Psalmau 48 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. xlviij.Magnus Dominus.Cân neu Psalm i feibion Corah.

1Mawr Arglwydd, a thra moliannus yn ninas ein Duw ni, ei fynydd sanctaidd.

2Tegwch bro llawenydd yr holl wlâd mynydd Sion ystlysau y gogledd: dinas y Brenin mawr.

3Duw yn ei phalâsau a adwaenir yn amddeffynfa.

4Canys wele y brenhinoedd a ymgyfarfuant: a aethant yng-hyd.

5Hwynt a welsant, felly y rhyfeddâsant: brawychâsant aethant ymmaith ar ffrŵst.

6Dychryn a ddaeth arnynt hwy yno, dolur megis gwraig yn escor.

7A gwynt y dwyrain y drylli longau y môr.

8Megis y clywsom, felly y gwelsom yn ninas Arglwydd y lluoedd, yn ninas ein Duw ni: Duw ai siccrhâ hi yn dragywydd.Selah.

9Disgwiliasom o Dduw am dy drugaredd o fewn dy Deml.

10Megis dy enw ô Dduw, felly dy fawl hyd eithafoedd y tîr: cyflawn o gyfiawnder yw dy ddeheu-law.

11Llawenyched mynydd Sion: ac ymhyfryded merched Iuda, o herwydd dy farnedigaethau.

12Amgylchwch Sion, a chylchŷnwch hi, rhifwch ei thŷrau hi.

13Ystyriwch ar ei magŵyr, cadarnhewch ei phalâsau, fel y mynegoch i’r oes a ddêlo yn ôl.

14Canys y Duw hwn ein Duw ni byth, ac yn dragywydd: efe a’n tywys ni hyd angeu.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help