1Gweledigaeth Iesu Grist, yr hon a roddes Duw iddo ef, i ddangos iw wasanaeth-wŷr y pethau a orfydd yn fuan eu dyfod i ben, ac a ddanfofonodd, ac a ddangosodd efe trwy ei Angel iw wasanaeth-wr Ioan:
2Yr hwn a destiolaethodd am air Duw, ac am destiolaeth, Iesu Grist, ac am bôb pêth a welodd efe.
3Dedwydd yw’r nêb a ddarlleno, a’r rhai a wrandawant eiriau y brophwydoliaeth hon, ac a gadwant y pethau sy yn scrifennedig ynddi hi, canys y mae’r amser yn agos.
4Ioan at y saith eglwys y rhai yn Asia: Grâs fyddo gyd â chwi, a heddwch oddi wrth yr hwn Exod.3.14.sydd, yr hwn a fu, a’r hwn a fydd rhag-llaw, ac oddi wrth y saith Yspryd y rhai ydynt ger bron ei orsedd-faingc ef,
5Ac oddi wrth Iesu Grist yr hwn sydd dŷst Psal.89.37.ffyddlon y 1.Cor.15.20. Coloss.1.18.cyntaf-anedic o’r meirw, a thywysog brenhinoedd y ddaiar, iddo ef yr hwn a’n carodd ni, ac a’n golchodd ni oddi wrth eini pechodau Heb.9.14. 1.Pet.1.19. 1.Ioan. 1.9.yn ei waed ei hun,
6Ac a’n gwnaeth ni yn 1.Pet.2.5.frenhinoedd, ac yn offeiriaid i Dduw ei Dâd ef, iddo ef y byddo gogoniant, ac emherodraeth yn oes oesoedd, Amen.
7Wele, y mae efe yn dyfod gyd â’r Esa.3.14. Math.24.30. Iud.14.wybrennau, a phob llygad a’i gwel ef, a’r rhai hefyd a’i gwanasant ef: ac wylofain a wna ger ei fron ef holl dylwythau y ddaiar, felly y mae, Amen.
8 Pen.21.6|REV 21:6. & 22.13. Mi ŵyf Alpha ac Omega, y dechreu a’r diwedd, mêdd yr Arglwydd, yr hwn sydd, a’r hwn fu, ac yr hwn a ddaw, yr Holl-alluog.
9Myfi Ioan eich brawd chwi, a’ch cydymmaith mewn cystudd, ac yn y deyrnas, ac mewn dioddefgarwch Iesu Grist, oeddwn mewn ynys a elwir Patmos am air Duw, ac am destiolaeth Iesu Grist,
10Yr oeddwn yn yr Yspryd yn nŷdd yr Arglwydd, ac mi a glywais yn fy ôl lais vchel fel vdcorn
11Yn dywedyd, mi ŵyf Alpha ac Omega, y cyntaf a’r diweddaf, a’r peth yr hwn ŵyt ti yn ei weled, scrifenna mewn llyfr, a danfon i’r saith eglwys y rhai sy yn Asia, i Ephesus, ac i Smyrna, ac i Pergamus, ac i Thyatira, ac i Sardis, ac i Philadelphia, ac i laodicia.
12A mi a droais yn fy ôl i weled y llais a ddywedase wrthifi, a phan droais, mi a welwn saith ganhwyll-bren o aur,
13Ac yng-hanol y saith ganhwyll-bren aur vn yn debyg i Fab y dŷn, wedi ymwisco â, gwisc laes hyd ei draed, ac wedi gwisco gwregys aur yng-hylch ei fronnau.
14Ei benn a’i walt oeddynt wynnion, fel gwlân gwyn, ac fel eira, a’i lygaid oeddent fel fflam dân.
15A’i draed oeddent fel prês coeth, megis yn llosci mewn ffwrn, a’i lais fel sŵn llawer oddyfroedd.
16Ac yr oedd yn ei law ddehau saith seren, o’i ênau yr ydoedd cleddyf yn myned allan llym dau-finiog, a discleiriodd ei ŵyneb ef fel yr haul yn ei nerth.
17A phan welais ef, mi a syrthiais wrth ei draed fel marw, Dan.10.9. Esai.41.4.|ISA 41:4. & 44.6.ac efe a roddodd ei law ddehau arnaf, gan ddywedyd wrthif, nac ofna mi ŵyf y cyntaf a’r diweddaf,
18Ac yr ŵyf yn fyw, ac a fum farw, ac wele, yr ŵyf yn fyw yn oes oesoedd, Amen, ac y mae gennif agoriadau vffern, a marwolaeth.
19Scrifenna y pethau a welaist, a’r pethau ydynt, a’r pethau a orfydd fôd rhag llaw.
20Dirgelwch y saith seren a welaist yn fy llaw-ddehau, a’r saith ganhwyll-bren aur y saith seren, angelion y saith eglwys ydynt, a’r saith ganhwyll-bren a welaist, y saith eglwys ydynt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.