Luc 16 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XVI.Crist trwy siampl y gorchwiliwr ang-hyfiawn yn annog i haelioni cyfiawn ac elusen. 13 Gan ddangos na all neb wasanaehu dau feistr. 18 Ac na ddyle neb yscar â’i wraig a phriodi arall. 19 Ac yn ddiweddaf yn gosod allan hanes y gwr goludog a Lazarus.

1 Ac efe a ddywedodd wrth ei ddiscyblion: yr oedd rhyw ŵr goludog, ac iddo orchwiliwr, ac fe a gyhuddwyd wrtho ei fod efe yn afradloni ei dda ef.

2Efe ai galwodd ef, ac a ddywedodd wrtho: pa beth yw hyn yr wyf yn ei glywed am danat? dyro gyfrif o’th orchwiliaeth, canys ni elli fôd mwy yn orchwiliwr.

3A’r gorchwiliwr a ddywedodd wrtho ei hun, pa beth a wnaf canys y mae fy arglwydd yn dwyn yr orchwiliaeth oddi arnaf? ni fedraf gloddio, a chardotta sydd gywilyddus gennif.

4Gwnn beth a wnaf, fel pan i’m bwrier allan o’r orchwiliaeth, y derbyniant fi iw tai.

5Ac wedi iddo alw pôb vn o ddyledwŷr ei arglwydd, efe a ddywedodd wrth y cyntaf, pa faint sydd arnat o ddyled i’m harglwydd.

6Ac efe a ddywedodd, can mesur o olew: ac efe a ddywedodd wrtho, cymmer dy scrifē ac eistedd yn ebrwydd, ac yscrifenna ddec a daugain.

7Yna y dywedodd efe wrth vn arall, pa faint o ddylêd sydd arnat ti? ac efe a ddywedodd, can mesur o wenith: yna y ddywedodd wrtho, cymmer dy scrifen ac yscrifenna bedwar vgain.

8A’r Arglwydd a ganmolodd y gorchwiliwr anghyfiawn, am iddo wneuthur yn gall, o blegit y mae plant y bŷd hwn yn gallach yn eu cenhedlaethau eu hun, nâ phlant y goleuni.

9Ac yr wyfi yn dywedyd, gwnewch i chwi gyfeillion o’r golud twyllodrus, fel pan fo eisieu arnoch, i’ch derbyniant i’r tragywyddol bebyll.

10Y nêb sydd ffyddlon yn y lleiaf, sydd ffyddlon hefyd mewn llawer: a’r nêb sydd anghyfiawn yn y lleiaf, sydd anghyfiawn hefyd mewn llawer.

11Am hynny, oni buoch ffyddlon yn y golud anghyfiawn, pwy a ymddyried i chwi am y gwir

12Ac oni buoch ffyddlon yn yr eiddo arall, pwy a rydd i chwi’r eiddoch eich hun?

13Ni ddichon Yr oedd rhyw ŵr goludog, ac yn gwisco porphor a sidan main, ac yn cymmeryd ei fyd yn ddainteithiol ac yn fwythus beunydd.

20Yr oedd hefyd ryw gardottyn a elwyd Lazarus, yr hwn a orwedde wrth ei borth ef yn gornwydlyd,

21Ac yn chwēnychu cael ei borthi â’r briwsion a syrthie oddi ar fwrdd y gŵr cyfoethog: ond y cŵn a ddaethant, ac a lyfasant ei gornwydydd ef.

22A darfu i’r cardottyn farw, ac efe a dducpwyd gan yr angelion i fynwes Abraham, a’r gŵr goludog a fu farw hefyd, ac a gladdwyd.

23Ac efe yn vffern mewn poenau wrth godi ei olwg, ac efe, a ganfu Abraham o hirbell, a Lazarus yn ei fynwes.

24Yna efe a lefodd, gan ddywedyd, y tâd Abraham, trugarhâ wrthif, a danfon Lazarus i drochi pen ei fŷs mewn dwfr, ac i oeri fy-nhafod: canys fe a’m poenir yn y fflam hon.

25Ac Abraham a ddywedodd, hâ fâb, coffa i ti dderbyn dy wynfyd yn dy fywyd: ac felly Lazarus ei adfyd: ac yn awr y diddenir ef, ac y poenir dithe.

26Ac heb law hyn oll y mae gagendor wedi gosod rhyngom ni a chwi, fel na allo y rhai a fynnent drammwy oddi ymma attoch chwi, na dyfod oddi yna ymma.

27[Yntef] a ddywedodd, attolwg i ti dâd, etto danfon ef i dŷ fy nhâd.

28[Canys] y mae i mi bump o frodyr: fel y testiolaetho iddynt hwy, rhag dyfod o honynt hwythau hefyd i’r lle poenus hwn.

29Abraham a ddywedodd wrtho, y mae ganddynt Moses a’r prophwydi, gwrandawant arnynt hwy.

30Yntef a ddywedodd, nâg e, y tâd Abraham, eithr os aiff vn o’r meirw attynt, hwy a ediferhânt.

31[Yna Abraham] a ddywedodd wrtho: oni wrandawant ar Moses a’r prophwydi, ni chredent pe code vn oddi wrth y meirw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help