2.Cronicl 15 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XV.Asa wrth gyngor Azaria yn deleu gau-dduwiaeth. 14 yn peri i’r bobl wneuthur cyngrair a’r Arglwydd 16 ac yn diswyddo ei fam am ei gau-dduwiaeth.

1Yna yspryd Duw a ddaeth ar Azaria fab Obed.

2Ac efe a aeth allan o flaen Asa, ac a ddywedodd wrtho ef, ô Asa, a holl Iuda, a Beniamin gwrandewch fi: yr Arglwydd gyd a chwi tra fyddoch gyd ag ef, ac os ceisiwch ef, chwi ai cewch ef, ac os gwrthodwch ef, yntef a’ch gwrthyd chwitheu.

3Dyddiau lawer i Israel heb y gwir Dduw, ac heb offeiriad yn ddyscawdur, ac heb gyfraith.

4Pan ddychwelodd yn ei gyfyngdra at Arglwydd Dduw Israel, ai geisio ef, yna hwynt ai cawsant ef.

5Ac yn yr amseroedd hynny nid heddwch i’r hwn oedd yn myned allan, ac yn dyfod i mewn: ond blinder lawer ym mysc holl bresswyl-wŷr y ddaiar.

6Canys cenedl a ddinistriwyd gan genedl, a dinas gan ddinas: o blegit yr Arglwydd ai poenodd hwynt a phob aflwydd.

7Cryfhewch gan hynny, ac na laesed eich dwylo: canys y mae gwobr i’ch gwaith chwi.

8Pan glybu Asa y geiriau hyn, a phrophwydoliaeth Obed y prophwyd, yna efe a gryfhaodd, ac a fwriodd ymmaith y ffiaidd o holl wlâd Iuda, a Beniamin, ac o’r holl ddinasoedd y rhai a ennillase efe o fynydd Ephraim: ac efe a adnewyddodd allor yr Arglwydd yr hon o flaen porth yr Arglwydd.

9Ac efe a gynhullodd holl Iuda, a Beniamin, a’r dieithriaid gyd a hwynt o Ephraim, a Manasses, ac o Simeon: canys hwy a syrthiasant atto ef yn aml o Israel, pan welsant fod yr Arglwydd ei Dduw gyd ag ef.

10Felly hwynt a ymgynnullasant i Ierusalem yn y trydydd mis: yn y bymthecfed flwyddyn o deyrnasiad Asa.

11A hwynt a aberthasant i’r Arglwydd y dwthwn hwnnw o’r anrhaith a ddugasent, saith gant o eidionnau, a saith mil o ddefaid.

12A hwynt a ddaethant dann gyfammod i geisio Arglwydd Dduw eu tadau, ai holl galon, ac ai holl enaid.

13A phwy bynnac ni cheisie Arglwydd Dduw Israel, efe a roddid i farwolaeth: yn fychan, yn fawr, yn ŵr, yn wraig.

14A hwynt a dyngasant i’r Arglwydd a llef vchel, ar a bloedd: ag vdcyrn hefyd, ac a thrwmpêdau.

15A holl Iuda a lawenychasant o herwydd y llŵ, canys ai holl galon y tyngasent, ac ai holl ewyllys y ceisiasant ef, a hwynt ai cawsant ef: a’r Arglwydd a roddodd lonyddwch iddynt hwy o amgylch.

16A’r brenin Asa a symmudodd Maacha ei fam o yn dywysoges, 1.Bren.15.13.o herwydd gwneuthur o honi hi ddelw mewn llwyn: ac Asa a dorrodd ei delw hi, ac ai drylliodd, ac ai lloscodd wrth afon Cedron.

17Ond nid yscogwyd yr vchelfeudd o Israel: er hod calon Asa yn berffaith ei holl ddyddiau ef.

18Ac efe a ddûg i mewn i dŷ’r Arglwydd yr hyn a gyssegrase ei dâd ef, a’r hyn a gyssegrasse efe ei hun yn aur, ac yn arian, ac yn lestri.

19Ac ni bu rhyfel hyd y bymthecfed flwyddyn ar hugain o deyrnasiad Asa.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help