1Gair yr Arglwydd a ddaeth hefyd attafi, gan ddywedyd:
2Na chymmer i ti wraig, ac na fyddet i ti feibion na merched yn y lle hwn.
3Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd am y meibion, ac am y merched y rhai a anwyd yn y lle hwn, ac am eu mammau y rhai ai hymddug hwynt, ac am eu tadau y rhai ai cenhedlodd hwynt yn y wlâd hon.
4O angeu nychlyd y byddant feirw, ni alerir am danynt, ac nis cleddir hwynt, byddant fel tail ar wyneb y ddaiar, a darfyddant drwy yr cleddyf, a thrwy newyn: ai celaneddau fyddant yn ymborth i adar y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaiar.
5Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, na ddôs i dŷ y galar, ac na ddos i alaru, ac na ymofidia di trostynt: canys myfi a gymmerais ymmaith heddwch oddi wrth y bobl hyn, yng-hyd â mwynder a thrugaredd.
6A byddant feirw yn y wlâd hon, fawr a bychan, ni chleddir hwynt, ac ni alerir am danynt, ni thorrir ac nid eillir am danynt.
7Ni rannant iddynt mewn galar, i roddi cyssur am y marw, ac ni pharant iddynt yfed o phiol cyssur, am eu tâd, neu am eu mam.
8Na ddos i dŷ gwledd, i eistedd gyd â hwynt, i fwyta. ac i yfed.
9Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd Duw Israel, wele myfi a baraf i lais cerdd a llawenydd, i lais y priod-fab, ac i lais y briod-ferch ddarfod o’r lle hwn o flaen eich llygaid, ac yn eich dyddiau chwi.
10A phan ddangosoch i’r bobl ymma yr holl eiriau hyn, ac iddynt hwythau ddywedyd wrthit ti, am ba beth y llefarodd yr Arglwydd yr holl fawr-ddrwg hyn i’n herbyn ni? neu pa beth anwiredd, a pha bechod yr hwn a bechasom yn erbyn yr Arglwydd ein Duw?
11Yna y dywedi wrthynt, o herwydd i’ch tadau fyng-adel medd yr Arglwydd, a myned ar ôl duwiau dieithr, ai gwasanaethu hwynt, ac ymgrymmu iddynt, a’m gwrthod fi, ac heb gadw fyng-hyfraith,
12(A chwithau a wnaethoch yn waeth na’ch tadau, canys wele chwi yn rhodio, bob vn yn ôl cyndynrwydd ei galon ddrwg heb wrando arnaf)
13Am hynny mi a’ch taflaf chwi o’r tir hwn i wlad yr hon nid adwaenoch chwi, na’ch tadau, ac yno y gwasanaethwch dduwiau dieithr ddydd a nôs, lle ni roddaf i chwi râs.
14Gan hynny wele y dyddiau yn dyfod medd yr Arglwydd, pryd na ddywedir, byw yw’r Arglwydd yr hwn a ddug feibion Israel i fynu o dîr yr Aipht:
15Eithr byw yw’r Arglwydd yr hwn a ddug i fynu feibion Israel o dir y gogledd, ac o’r holl diroedd lle y bwriase efe hwynt: canys mi ai dygaf hwynt trachefn i’r wlad yr hon a roddais iw tadau.
16Wele fi yn anfon am byscod-wŷr lawer medd yr Arglwydd ai pyscottânt hwynt, ac wedi hynny mi a anfonaf am hel-wŷr lawer, y rhai a heliant hwynt oddi ar bob mynydd, ac oddi ar bob brynn, ac o gromlechudd y creigiau.
17Canys fyng-olwg ar eu holl ffyrdd hwynt, nid ydynt guddiedic oddi ger fy mron: ac nid yw eu hanwiredd hwynt guddiedic oddi ar gyfer fy llygaid.
18Ac yn gyntaf myfi a dalaf yn ddwbl am eu hanwiredd ai pechod hwynt, am iddynt halogi fy nhir ai ffiaidd gelanedd: ie ai ffieidd-dra y llanwasant fy etifeddiaeth.
19O Arglwydd fy nerth a’m cadernid, a’m noddfa yn nydd blinder: attat ti y daw y cenhedloedd o eithafoedd byd, ac a ddywedant, diau mai celwydd a ddarfu i’n tadau ni ei etifeddu, oferedd heb lês ynddynt.
20A wna dŷn dduwiau iddo? a hwyntau heb yn dduwiau?
21Am hynny wele mi ai dyscaf hwynt y waith hon, dangosaf iddynt fy llaw a’m grym: a chânt wybod mai yr Arglwydd fy enw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.