Deuteronomium 13 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XIII.Gau brophwydi sy raid eu gochelyd, ai cospi.

1Pan godo yn dy fysc di brophwyd, nen freuddwydudd breuddwyd (a rhoddi it arwydd neu ryfeddod,

2A dyfod yr arwydd neu’r rhyfeddod yr hwn a lefarodd efe wrthit) gan ddywedyd: awn ar ôl duwiau dieithr (r rhai nid adwaenost) a gwasanaethwn hwynt.

3Na wrando ar eiriau y prophwyd hwnnw, neu ar y breddwydudd breuddwyd hwnnw, canys’r Arglwydd eich Duw sydd yn eich profi chwi, i wybod a ydych yn caru yr Arglwydd eich Duw a’ch holl galon, ac a’ch holl enaid.

4Ar ôl yr Arglwydd eich Duw yr ewch, ac ef a ofnwch, ei orchymynnion ef hefyd a gedwch, ac ar ei lais ef y gwrandewch: ef hefyd a wasanaethwch, ac wrtho ef y glynwch.

5A’r prophwyd hwnnw, neu yr breuddwydudd breuddwyd hwnnw, a roddir i farwolaeth, canys llefarodd i’ch gwrthdroi yn erbyn yr Arglwydd eich Duw, yr hwn a’ch dug chwi allan o dir yr Aipht, ac a’ch gwaredodd chwi o dŷ y caethiwed, i’th wthio o’r ffordd, yr hon i’th orchymynnodd yr Arglwydd dy Dduw di i rodio ynddi: felly y tynni ymmaith y drygioni o’th fysc.

6Os dy frawd, mab dy fam, neu dy fab dy hun, neu dy ferch, neu dy wraig annwyl, neu dy gyfell yr hwn fel dy enaid dy hun a’th annog yn ddirgel gan ddywedyd: awn, a gwasanaethwn dduwiau dieithr, y rhai nid adwaenost di, na’th dadau:

7[Sef rhai] o dduwiau y bobl y rhaio’ch amgylch chwi, yn agos attat, neu ymmhell oddi wrthit: o cwrr y tîr, hyd gwrr y tir.

8Na fydd fodlon iddo, ac na wrando arno, ac nac arbeded dy lygad ef, ac nac eiriach ac na chela arno.

9Ond gan ladd lladd ef, bydded dy Deut.17.7.law di arno ef yn gyntaf iw roddi iw farwolaeth: a llaw yr holl bobl wedi hynny.

10A llabyddia ef a meini fel y byddo efe farw, canys ceisiodd dy wthio di oddi wrth yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a’th ddug di allan o dîr yr Aipht, o dŷ y caethiwed.

11A Deut.17.13.holl Israel a glywant, ac a ofnant, ac ni chwanegant wneuthur y fath beth drygionus a hyn yn dy blith.

12Pan glywech am vn o’th ddinasoedd, y rhai y mae’r Arglwydd dy Dduw yn eu roddi it i drigo ynddynt, gan ddywedyd:

13Aeth dynion, meibion y Fall allan o’th blith, a gyrasant drigolion eu dinas gan ddywedyd: awn, gwasanaethwn dduwiau dieithr, y rhai nid adnabuoch.

14Yna ymofyn, a chwilia, a chais yn dda: ac os gwirionedd y peth sydd siccr wneuthur y ffieidd-dra hyn yn dy fysc:

15Gan daro, taro drigolion y ddinas honno a mîn y cleddyf, difroda hi, a’r rhai oll ynddi, ai hanifeiliaid hefyd; a min y cleddyf.

16Ai holl yspail hi a gescli i ganol ei heol hi, ac a losci y ddinas ai holl yspail hi yn gwbl i’r Arglwydd dy Dduw a thân: felly bydded yn garnedd byth, nac adailader hi mwy.

17Ac Deut.7.26.na lyned wrth dy law di ddim o’r diofryd beth fel y dychwelo’r Arglwydd oddi wrth angerdd ei ddig, ac y rhoddo it drugaredd, ac y tosturio wrthit, ac i’th amlhao megis y tyngodd wrth dy dadau.

18Tra y gwrandewech ar lais yr Arglwydd dy Dduw, gan gadw ei holl orchymynnion ef, y rhai’r wyfi yn gorchymyn i ti heddyw: gan wneuthur yr hyn sydd inion yng-olwg yr Arglwydd dy Dduw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help