1 AC wedi ei ddyfod ef i wared o’r mynydd, llawer o bobloedd a’i dilynodd ef.
2Ac Mar.4.35. Luc.8.22.Ac wedi iddo fyned i’r llong, ei ddyscyblion a’i canlynasant ef.
24Ac wele, bu cynnwrf mawr a gyfodes yn y môr fel y cuddiwyd y llong gan y tonnau: eithr efe oedd yn cyscu.
25Yna y daeth ei ddiscyblion atto, ac a’i deffroasant, gan ddywedyd, ô Arglwydd, cadw ni, darfu am danom ni.
26Ac efe a ddywedodd wrthynt, pa ham yr ydych yn ofnus ô chwi o ychydig ffydd? yna y cododd efe, ac y ceryddodd y gwyntoedd a’r môr, a bu dawelwch mawr.
27A’r dynion a ryfeddasant, gan ddywedyd, pa ryw vn yw hwn, canys y gwyntoedd a’r môr ydynt yn vfyddhau iddo ef?
28Ac wedi Mar.5.1. Luc.8.26.ei ddyfod ef i’r lann arall i wlâd y Gergesiaid, dau ddiefylic a gyfarfuant ag ef, y rhai a ddaethent o’r monwentau yn dra creulon, fel na alle neb fyned y ffordd honno.
29Ac wele hwy a lefasant, gan ddywedyd, Iesu fâb Duw beth sydd i ni (a wnelom) â thi? a ddaethost ti ymma i’n poeni cyn yr amser?
30Ac yr oedd ym mhell oddi wrthynt genfaint o fôch lawer yn pori.
31A’r cythreuliaid a ddeisyfiasant, gan ddywedyd, os bwri ni allan, gad ti i ni fyned i’r genfaint fôch.
32Ac efe a ddywedodd, ewch, ac hwy gan fyned allan, a aethant i’r genfaint fôch: ac wele’r holl genfaint fôch a ruthrodd tros y dibin i’r mor, ac a fuant feirw yn y dyfroedd.
33Yna y ffoawdd y meichiaid, ac wedi eu dyfod hwy i’r ddinas, hwy a fynegasant bob peth, a pha beth a ddarfuase i’r rhai yr oedd y cythreuliaid ynddynt.
34Ac wele’r holl ddinas a ddaeth allan i gyfarfod â’r Iesu: a phan ei gwelsant, attolygasant iddo ymadael o’i cyffiniau hwynt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
