1Hefyd am y Act.11.29. & 12.25. ruf.12.13.gascl i’r sainct megis yr ordeiniais yn eglwysi act.18.23.Galatia, felly gwnewch chwithau.
2Pob dydd cyntaf o’r wythnos rhodded pob vn o honoch heibio wrtho ei hun, gan roi yng-hadw yn ôl y llwyddiant a fyddo iddo, fel na byddo cascl pan ddelwyfi.
3Ac wedi y delwyf pa rai bynnac a ddangoswch chwi yn gymmeradwy trwy lythyrau, y rhai hynny a ddanfonaf i ddwyn eich cardod i Ierusalem.
4Ac os bydd y peth yn haeddu i minne fy hun fyned, hwy a gânt fyned gyd â mi.
5Eithr mi a ddeuaf attoch pen elwyf trwy Macedonia, (canys trwy Macedonia yr âf)
6Ac nid hwyrach yr arhosaf neu y gaiâfaf gyd â chwi, fel i’m hebryngoch i ba le bynnac yr elwyf.
7Canys nid ymwelaf â chwi yr awr hon ar fy hynt, ond yr wyf yn gobeithio ’r arhoaf ennyd gyd â chwi os canhiada yr Arglwydd.
8Mi a arhôf yn Ephesus hyd y Sul-gwin.
9Canys agorwyd i mi ddrws mawr a grymmus, ac gwrthwynehwyr lawer.
10Ac os Timotheus a ddaw, edrychwch am ei fod yn ddiogel gyd â chwi: canys y mae yn gweithio gwaith yr Arglwydd fel finne.
11Am hynny na ddiystyred neb ef, ond hebryngwch ef mewn heddwch i ddyfod attafi: canys yr wyf yn ei ddisgwil gyd â’r brodyr.
12Hefyd am y brawd Apollos, mi a ymbiliais yn fawr ag ef am ddyfod attoch gyd â’r brodyr, eithr er dim nid oedd ei ewyllys ef i ddyfod yr awron, ond efe a ddaw pan gaffo ennyd.
13Gwiliwch, sefwch yn y ffydd, ymwrolwch, ymgryfhewch.
14Bydded eich holl bethau chwi mewn cariad.
15Ond yr ydwyf yn attolwg i chwi frodyr (chwi a ŵyddoch am deulu Stephanas eu bod yn flaen-ffrwyth Achaia, a darfod iddynt ymroi i weini i’r sainct)
16Fod o honoch yn ymddarostyngedig i’r cyfryw, ac i bawb o’n cydweith-wŷr a’n cydlafur-wŷr.
17Llawen ydyw gennif ddyfodiad Stephanas, a Ffortunatus, ac Achaicus, canys hwy a gyflawnasant eich diffyg chwi.
18Canys diddanâsant fy yspryd i, a’r eiddoch chwithau: cydnabyddwch gan hynny y cyfryw rai.
19Y mae yr eglwysi o Asia yn eich annerch chwi: y mae Aquila a Phryscilla gyd â’r eglwys yr hon sydd yn eu tŷ yn eich annerch chwi yn fawr yn yr Arglwydd.
20Y mae y brodyr oll yn eich annerch, Ruf.16.16.|ROM 16:16. 2.cor.13.12.|2CO 13:12. 1.pet.5.14.anherchwch ei gilydd â chusan sancteiddiol.
21Annerch, â’m llaw i Paul.
22O’d oes neb heb garu yr Arglwydd Iesu Grist: bydded ef Anathema maranatha.
23Grâs ein Harglwydd Iesu Crist gyd â chwi.
24Bydded fy serch inne gyd â chwi oll yn Iesu Grist. Amen.
Yr Epistol cyntaf at y Corinthiaid a scrifennwyd o Philippos, gyd â Stephanas, Ffortunatus, ac Achaicus, a Thimothus.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
