1 Gostwng ô Arglwydd dy glust, gwrando fi: canys truan a thlawd fi.
2Cadw fy enaid canys duwiol achub di dy wâs ô Dduw’r hwn sydd yn ymddyried ynot.
3Trugarhâ wrthif Arglwydd, canys arnat y llefaf beunydd.
4Llawenhâ enaid dy wâs, canys attat y derchafaf fy enaid.
5Canys ti ô Arglwydd ddâ a thrugarog: ac o fawr drugaredd i’r rhai oll a alwant arnat.
6Clyw Arglwydd fyng-weddi: ac ystyria ar lais fy ymbil.
7Yn nydd fyng-hyfyngder y llefaf arnat: canys gwrandewi fi.
8Nid fel tydi ym mysc y duwiau: nac fel dy weithredoedd di ô Arglwydd.
9Yr holl genhedloedd y rhai a wnaethost a ddeuant, ac a addolant ger dy fron di ô Arglwydd: ac a ogoneddant dy enw.
10Canys fawr, ac yn gwneuthur rhyfeddodau: ti yn vnic Dduw.
11Dysc i mi dy ffordd ô Arglwydd, ac mi a rodiaf yn dy wirionedd di: vna fyng-halon fel yr ofnwyf dy enw.
12Moliannaf di ô Arglwydd fy Nuw a’m holl galon: a gogoneddaf dy enw yn dragywydd.
13Canys mawr dy drugaredd tu ag attafi, a gwaredaist fy enaid o vffern issod.
14Rhai beilchion a gyfodasant i’m herbyn ô Dduw, a chynnulleidfa y cedyrn a geisiasant fy enaid, ac ni’th osodasant di ger eu bron.
15Eithr ti ô Arglwydd Dduw drugarog, a gras-lawn: hwyrfrydic i lid, ac aml o drugaredd a gwirionedd.
16Edrych arnaf, a thrugarhâ wrthif: dod ti dy nerth i’th wâs, ac achub fab dy wasanaethferch.
17Gwna di i mi arwydd daioni, fel y gwelo fyng-haseion, ac y gwradwydder hwynt, am i ti ô Arglwydd fyng-hynnorthwyo a’m diddânu.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
