Barn-wŷr 20 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XX.Yr Israeliaid yn ymgyfarfod ym Myspah. 3 Ac wedi gwrando ewyn y Lefiad, Yn gyrru i gyrchu y rhai a wnaethent yr scelerder iw cospi.

1Yna Ose.10.9.holl feibion Israel a aethant allan, a’r gynnulleidfa a ymgasclodd o vn fryd o Ddan hyd Beerseba, a gwlâd Gilead at yr Arglwydd i Mispah.

2A phennaethiaid yr holl bobl a safasant holl lwythau Israel yng-hynnulleidfa pobl Dduw: pedwar can mîl o wŷr traed yn tynnu cleddyf.

3(A meibion Beniamin a glywsant fyned o feibion Israel i Mispah: ) yna meibion Israel a ddywedasant, lleferwch pa fodd y bu y drygioni hyn?

4Yna y gŵr hwnnw y Lefiad gŵr y wraig yr hon a laddesid a attebodd, ac a ddywedodd: i Gibea yr hon eiddo Beniamin y deuthum i, mi a’m gordderch i leteua.

5A gwŷr Gibea a gyfodasant i’m herbyn i ac a amgylchynasant y tŷ yn fy erbyn liw nôs: amcanasant fy lladd i, a threisiasant fyng-ordderch fel y bu hi farw.

6Yna’r ymaflais yn fyng-ordderch, ac y derniais hi, Pen.19.19.anfonais hefyd hi i bob gwlâd o etifeddiaeth Israel: Canys gwnaethant ffieidddra, ac scelerder yn Israel.

7Wele meibion Israel chwi oll moesswch rhyngoch air, a chyngor ymma.

8Yna y cyfododd yr holl bobl o vn fryd gan ddywedyd: nac eled nêb o honom iw babell, ac na throed nêb o honom iw dŷ.

9Ond yn awr, hyn’r peth yr hwn a wnawn ni i Gibea: iw herbyn wrth goel-bren.

10Ac ni a gymmerwn ddeng-wr o’r cant drwy holl lwythau Israel, a chant o’r mil, a mil o’r deng-mil i ddwyn llynniaeth i’r bobl: i wneuthur (pan ddelont i Gibea Beniamin) yn ôl yr holl ffieidd-dra yr hwn a wnaeth hi yn Israel.

11Felly’r ymgasclodd holl wŷr Israel at y ddinas yn gydtun fel vn gŵr.

12A llwythau Israel a anfonasant wŷr at holl lwythau Beniamin gan ddywedyd, beth’r drygioni ymma yr hwn a wnaethpwyd yn eich mysc chwi?

13Ac yn awr rhoddwch y gwŷr anwir hynny y rhai yn Gibea fel y lladdom hwynt, ac y deleom ddrygioni o Israel: ond ni fynne meibion Baniamin wrando ar lais eu brodyr meibion Israel.

14Eithr meibion Beniamin a ymgynnullasant o’r dinasoedd at Gibea: i fyned allan i ryfel yn erbyn meibion Israel.

15A chyfrifwyd meibion Beniamin y dydd hwnnw o’r dinasoedd yn chwe mil ar hugain o wŷr yn tynnu cleddyf: heb law trigolion Gibea, y rhai a gyfrifwyd yn saith gant o wŷr etholedic.

16O’r holl bobl hyn saith gant o wŷr etholedic Pen.3.15anafus oi llaw ddehau: pob vn o honynt a ergydie a charreg at y blewyn heb ballu.

17Gwŷr Israel hefyd a gyfrifwyd heblaw Beniamin yn bedwar cant mil yn tynnu cleddyf: pawb o honynt yn rhyfel-wŷr.

18A meibion Israel a gyfodasant, ac a aethant i fynu i Bethel, ac a ymgynghorasant a Duw, ac a ddywedasant, pwy o honom ni a aiff i fynu yn gyntaf i ryfela yn erbyn meibiō Beniamin? a dywedodd yr Arglwydd, Iuda yn gyntaf.

19Yna meibion Israel a gyfodasant yn forau: ac a werssyllasant yn erbyn Gibea.

20A gwŷr Israel a aethant allan i ryfel yn erbyn Beniamin: a gwŷr Israel a fyddinasant ryfel iw herbyn hwy wrth Gibea.

21A meibion Beniamin a ddaethant allan o Gibea: ac a ddifethasant o Israel y dwthwn hwnnw ddwy fil ar hugain o wŷr i’r llawr.

22Etto ymgryfhaodd y bobl gwŷr Israel: ac a chwanegasant luniaethu rhyfel yn y llê’r hwn y byddinasent ynddo y dydd cyntaf.

23Canys meibion Israel a aethent i fynu, ac a ŵylasent ger bron yr Arglwydd hyd yr hwyr, ymgynghorasent hefyd a’r Arglwydd gan ddywedyd, a chwanegafi nessau i ryfel yn erbyn meibion Beniamin fy mrawd? a dywedase’r Arglwydd, dos i fynu yn ei erbyn ef.

24Yna meibion Israel a nessasant at feibion Beniamin yr ail dydd.

25Bemamin hefyd a aeth allan o Gibea iw cyfarfod hwynt yr ail dydd, a hwynt a ddifethasant o feibion Israel eil-waith dair mil ar bymthec o wŷr i’r llawr: y rhai hyn oll oeddynt yn tynnu cleddyf.

26Yna meibion Israel a’r holl bobl a aethant i fynu, ac a ddaethant i Bethel, ŵylasant hefyd, ac arhosasant yno ger bron yr Arglwydd, ac ymprydiasant y dwthwn hwnnw hyd yr hwyr: ac offrymmasant boeth-offrymmau, ac offrymmau hedd ger bron yr Arglwydd.

27A meibion Israel a ymgynghorasant a’r Arglwydd: (canys yno Arch cyfammod Duw yn y dyddiau hynny.

28A Phinees mab Eleazar mab Aaron oedd yn sefyll ger ei fron ef yn y dyddiau hynny) gan ddywedyd, a chwanegafi mwyach fyned allan i ryfel yn erbyn meibion Beniamin fy mrodyr, neu a beidiaf? a dywedodd yr Arglwydd, ewch i fynu, canys y foru y rhoddaf ef yn dy law di.

29Ac Israel a osododd rai i warche ar Gibea oddi amgylch.

30Felly meibion Israel a aethant i fynu yn erbyn meibion Beniamin y trydydd dydd: ac a fyddinasant wrth Gibea fel cynt.

31Yna meibion Beniamin a aethant allan i gyfarfod a’r bobl thynnwyd hwynt o’r ddinas: a hwynt a ddechreuasant daro o’r bobl yn archolledic fel cynt (yn y priffyrdd o’r rhai, vn sydd yn myned i fynu i Bethel, ac arall i Gibea drwy’r maes) yng-hylch deng-wr ar hugain o Israel.

32Am hynny meibion Beniamin a ddywedasant, cwympwyd hwynt o’n blaen ni fel cynt: ond meibion Israel a ddywedasent, ffoiwn fel y tynnom hwynt o’r ddinas i’r priffyrdd.

33Yna holl wŷr Israel a gyfodasant oi lle, ac a fyddinasant yn Baal-thamar a’r a oedd Israel yn cynllwyn a ddaeth allan oi fangre o wyrgloddiau Gibea.

34A daeth ar gyfer i Gibe a ddeng-mil o wŷr etholedic o holl Israel, a’r rhyfel a drwmhaodd: ond niŵyddent fod y drwg hwnnw yn digwyddo iddynt.

35A’r Arglwydd a darawodd Beniamin o flaen Israel fel y difethodd meibion Israel o’r Beniaminiaid y dwthwn hwnnw bum-mil ar hugain a chan-nwr: a hwynt oll yn tynnu cleddyf.

36Felly meibion Beniamin a welsant mai eu lladd yr oeddyd: canys gwŷr Israel a rhoddasant lê i’r Beniaminiaid, o herwydd hydêru o honynt wrth y cynllwyn-wŷr y rhai a osodasent yn erbyn Gibea.

37A’r cynllwyn-wŷr a fryssiasant, ac a ruthrasant yn erbyn Gibea: a’r cynllwyn-wŷr a vdcanasant yn hiraethlon, ac a darawsant yr holl ddinas a min y cleddyf.

38Ac yr oedd amser nodedic rhwng gwŷr Israel a’r cynllwyn-wŷr: peri o honynt i fflam fawr mwg dderchafu o’r ddinas.

39Pan drôdd gwŷr Israel yn y rhyfel, yna Beniamin a ddechreuodd daro yn archolledic o wŷr Israel ynghylch deng-wr ar hugain, canys dywedasant, diau gan daro eu taro hwynt o’n blaen ni, fel yn y rhyfel cyntaf.

40Pan ddechreuodd y fflam dderchafu o’r ddinas colofn o fŵg: yna Beniamin a edrychodd yn ei ol, ac wele ffagl y ddinas oedd yn derchafu i’r nefoedd.

41Yna gwŷr Israel a droasant yn ôl, a gwŷr Beniamin a frawychasant: o herwydd hwy a ganfuant fod drygioni yn digwyddo iddynt hwy.

42Am hynny hwynt a droasant o flaen gwŷr Israel tua ffordd yr anialwch, a’r rhyfel ai hymlidiodd hwynt: a’r rhai o’r dinasoedd oeddynt yn eu mysc hwy yn eu difetha hwynt.

43[Felly]’r amgylchynasant y Beniaminiaid, erlidiasant hwynt Menuha, sathrasant hwynt hyd yng-hyfer Gibea tua chodiad haul.

44A lladdwyd o’r Beniaminiaid dair mil ar bymthec o wŷr: y rhai oll wŷr nerthol.

45A hwynt a droasant, ac a ffoasant i’r anialwch tua chraig Rimmon, a’r a loffasant honynt ar hŷd y priffyrdd bum-mil o wŷr: erlidiasant hefyd ar eu hol hwynt hyd Gidom, a lladdasant o honynt ddwy fîl o wŷr.

46A’r hyn oll o gwympodd o Beniamin oeddynt bum-mil ar hugain o wŷr yn tynnu cleddyf y dwthwn hwnnw: hwynt oll wŷr nerthol.

47Etto chwe chan-wr a droasant, ac a ffoasant i’r anialwch i graig Rimmon: ac a arhosasant yng-hraig Rimmon bedwar mis.

48Yna gwŷr Israel a ddychwelasant at feibion Beniamin, ac ai tarawsant hwy a mîn y cleddyf yn ddŷn, ac yn anifail, a pheth bynnac a gafwyd: yr holl ddinasoedd hefyd a’r a adawsid a loscasant hwy a thân.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help