1 Duw lawer gwaith a llawer modd gynt a ymddiddanod â’r tadau trwy’r prophwydi:
2Y dyddiau diweddaf hyn efe a ymddiddanodd â nyni trwy ei Fab, yr hwn a wnaeth efe yn etifedd pob peth, trwy’r hwn hefyd y gwnaeth efe y bydoedd.
3 Doeth.4.26.(sic.)| WIS 7:26. Coloss.1.15. Yr hwn (am ei fod yn llewyrch y gogoniant, a gwir lun ei berson ef, ac yn cynnal pob peth trwy air ei nerth, wedi golchi ein pechodau ni trwyddo ef ei hun) a eisteddodd at ddeheu-law y mawredd yn y goruchelder,
4Yr hwn a wnaethbwyd yn well nâ’r angelion, o gymmaint ac yr etifeddodd efe enw rhagorach nag hwynt hwy.
5Canys wrth bwy o’r angelion er ioed y dywedodd efe, Psal.2.7.|PSA 2:7. Pen.5.5.|HEB 5:5. Act.13.33.fy Mab ydwyt ti, myfi heddyw a’th genhedlais di? ac eil-waith, 2.Sam.7.14.|2SA 7:14. 1.Chro.22.10.myfi a fyddaf yn Dad iddo ef, ac yntef fydd yn Fab i minne.
6A thrachefn pan ydyw yn dwyn ei Fab cyntaf-anedic i’r byd, y mae yn dywedyd: addoled hefyd Psal.97.7.holl angelion Duw ef:
7Ac am yr angelion hefyd y mae yn dywedyd: yr hwn sydd yn Psal.104.4.gwneuthur ysprydion yn gennadon iddo: a’i weinidogion yn fflam dân.
8Ac wrth y mab, dy orseddfaingc Psal.45.6.ô Dduw yn oes oesoedd: teyrn-wialen iniondeb yw teyrn-wialen dy deyrnas di.
9Ti a geraist gyfiawnder, ac a gaseaist anwiredd: am hynny Duw, sef dy Dduw di a’th eneiniodd ag olew gorfoledd tu hwnt i’th gyfeillion.
10Ac Psal.102.25.tydi yn y dechreuad ô Arglwydd a seiliaist y ddaiar, a gwaith dy ddwylaw di yw y nefoedd.
11Hwynt hwy a ddarfyddant tithe a barheu: ie hwynt hwy oll a heneiddiant fel dilledyn
12Megis gwisc hefyd y plygi di hwynt, ac hwy a newidiant: eithr yr vn ydwyt ti, a’th flynyddoedd ni phallant.
13Wrth bwy o’r angelion erioed y dywedodd efePsal.110.1.|PSA 110:1. Math.22.44.|MAT 22:44. 2.Cor.15.25.(sic.)|1CO 15:25. Pen.10.12.: eistedd ar fy llaw ddehau hyd oni ddodwyf dy elynion yn droed-faingc i’th draed?
14Onid ysprydion gwasanaethgar ydynt hwy oll, y rhai a ddanfonir i wasanaethu, er mwyn y rhai a gânt etifeddu iechydwriaeth?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
