Ephesiaid 3 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. III.Yng-hylch ei garchar, a’i weinidogaeth. 14 Gweddi Paul tros yr Ephesiaid.

1 Er mwyn hyn yr wyfi Paul yn garcharor Iesu Grist trosoch chwi y cenhedloedd,

2Os clywsoch am orchwiliaeth grâs Duw yr hon a roddwyd i mi tu ag attoch chŵi:

3Canys trwy weledigaeth yr yspysodd efe y dirgelwch hwnnw i mi (megis yr scrifennais o’r blaen ar ychydig

4Wrth yr hyn pan ddarlenoch y gellwch ŵybod fy neall yn nirgelwch Crist)

5Yr hwn yn oesoedd eraill ni’s eglurwyd i feibion dynion, fel y mae yr awron wedi ei ddadcuddio iw sanctaidd Apostolion a phrophwydi trwy ’r Yspryd glân,

6Bod y cenhedloedd yn gŷd-etifeddion hefyd, ac yn gyd-gorph, ac yn gyfrannogion o’i addewid ef yng-Hrist trwy yr Efengyl,

7I’r hon i’m gwnaed i yn weinidog trwy roddiad grâs Duw, yr hwn a roddwyd i mi Achos pa ham yr wyf yn dymuno na lwfrhaoch, o blegit fy mlinderau i er eich mwyn chwi, yr hyn yw eich gogoniant.

14O herwydd y peth hyn y plygaf fyng-liniau at Dâd ein Harglwydd Iesu Grist,

15O ba vn yr henwir yr holl deulu yn y nefoedd, ac ar y ddaiar,

16Ar roddi o honnaw ef i chwi yn ôl cyfoeth ei ogoniant, ymgadarnhau mewn nerth trwy ei Yspryd ef yn y dŷn oddi mewn,

17Fel y trigo Crist yn eich calonnau trwy ffydd.

18Fel y galloch wedi eich gwreiddio, a’ch seilio mewn cariad, ymgyffred gyd â’r holl sainct, beth yw’r llêd a’r hyd, a’r dyfnder a’r vchder,

19Ac adnabod cariad Crist, yr hwn sydd yn rhagori pôb gŵybodaeth, fel eich llanwer yn hollawl â holl gyflawnder Duw.

20 Ruf.16.25. Iddo ef, yr hwn a ddichon wneuthur pôb peth yn fwy tra-rhagorol nac yr ydym ni yn dymuno, nac yn deall, o herwydd y nerth sydd yn gweithio ynom,

21Y byddo gogoniant yn yr eglwys trwy Grist Iesu, tros yr holl genhedlaethau hyd yn oes oesoedd, Amen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help