Galarnad Ieremi 2 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. II.

1Pa fodd y tywyllodd yr Arglwydd ar ferch Sion yn ei sorriant? efe a fwriodd ogoniant Israel i lawr o’r nefoedd, ac yn ei ddigter ni chofiodd leithic ei draed.

2Yr Arglwydd a ddifethodd heb arbed holl anneddau Iacob, efe a ddifrododd yn ei ddigter amddeffynfeudd merch Iuda, efe ai tynnodd i lawr, a ddifethodd y deyrnas ai thywysogion.

3Mewn sorriant digllon y torrodd efe holl gyrn Israel, efe a dynnodd ddeheu-law yn hôl oddi wrth y gelyn: ac yn erbyn Iacob y cynneuodd megis fflam danllyd a ddifaodd o amgylch.

4Efe a dynnodd ei fwa fel gelyn, gosododd ei ddeheu-law fel gwrth-wyneb-wr, ac a laddodd bob dim hyfryd i’r golwg ym mhabell merch Sion, fel tân y tywalltodd efe ei ddigofaint.

5Yr Arglwydd sydd megis gelyn, efe a ddifethodd Israel, efe a ddifethodd ei holl balasau hi, efe a ddifwynodd ei hamddeffynfeudd, ac a wnaeth gwynfan a galar yn aml i ferch Iuda.

6Efe a anrheithiodd ei babell fel gardd, efe a lygrodd ei gymanfa: yr Arglwydd a wnaeth anghofio yn Sion yr vchel ŵyl a’r Sabboth, ac yn llidiawgrwydd ei sorriant y dirmygodd y brenin a’r offeiriad.

7Yr Arglwydd a wrthododd ei allor, a ffieiddiodd ei gyssegr, a roddodd gaerau ei phalasau hi yn llaw y gelyn: a roddasant lef yn nhŷ yr Arglwydd, megis ar vchel-ŵyl.

8Yr Arglwydd a amcanodd ddifwyno mûr merch Sion, efe a estynnodd linin mesur, ac ni pheidiodd a difetha: am hynny y gwnaeth efe i’r rhacfur, ac i’r mûr alaru, a gyd-fethasant.

9Ei phyrth a soddasant i’r ddaiar, efe a ddifethodd ac a ddrylliodd ei barrau hi, ei brenin, ai thywysogion i fysg y cēhedloedd, heb gyfraith ei phrophwydi hi, heb gael gweledigaeth gan yr Arglwydd.

10Henuriaid merch Sion a eisteddasant i lawr, a dawasant a sôn, a osodasant lwch ar eu pennau, a wiscasant sachliain: merched Ierusalem a ostyngasant eu pennau i lawr.

11Fy llygaid i a ddarfuant gan wylofain, fy emyscaroedd a gyffroasant, fy afi a dywalltwyd ar y ddaiar, o herwydd dinistr merch fy mhobl, pan lewygodd y plant a’r rhai bychain yn heolydd y ddinas.

12[Y rhai] a ddywedant wrth eu mammau, pa le ŷd a gwîn? gan lewygu fel vn archolledic yn heolydd y ddinas, chan farw ar freichiau eu mammau.

13Pa destiolaeth a roddaf i ti, beth a gyffelybaf i ti ô ferch Ierusalem, beth a gystadlaf â thi fel i’th ddiddanwyf ô forwyn merch Sion? canys dy ddinistr gymmeint a’r môr, pwy a’th iachâ di?

14Y mae dy brophwydi yn gweled i ti gelwydd a diflasrwydd, ac ni ddadcuddiasant dy anwiredd fel y dychwelyd dy gaethiwed: eithr hwynt a welsant i ti brophwydoliaethau oferedd a herwriaeth.

15Y rhai oll a drammwyent y ffordd, a gurent eu dwylo arnat ti, a chwibanent, ac a escydwent eu pennau ar ferch Ierusalem ai dymma y ddinas yr hon y dywedpwyd yn berffeith-gwbl o degwch, yn llawenydd i’r holl wlad?

16Dy holl elynnion a ledasant eu safnau arnat ti, a chwibanasant, a escyrnygasant ddannedd, ac a ddywedasant: llyngcwn yn ddiau dymma y dydd yr hwn a ddisgwiliasom ni, ni ai cawsom, gwelsom.

17 Lefit.26.15,25.|LEV 26:15,25 Deut.28.15,25 Yr Arglwydd a wnaeth yr hyn a ddychymygodd, ac a gyflawnodd ei air yr hwn a amcanodd efe er y dyddiau gynt, efe a ddifrododd, ac nid arbedodd, efe a wnaeth i’r gelyn lawenychu yn dy erbyn di, efe a dderchafodd gorn dy wrthwyneb-wŷr di.

18Eu calon hwynt Ier.4.17.|JER 4:17. Pen.1.16a waeddodd ar yr Arglwydd, ô fûr merch Sion difera ddagrau ddydd a nôs fel afon: na orphywys di, ac na pheidied cannwyll dy lygad.

19Cyfot, cyhoedda liw nôs, yn nechreu y wiliadwriaeth, tywallt dy galon fel dyfroedd ger bron yr Arglwydd: derchafa dy ddwylo atto ef, am enioes dy blant y rhai ydynt yn llewygu o newyn ym mhen pob heol.

20Edrych Arglwydd, a gwêl, i bwy y gwnaethost fel hyn? a fwytu y gwragedd eu ffrwyth eu hun plant o rychwant o hŷd? a leddir yn dy gyssegr di yr offeiriad a’r prophwydi?

21Ieuangc a hên ydynt yn gorwedd ar lawr yr heolydd: fy morwynion, a’m gwŷr ieuaingc a syrthiasant drwy y cleddyf: ti ai lleddaist yn nydd dy sorriant, lleddaist heb arbed.

22Gelwaist am rai i’m dychrynnu fi o amgylch megis i vchel-ŵyl yn nydd sorriant yr Arglwydd: nid oedd a ddiangodd, nac a adawyd yn fyw, y gelyn a ddifethodd y rhai a faethais, ac a fegais i.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help