1Ti ô Dduw fy Nuw mau fi, yn foreu i’th geisiaf, sychêdodd fy enaid am danat, hiraethodd fyng-hnawd am danat mewn tîr crâs a sychêdic heb ddwfr.
2Felly i’th welais mewn cyssegr, wrth weled dy nerth, a’th ogoniant.
3Canys gwell dy drugâredd di na’r bywyd, fyng-wefusau a’th foliannant di.
4Felly i’th glodforaf yn fy mywyd, y derchafaf fy nwylo yn dy enw.
5Megis â mêr, ac â brasder y digonir fy enaid: a’m genau a’th fawl â gwefusau llafar:
6Pan i’th gofiwyf ar fyng-wely, mefyriaf am danat yn y gwiliadwriaethau.
7Canys buost gynnorthwy i mi, am hynny yng-hyscod dy adenydd y gorfoleddaf.
8Fy enaid a lŷnodd wrthit, a’th ddehaulaw a’m cynhaliodd.
9A’r rhai a geisiant fy enaid i ddestruw, a ânt i isselderau y ddaiar.
10Syrthiant ar fin y cleddyf: rhan llwynôgod fyddant hwy.
11Ond y brenin a lawenycha yn Nuw: gorfoledda pob vn a dyngo iddo ef, canys caeir genau y rhai a ddywedant gelwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
