1Pan orphennodd Salomon adailadu tŷ yr Arglwydd,
3A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho ef, gwrandewais dy weddi di, a’th ddeisyfiad ti yr hwn a ddeisyfiaist, ger fy mron i, cyssegrais y tŷ ymma yr hwn a adailedaist Pen.8.29.|1KI 8:29. Deut.12.11.i osod fy enw ynddo byth: fy llygaid hefyd, a’m calon fyddant yno yr holl ddyddiau.
4Ac os rhodî di ger fy mron i megis y rhodiodd Dafydd dy dad ti, mewn perffeithrwydd calon, ac iniondeb, gan wneuthur yn ôl yr hyn oll a orchymynnais i ti: chadw o honot fy neddfau, a’m barnedigaethau maufi,
5Yna mi a siccrhâf orsedd-faingc dy frenhiniaeth ar Israel yn dragywydd, fel y lleferais wrth Ddafydd dy dâd, gan ddywedyd, 2.Sam.7.12. 1.cron.22.10.ni thorrir ymmaith oddi wrthit ti ŵr oddi ar orseddfaingc Israel.
6Os gan ddychwelyd y dychwelwch chwi a’ch meibion oddi ar fy ôl i, ac heb iwch gadw fyng-orchymynnion deddfau, y rhai a roddais o’ch blaen chwi: eithr myned o honoch, a gwasanaethu duwiau dieithr, ac ymgrymmu iddynt hwy,
7Yna y torraf Israel oddi ar ŵyneb y ddaiar yr hon a roddais iddynt hwy, a’r tŷ yr hwn Iere.7.14.a gyssegrais i’m enw a fwriaf o’m gŵydd: ac Israel fydd yn ddammeg, ac yn ddihareb ym mysc yr holl bobloedd.
8A’r tŷ vchel hwn fydd pawb a gynniwero heibio iddo ef, a fynna, ac a chwibiana: dywedant hefyd, Deut.29.24. iere.22.8.pa ham y gwnaeth yr Arglwydd fel hyn i’r wlâd hon, ac i’r tŷ ymma?
9Ac hwy a ddywedant, am iddynt wrthod yr Arglwydd eu Duw yr hwn a ddûg eu tadau hwynt allan o dir yr Aipht, ac iddynt ymaflyd mewn duwiau dieithr, ac ymgrymmu iddynt, ai gwasanaethu hwynt: am hynny y dûg yr Arglwydd arnynt hwy yr holl ddrwg hyn.
10Ac 2.Cron.8.1.ym mhen yr vgain mhlyned y rhai yr adailadodd Salomon y ddau dy: sef tŷ yr Arglwydd, a thŷ yr brenin,
11(am] i Hiram brenin Tyrus ddwyn i Salomon goed cedr, a choed ffynnidwydd, ac aur yn ôl ei holl ewyllys ef) yna yr brenin Salomon a roddes i Hiram vgain nhinas yngwlâd Galile.
12A Hiram a aeth o Dyrus i edrych y dinasoedd y rhai a roddase Salomon iddo ef, ac nid oeddynt wrth ei fodd ef.
13Ac efe a ddywedodd, pa ddinasoedd y rhai hyn, y rhai a roddaist i mi fy mrawd? ac efe ai galwodd hwynt gwlâd Cabul hyd y dydd hwn.
14A Hiram a anfonase i’r brenin chwech vgain talent o aur.
15Ac dymma swmm y drêth yr hon a gododd y brenin Salomon i adailadu tŷ yr Arglwydd, ai dŷ ei hun, a Milo, a mur Ierusalem: Hazor hefyd, a Megido, a Gezer.
16Pharao brenin yr Aipht a ddaeth i fynu, ac a ennillood Gezer, ac ai lloscodd hi a thân, ac a laddodd y Canaaneaid y rhai oeddynt yn trigo yn y ddinas: ac ai rhoddodd hi yn anrheg iw ferch gwraig Salomon.
17Am hynny Salomon a adailadodd Gezer, a Beth-horon issaf,
18Baalath hefyd, 2.Cron.8.4.a Thamor yn yr anialwch yn y wlâd.
19A holl ddinasoedd y tryssorau y rhai oeddynt gan Salomon, sef dinasoedd y cerbydau, a dinasoedd y gwyrmeirch: a’r hyn ewyllys gan Salomon a fynnodd efe adailadu yn Ierusalem, ac yn Libanus, ac yn holl dîr ei arglwyddiaeth ef.
20Yr holl bobl y rhai a adawyd o’r Amoriaid, Hethiaid, Periziaid, Hefiaid, a’r Iebusiaid y rhai nid oeddynt o feibion Israel:
21[Sef] eu meibion hwy y rhai a drigasant ar eu hôl hwynt yn y wlâd, y rhai ni allodd meibion Israel eu lladd: hwynt a wnaeth Salomon yn drethawl hyd y dydd hwn.
22Ond o feibion Israel Leuit.25.39.ni roddodd Salomon yn wâs: canys hwynt ryfel-wŷr, a gweision iddo ef, a thywysogion iddo ef, a chapteniaid iddo ef, a thywysogion ei gerbydau ef, ai wŷr meirch ef.
23Y rhai hyn dywysogion y swyddogion y rhai ar waith Salomon: pump cant, a dêc a deugain oeddynt yn llywodraethu’r bobl y rhai oeddynt yn gweithio yn y gwaith.
24A merch Pharao a ddaeth i fynu o ddinas Dafydd iw thŷ ei hun yr hwn a adailadase iddi hi: yna efe a adailadodd Milo.
25A thair gwaith yn y flwyddyn yr offrymmodd Salomon boeth offrymmau, ac offrymmau hedd ar yr allor yr hon a adailadase efe i’r Arglwydd, ac a arogl-darthodd arni hi, yr hon ger bron yr Arglwydd, pan orphennodd efe y tŷ.
26A’r brenin Salomon a wnaeth longau yn Asion Gaber yr hon wrth Eloth ar fîn y môr côch yng-wlâd Edom.
27A Hiram a anfonodd ei weision yn y llongau long-wŷr yn medru y môr, gyd a gweision Salomon.
28Ar hwy a ddaethant i Ophir, a dugasant oddi yno bedwar cant ac vgain o dalentau aur: ac ai cywainasant at y brenin Salomon.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.