Doethineb 15 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XV.Y rhai duwiol yn diolch i Dduw am ei drugaredd.

1Eithr tydi ein Duw ydwyt ddaionus a geir­wir, yn ddioddefgar, ac mewn trugaredd yn llywodraethu pôb peth.

2O blegit os pechwn ni, eiddot ti ydym ni, y rhai a ŵyddom dy gryfder di: ond ni phechwn ni a ninnau yn gŵybod y chfrifir ni yn eiddot ti.

3Canys cyfiawnder cyflawn yw dy adna­bod ti, a gwreiddin tragywyddoldeb yw gŷw­bod dy nerth di.

4Canys ni thwyllodd drwg gelfyddus ddychymyg dŷn monom ni, na chyscod portreiadau yr hwn sydd boen ddiffrwyth: sef llun wedi ei fritho ag anryw liwiau.

5Golwg pa rai sydd yn peri chwant i’r rhai angall, i ddymuno dieneidiol lun delu farwol.

6Rhai yn hoffi pethau drygionus, ac yn haeddu coelio i’r fath bethau yw y rhai ai gwnant hwy, a’r rhai ar dymunant, a’r rhai ai gwasanaethant.

7Y Rhuf.9.21.crochenudd hefyd a delina bridd meddal, ac a lunia yn boenus bôb darn i’n gwasanaethu ni: o’r vn clai y llunia efe rai llestri i wasanaethu mewn gwaith glân, a rhai yr vn modd yn y gwrthwyneb: i ba beth y gwasanaetha pôb vn o’r ddau fath hyn, y crochenudd a fydd barn­ŵyr.

8Ac o’r vn clai trwy ddrygionus boen y llunia efe dduw ofer, yr hun a wnaethid ei hun o’r ddaiar ychydig o’r blaen, ac ychydig wedi a aiff i’r hon y cymmerwyd ef o honi, Luc.12.20.pan fyddo rhaid rhoddi cyfrif am yr enioes.

9Nid am ei fod efe yn cymmeryd poen nac am fod ei hoedl ef yn ferr y mae ei ofal ef: eithr y mae efe yn ymryson â gofaint aur, ac arian, ac yn dynwared y gofaint prês, ac y mae efe yn cyfrif yn anrhydedd ei fôd efe yn llunio pethau gau

10Lludw yw ei galon ef, eu gobaith hefyd fydd waelach na’r ddaiar, ai bywyd yn fwy am­harchus na’r clai.

11Am na’d adwaene efe yr hwn ai gwnaeth, yr hwn yn ysprydol a roddes enaid iddo ef, ac a roddes yspryd byw yn anadl iddo ef.

12Eithr cyfrif y maent hwy mai chware yw ein henioes ni, ac mai marsiandiaeth i elwa yw ein bywyd ni, o blegit rhai o meddant hwy elwa o ba le bynnac hyd yn oed o ddrygioni.

13Hwn yn anad neb a ŵyr ei fôd yn pechu yr hwn sydd yn gwneuthur brouon lestri, a delwau o ddefnydd daiarol.

14Gelynion dy bobl di y rhai a arglwyddi­aethant arnynt ydynt oll o’r fath ffolaf, ac yn anhappysach nâ phlant bychain.

15O herwydd iddynt dybied bôd holl eulynnod y cenhedloedd yn dduwiau, i’r rhai nid oes na llygaid yn gwasanaethu i weled, na ffro­enau i dynnu yr awŷr attynt, na chlustiau i glywed, na bysedd dwylo i deimlo, ai traed hwy a ydynt fyscrell i gerdded.

16O blegit dŷn ai gwnaeth hwynt, a’r hwn nid oes ganddo ond benthyg yspryd ai lluniodd hwynt: ni ddichon vn dŷn wneuthur duw tebyg iddo ei hun.

17Peth marwol a weithia yr hwn sydd farwol â dwylo anwir: gwell yw efe ei hun na’r pethau y mae efe yn eu gwasanaethu, o blegit y mae efe yn byw, a hwythau nid ydynt.

18Y maent hwy yn addoli yr anifeiliaid casaf: o blegit pe cŷdystedlid hwynt mewn ffoli­neb, gwaeth a fyddent nag eraill.

19Nid ydynt mor dêg ag anifeiliaid eraill iw dymuno: canys methodd ganddynt gael na chlôd gan Dduw, nai fendith ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help