Hebræaid 10 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. X.Na alle y gyfraith a’i haberthau ddeleu pechod, ac am hynny bod yn rhaid yr aberth arall a wnaeth Crist.

1 O Blegit y leuit.16.14.21gyfraith yr hon sydd ganddi gyscod daionus bethau i ddyfod, ac nid gwîr ddelw y pethau, ni alle bŷth berffeithio y dyfodiaid drwy yr aberthau hynny, y rhai bob blwyddyn a offrymment yn oestadol.

2Pe amgen hwy a beidiasent a’u hoffrymmu, am na buase cydwybod pechod mwy gan y rhai a offrymmasent wedi eu glanhau vn-waith

3Eithr yn yr rhai hynny y bydd bôb blwyddyn adcoffa pechodau.

4Canys ni ddichon gwaed teirw a geifr Leuit.16.21.dynnu ymmaith bechodau.

5O ba achos y mae efe wrth ddyfod i’r byd yn dywedyd, aberth, ac offrwm ni’s mynnaist: Psal.40.6.7.eithr corph a gymhwysaist i mi.

6Offrymmau poeth a thros bechod ni buost fodlon iddynt.

7Yna dywedais, wele fi yn dyfod, (y mae yn scrifennedig yn nechreu y llyfr am danaf) i wneuthur dy ewyllys di ô Dduw.

8Wedi iddo ddywedyd vchod, aberth ac offrwm, ac offrymmau poeth, a thros bechod ni’s mynnaist, ac ni’s derbyniaist (y rhai a offrymmir wrth y gyfraith)

9Yna y dywedodd, wele fi yn dyfod i wneuthur dy ewyllys di ô Dduw, y mae yn tynnu ymmaith y cyntaf, er mwyn gosod y diweddaf.

10Trwy yr hwn ewyllys yr ydym wedi ein sancteiddio, trwy offrymmiad corph Iesu Grist vn-waith.

11Am hynny pob offeiriad sydd yn sefyll beunydd ger bron, gan wasanaethu, ac offrymmu yn fynych yr vn aberthau, y rhai ni allant fyth ddeleu pechodau.

12Eithr hwn wedi iddo vn-waith offrymmu aberth tros bechodau, sydd yn dragywyddol Pen.1.13.yn eistedd ar ddeheu-law Dduw?

13Gan aros yr hyn sydd yn ôl, Psal.110.1.|PSA 110:1. 1.cor.15.25.|1CO 15:25. pen.1.13.hyd oni osoder ei elynion ef yn droedfaingc iw draed ef.

14Canys ag vn offrwm y perffeithiodd efe yn dragywyddol y rhai sy wedi eu sancteiddio,

15Y mae yr Yspryd glân hefyd yn testiolaethu i ni hyn: canys ar ôl iddo ef ddywedyd ymlaen-llaw,

16 Iere.31.33.|JER 31:33. rufei.11.27.|ROM 11:27. pen.8.8.10. Dymma’r cyfammod yr hwn a amodaf â hwynt ar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd, myfi a osodaf fyng-hyfreithiau yn eu calonnau, ac a’u scrifennaf yn eu meddyliau,

17Ac ni chofiaf mwy eu pechodau nau hanwiredd hwynt.

18Felly lle byddo maddeuant am y rhai hyn ni bydd mwy offrwm tros bechod.

19Am hyn frodyr, gan fod i ni rydd-did i fyned i mewn i’r cyssegr trwy waed Iesu,

20Ar hyd y ffordd a gysegrodd efe i ni yn newydd, ac yn fyw, trwy’r llen, sef ei gnawd,

21A Arch-offeiriad ar dy Dduw,

22Nessawn â chalon gywir mewn llawn hyder ffydd, wedi puro ein calonneu oddi wrth gydwybod ddrwg, a golchi ein corph â dwfr glân.

23Cadwn gyffes ein gobaith, yn ddisigl: canys ffyddlon yw’r hwn a addawodd.

24A chydystyriwn bawb ei gilydd, i ymannogi gariad, a gweithredoedd da.

25Ac na wrthodwn ein cydgynhulliad ein hun, megis y mae arfer rhai: eithr ymgynghorwn, a hynny yn fwy, o achos eich bod yn gweled y dydd yn nessau.

26Canys os Pen.6.4o’r gwaith ddioddef y pechwn ar ôl derbyn gwybodaeth y gwirionedd, nid oes mwy aberth wedi ei adel tros bechodau,

27Eithr aruthrol ddisgwiliad barn, ac angerth tân yr hwn a ddifa y gwrthwyneb-wŷr.

28Yr hwn a dorro gyfraith Moses a roddir i farwolaeth heb drugaredd Deut.19.15.|DEU 19:15. math 18.17.|MAT 18:17. Ioan 8.16.|JHN 8:16. 2.cor.13.1.tann ddau, neu dri o dystion.

29Pa faint mwy dialedd dybygwch chwi y bernir heuddu o’r hwn a sathr Fab Duw, ac a farno yn aflan waed y cyfāmod, trwy’r hwn y sancteiddiwyd ef, ac a ddifenwo yspryd y grâs?

30Canys nyni a adwaenom y neb a ddywedodd, Deut.32.35.|DEU 32:35. rufei.12.29.(sic.)myfi pieu dial: myfi a dalaf medd yr Arglwydd: a thrachefn, yr Arglwydd a farna ei bobl.

31Peth aruthrol yw syrthio yn llaw y Duw byw.

32Gelwch bellach i’ch cof y dyddiau o’r blaen yn y rhai wedi eich llewyrchu y dioddefasoch ymdrech mawr ag adfyd.

33Tra dygyd chwi allā weithiau trwy wradwydd a chystudd i fod yn watwargerdd, ac i fod yn ddrychiolaeth, weithiau tra gwnelid chwi yn gymdeithiō i’r rhai a fyddent yn ymdrino felly.

34Canys am fy rhwymau maufi yr oeddych yn cyd-ddolurio â mi, ac chwi a gymmerasoch yn llawen yspeilio eich golud, gan wybod fod gennych olud gwell yn y nefoedd, yr hwn hefyd sydd barhaus.

35Am hynny na fwriwch ymmaith eich hyder yr hon sydd iddi fawr wobr.

36Canys rhaid ydyw i chwi wrth ammynedd, fel wedi i chwi wneuthur ewyllys Duw, y derbynioch yr addewid.

37O blegit ychydigyn bach etto, a’r hwn sydd ar ddyfod a ddaw, ac nid oeda.

38 Habac. 2.4.|HAB 2:4. rufei.1.17.|ROM 1:17. gal.3.11. A’r cyfiawn fydd byw trwy ffydd, eithr o chilia nid yw fy enaid fodlon iddo.

39Eithr nid ydym ni ar encil i golledigaeth, namyn o ffydd i gadwedigaeth yr enaid.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help