Genesis 47 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XLVII.Ioseph yn dangos i Pharao ddyfod ei dad Iacob. 7 Iacob yn dyfod o flaen Pharao, yn dywedyd iddo ei oedran ac yn cael tir Gosen. 12. Ioseph yn cael i Pharao, holl arian, anifeiliaid, a thiroedd yr Aiphtiaid am yd. 22 Haelioni Pharao iw offeiriaid. 29 Gofal Iacob am ei gladdedigaeth.

1Yna y daeth Ioseph, ac a fynegodd i Pharao, ac a ddywedodd: fy nhâd a’m brodyr, ai defaid, ai gwarthec, a’r hyn oll ganddynt, a ddaethant o dîr Canaan, ac wele hwynt yn nhîr Gosen.

2Ac efe a gymmerth rai oi frodyr pum dŷn: ac ai gosododd hwynt o flaen Pharao.

3Yna y dywedodd Pharao wrth ei frodyr ef, beth eich gwaith? hwythau a ddywedasant wrth Pharao: bugeilio defaid y mae dy weision, ie nyni a’n tadau hefyd.

4Dywedasant hefyd wrth Pharao, i orymdaith yn y tîr hwn y daethom, am nad borfa i’r defaid y rhai gan dy weision, canys trwm ’r newyn yngwlad Canaan: ac yr awrhon attolwg caed dy weision drigo yn nhîr Gosen.

5Yna y llefarodd Pharao wrth Ioseph gan ddywedyd: dy dâd a’th frodyr, a ddaethant attat.

6Tîr yr Aipht sydd o’th flaen cyflea dy dâd a’th frodyr o fewn oref y wlâd: trigant yn nhîr Gosen, ac os gwyddost fod yn eu mysc wyr grymmus, gosod hwynt yn fugeiliaid ar yr hyn gennif i.

7Yna y dûg Ioseph Iacob ei dâd, ac ai gosododd ger bron Pharao, ac Iacob a fendithiodd Pharao:

8Yna y dywedodd Pharao wrth Iacob, yng-hylch pa feint dyddiau blynyddoedd dy enioes?

9Ac Iacob a ddywedodd wrth Pharao, dyddiau blynyddoeddHebr.11.9,13. fy ymdaith ddêc, ar hugain, a chan mhlynedd: ychydic, a drwg fu dyddiau blynyddoedd fy enioes, ac ni chyrheuddasant ddyddiau blynyddoedd enioes fy nhadau: yn nyddiau eu hymdaith hwynt.

10Yna y bendithiodd Iacob Pharao, ac a ddaeth allan o ŵydd Pharao.

11Ac Ioseph a gyfleodd ei dâd, ai frodyr, ac a roddes iddynt etifeddiaeth yng-wlad yr Aipht yng-hwr goref y wlâd, yn-nhîr Exod.1.11.Rameses, fel y gorchymynnase Pharao.

12Bwydodd Ioseph hefyd ei dâd, ai frodŷr, a holl dŷ lwyth ei dâd, a bara fel ym-mhen plentyn.

13Ac nid oedd yn yr holl wlâd, canys y newyn oedd drwm iawn, fel yr oedd gwlad yr Aipht, a gwlad Canaan, yn dyddfu gan y newyn.

14Casclase Ioseph hefyd yr holl arian, yr hyn a gawsyd yn-nhîr yr Aipht, ac yn-nhîr Canaan, am yr ymborth yr hwn a brynnasent hwy, a dugase Ioseph yr arian i dŷ Pharao.

15Pan ddarfu yr arian o dir yr Aipht, ac o dir Canaan, yna’r holl Aiphtiaid a ddaethant at Ioseph gan ddywedyd: moes i ni fara, canys pam y byddwn ni feirw ger dy fron? o herwydd darfu yr arian.

16Yna y dywedodd Ioseph, moeswch eich anifeiliaid, a rhoddaf i chwi am eich anifeiliaid, os darfu’r arian.

17Felly y dygasant eu hanifeiliaid at Ioseph, a roddes Ioseph iddynt fara, am y meirch, ac am y cyfoeth defaid, ac am y cyfoeth gwarthec, ac am yr assynnod: ac ai cynhaliodd hwynt a bara, am eu holl anifeiliaid tros y flwyddyn honno.

18A phan ddarfu y flwyddyn honno y daethant atto ef, yr ail flwyddyn, ac a ddywedasant wrtho: ni chelwn oddi wrth ein harglwydd er darfod yr arian, a yscrubliaid a’n hanifeiliaid at fy arglwydd: ni adawyd ger bron fy arglwydd, onid ein cyrph, a’n tîr.

19Pa ham, y byddwn feirw o flaen dy lygaid? nyni a’n tir, prynn ni a’n tîr am fara, a nyni a’n tîr a fyddwn gaethion i Pharao, dod tithe i ni hâd fel y byddom fyw, ac na fyddom feirw, ac nad anghyfanedder ein tîr ni.

20Felly y cymmerth Ioseph holl dîr yr Aipht i Pharao, canys yr Aiphtiaid a werthasant bôb vn ei faes, o blegit y newyn a orchfygase arnynt: felly yr aeth y tîr i Pharao.

21Y bobl hefyd a yrrodd efe i ddinasoedd, o’r naill gwrr i derfyn yr Aipht hyd ei chwrr

22Yn unic tîr yr offeiriaid ni phrynnodd efe, canys rhan i’r offeiriaid oddi wrth Pharao, ai rhan a roddase Pharao iddynt a fwyttasant hwy, am hynny ni werthasant hwy eu tîr.

23Dywedodd Ioseph hefyd wrth y bobl, wele prynnais chwi heddyw, a’ch tîr i Pharao: wele i chwi hâd, heuwch chwithau y tîr.

24A bydded i chwi roddi i Pharao y bumed ran o’r cnŵd, a bydded y pedair rhan i chwi, yn hâd i’r maes, ac yn ymborth i chwi, ac i’r rhai yn eich tai chwi, ac yn fwyd i’ch plant.

25Yna y dywedasant, cedwaist ni yn fyw, gâd i ni gael ffafor yng-olwg fy arglwydd, a byddwn weision i Pharao.

26A gosododd Ioseph hynny yn ddeddf hyd heddyw ar dîr yr Aipht, am y bumed ran i Pharao onid o tîr yr offeiriaid yn unic, nid oedd eiddo i Pharao.

27Trigodd Israel hefyd yng-wlad yr Aipht o fewn tîr Gosen, ac etifeddasant ynddi, cynneddasant hefyd, ac amlhausant yn ddirfawr.

28Iacob hefyd fu fyw yn nhîr yr Aipht ddwy flynedd ar bymthec, felly’r oedd dyddiau Iacob, blynyddoedd ei enioes ef, yn saith mlhynedd a deugain, a chan mlhynedd.

29Yna dyddiau Israel a nesasant i farw, ac efe a alwodd am ei fab am Ioseph, ac a ddywedodd wrtho, attolwg o chefais ffafor yn dy olwg, Gene.24.2.gosot ti yr awr hon dy law tann fy morddwyd, a gwna a mi drugaredd, a gwiriondeb, attolwg na chleddech di fi yn yr Aipht.

30Pan hunwyf gyd a’m tadau, yna dŵg fi o’r Aipht, a chladd fi yn eu beddrod hwynt, yntef a ddywedodd, mi a wnaf yn ol dy air.

31Yna efe a ddywedodd twng wrthif, ac efe a dyngodd wrtho. Yna Israel a ymgrymmodd tua phen y gwely.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help