oeddynt etto yn offrymmu, ac yn arogldarthu yn yr uchelfeudd.
45Ac Iehosaphat a heddychodd a brenin Israel.
46A’r rhan arall o hanes Iehosaphat, ai rymmysdra yr hwn a wnaeth efe, a’r môdd yr ymladodd efe: onid ydynt hwy yn scrifennedic yn llyfr Cronicl brenhinoedd Iuda?
47A’r rhan arall o’r Sodomiaid a’r a adawyd yn nyddiau Asa ei dad ef: efe ai deleodd hwynt o’r wlâd.
48Yna nid brenin yn Edom: duwc oedd yn llê brenin.
49Iehosaphat a wnaeth longau môr i fyned i Ophir am aur, ond nid aeth efe, 2.Cron.20.37.canys y llongau a ddrylliasant yn Ezion Gaber.
50Yna y dywedodd Ahazia mab Ahab wrth Iehosaphat, eled fyng-weision i gyd a’th weision di yn y llongau: ond ni fynne Iehosaphat.
51Ac Iehosaphat a hunodd gyd ai dadau, ac a gladdwyd gyd ai henafiaid yn ninas Dafydd ei dad: ac Ioram ei fab ef a deyrnasodd yn ei le ef.
52Ahazia mab Ahab a aeth yn frenin ar Israel yn Samaria yn y ddwyfed flwyddyn ar bymthec i Iehosaphat brenin Iuda: ac efe a deyrnasodd ar Israel ddwy flynedd.
53Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng-olwg yr Arglwydd: ac a rodiodd yn ffordd ei dad, ac yn ffordd ei fam, ac yn ffordd Ieroboam mab Nabat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu.
54Canys efe a wasanaethodd Baal, ac a ymgrymmodd iddo ef: ac a ddigiodd Arglwydd Dduw Israel, yn ôl yr hyn oll a wnaethe ei dâd ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.