1Bwrw dy fara rhyd wyneb y dyfroedd, ac ti ai cei o fewn llawer ô ddyddiau.
2Dyro ran i saith, neu hefyd i ŵyth: canys ni ŵyddost pa ddrwg a ddigwydd ar y ddaiar.
3Pan fo’r cwmŷlau yn llawn, hwy a ddefnynnant ar y ddaiar: pa vn bynnac ai i’r dehau ai i’r gogledd y syrth pren, pa le bynnac y syrthio y pren, yno y bydd efe.
4Y nêb a wilio ar y gwynt ni haua: a’r neb a edrycho ar y cwmylau ni fêda.
5Megis ac nis gwyddost ffordd y gwynt, nac pa fodd y yr escyrn yng-hrôth y feichiog: felly ni ddealli waith Duw yr hwn sydd yn gwneuthur y cwbl.
6Yn foreu haua dy hâd, a phrydnawn na laesa dy law, canys ni wyddost beth sydd iniawn, ai hyn ymma, ai hyn accw, ai yntef da fyddant ill dau.
7Melus yn ddiau yw’r goleuni, a da yw i’r llygaid weled yr haul.
8Ond pe bydde dyn fyw lawer o flynyddoedd, a gwneuthur yn llawen ynddynt oll, etto rhaid yw meddwl am ddyddiau tywyllwch er bôd flynyddoedd lawer, etto beth bynnac a ddigwydda ofêredd yw.
9Gwna yn llawen ŵr ieuangc yn dy ieuengctid, a llawenyched dy galon yn nyddiau dy ieuenctid, rhodia yn ffyrdd dy galon, ac yn ôl trachwant dy lygaid, ond gwybydd y geilw Duw ei hun di i’r farn am hyn ôll.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
