Tobias 1 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IAchau, duwioldeb a ffyddlondeb Tobit, 13 Ei lwyddiant ef. 19 Am ei garedigrwydd iw bobl y ciliodd ymmaith oi wlâd. 22 Ei heddwch ef, ai ddychweliad adref.

1Llyfr o ymadroddion Tobit Tobiel, Ananiel, Adui,, Gabael, o hil Asael, o lwyth Nephthalim,

2Yr hwn yn amler En­emessar brenin yr Assyriaid, a gaeth-gludwyd o Thisbe yr hon sydd goruwch Aser, o’r tu dehau, yn agos i Nephthalim, yn Galilæa.

3Myfi Tobit a rodiais holl ddyddiau fy ho­edl yn ffyrdd gwirionedd a chyfiawnder, ac a wneuthum elysenau lawer i’m brodyr, ac i’m cenedl y rhai a aethant gyd â mi i wlâd yr Assyriaid i Ninife.

4A phan oeddwn i yn fyng-wlad fy hun yn nhir Israel, a mi etto yn fachgen, cwbl o lwyth Nephthalim fy nhad a giliodd oddi wrth y tŷ Ierusalem, yr hon a ddewisasid ym mysc holl lwythau Israel, megis yr holl lwythau aberthu yno, lle yr oedd teml i babell y Goruchaf wedi ei chyssegru ai hadeiladu yn dragywyddol.

5A’r holl lwythau y rhai a giliasent a thŷ fy nhad inef Neph­thalim, a offrymmasant i’r anner Baal:

6Eithr myfi fy hunan (yn ôl yr ordinhâd tragywyddol a orchymynnasid i holl Israel) a aethym yn fynych i Ierusalem ar y gŵyliau gan ddwyn gyd â mi gynnfrwyth a degwm cynnydd yr anifeiliaid, a’r cyn-gnaif, y rhai a roddais i i’r offeiriaid, sef meibion Aaron wrth yr allor.

7Y degwm cyntaf mi ai rhoddais i feibion Aaron, y rhai oeddynt wenidogion yn Ierusalem: yr ail degwm mi ai gwerthais, ac a euthym, ac ai gweriais yn Ierusalem bôb blwyddyn:

8A’r trydydd mi ai rhoddais i’r sawl y gweddei, megis y gorchymynnase Debbora mam fy nhâb imi: canys gadawsid fi yn ymddifad o’m tad,

9Wedi i mi ddyfod gŵr, mi a briodais Anna gwraig o dy-lwyth fy nhâd, ac a ennillais o honi hi Tobias.

10A phan i’m caeth-gludwyd i Ninife, fy holl frodyr, ac eraill o’m cenedl a fwytaent fara ’r cenhedloedd:

11Er hynny myfi a’m cedwais fy hun heb fwytta:

12Am fy môd yn meddwl am Dduw o wîr ewyllys fyng-halon.

13Ac y rhoddes y Goruchaf i mi ffafr a hawddgarwch ger bron Enemessar, fel y bum orchwyliwr iddo.

14Felly mi a euthym i dîr Media, ac a adewais ddêc talent o arian yn llaw Gabael brawd Gabrias yn Rages ym Media.

15Ond wedi marw Enemessar, Senna­cherib ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

16Yr hwn y rhwystrodd ei ffyrdd, fel na ellais i mwy mo ’r ymdaith i dir Media.

17Eithr yn nyddiau Enemessar mi a wneu­thym lawer o elysenau i’m brodyr, ac a roddais fy mara i’r newynog, a’m dillad i’r noethion: ac os gwelwn neb o’m cenedl wedi ei ladd, ai fwrw yng-hylch muriau Ninife, mi ai claddwn ef.

18Ac os lladde Sennacherib y brenin, wrth ddyfod ar ffoi o Iudaea yr vn, mi ai claddwn ef yn ddirgel, (canys llawer a laddodd efe yn ei wŷn) a phan geisie ’r brenin y cyrph ni byddent iw cael.

19Yna ’r aeth vn o’r Ninifeaid, ac a ddangosodd i’r brenin, fy mod i yn eu claddu hwynt, a minne a ymguddiais: a phan ŵybum fod yn fyng-heisio i’m lladd, mi a giliais ymmaith rhag ofn.

20Ac y ducpwyd fy holl dda byd, ac ni adawyd i mi ddun, onid Anna fyng-wraig a Thobias fy mab.

21A chyn pen pymtheng nhiwrnod a deu­gain, dau oi feibion ef ai lladdasant ef, ac a ffoesant i fynyddoedd Ararath. A Sarchedonus ei fab a deyrnasodd yn ei le ef: ac a osodes Achiacarus fab Anael fy mrawd ar holl gyfrifon ei dad, ac ar ei holl orchwyliaeth.

22Ac Achiacarus a eiriolodd drosofi, oni chefais ddyfod i Ninife: canys gosodase Sarchedonus Achiacarus yn nesaf ac yr oedd efe yn drulliad, a seinedydd, gorchwyliwr, a cyfrifydd iddo: ac yr oedd efe yn nai fab brawd i minne.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help