1Ac dymma y rhai a ddaethant at Ddafydd i Ziclag, efe etto wedi caeu arno rhac Saul fab Cis: a hwynt o gedyrn gynhal-wŷr y rhyfel.
2Yn arfogion fwâu yn ymdrech o ddehau ac o asswy a cherric,
15Dymma hwynt y rhai a aethant tros yr Iorddonen yn y mîs cyntaf (ac hi wedi llifo tros ei holl dorlannau) ac a ymlidiasant holl y dyffrynnoedd tua’r dwyrain, a thua’r gorllewyn.
16A o feibion Beniamin, ac Iuda a ddaethant i’r amddeffynfa at Ddafydd.
17A Dafydd a aeth iw cyfarfod hwynt, ac a lefarodd, ac a ddywedodd wrthynt hwy, os mewn heddwch y daethoch chwi attafi i’m cynhorthwyo, byddaf yn vn galon a chwi: ond os i’m bradychu fi i’m gelynion heb fod camwedd yn fy-nwylaw, Duw ein tadau ni a edrycho, ac a geryddo.
18Yna’r hyderodd Amasia pennaeth y dêc ar hugain eiddo ti Dafydd, a chyd a thi fab Isai heddwch, heddwch i ti, ac hedd i’th gynhorthwy-wŷr, o herwydd dy Dduw sydd yn dy gymmorth di: yna Dafydd ai cresawodd hwynt, ac ai gosododd hwy yn bennaethiaid y fintei.
19A o Manasses a droasant at Ddafydd, pan ddaeth efe gyd a’r Philistiaid yn erbyn Saul i ryfel, ond ni chynnorthwyasant hwynt: canys pennaduriaid y Philistiaid mewn bwrriad ai gollyngasant ef gan ddywedyd, 1.Sam.19.4.efe a syrth gyd ai feistr Saul am ein pennau ni.
20Fel yr oedd efe yn myned i Ziclag, trôdd attaw ef o Manasses, Adna, ac Iozabad, ac Iediel, a Micael, ac Iozabad, ac Elihu, a Zilthai y rhai bennaethiaid y miloedd yn Manasses.
21A’r rhai hyn a gynnorthwyasant Ddafydd yn erbyn y fintei, canys cedyrn o nerth oeddynt hwy oll, a chapteniaid ar y llû.
22Canys rhai a ddaethant at Ddafydd beunydd y pryd iw gynhorthwyo ef, hyd onid yn lu mawr, megis llu Dduw.
23Ac dymma rifedi y pennaethiaid y rhai yn arfogion i ryfel a ddaethant at ddafydd i Hebron: i droi brenhiniaeth Saul atto ef, yn ôl gair yr Arglwydd.
24[O] feibion Iuda yn dwyn tarian, a ffon-waiw chwe mil, ac ŵyth gant, yn arfog i ryfel.
25O feibion Simeon yn gedyrn nerthol i ryfel saith mil a chant.
26O feibion Lefi pedair mîl, a chwe chant.
27Ac Iehoiada ydoedd dywysog ar yr Aaroniaid, a chyd ag ef dair mîl, a saith gant.
28Zadoc hefyd llangc grymmus nerthol, ac o dŷ ei dâd ef dau ar hugain o gapteniaid.
29Ac o feibion Beniamin brodyr Saul tair mîl: canys hyd yn hyn llawer o honynt oeddynt yn dilyn tŷ Saul.
30Ac o feibion Ephraim vgain mîl, ac ŵyth gant, yn rymmus nerthol, yn wŷr enwoc yn nhŷ eu tadau hwynt.
31Ac o hanner llwyth Manasses tair mîl ar bymthec, y rhai a ddewisasid erbyn henwau i ddyfod i wneuthur Dafydd yn frenin.
32Ac o feibion Issachar y rhai a fedrent ddeall yr amseroedd i ŵybod beth a ddyle Israel ei wneuthur: eu pennaethiaid hwynt ddau-cant, ai holl frodyr wrth eu gorchymyn hwynt.
33Deng mîl a deugain oeddynt yn myned allan o Zabulon byddin yn medru rhyfela a phob arfau rhyfel, a byddino yn ffyddlon.
34O Rephthali hefyd mîl dywysogion a chyd a hwynt mewn tarian, a gwaiw-ffon ddwy fîl ar bymthec ar hugain.
35O’r Daniaid hefyd wyth mîl ar hugain, a chwe chant yn medru rhyfela.
36Ac o Aser yr oedd deugain mil yn myned allan mewn byddyn i osod rhyfel.
37Ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen, o’r Rubeniaid, ac o’r Gadiaid, ac o hanner llwyth Manasses chwech vgain mil mewn pob rhyw arfau cymmwys i ryfel.
38Yr holl ryfel-wŷr hyn y rhai oeddynt fyddinwyr câd a ddaethant mewn calon berffaith i Hebron i wneuthur Dafydd yn frenin ar holl Israel: a’r rhann arall o Israel hefyd yn vn feddwl i wneuthur Dafydd yn frenin.
39A hwy a fuant yno gyd a Dafydd dri diau yn bwytta ac yn yfed: canys eu brodyr a arlwyasent iddynt hwy.
40A hefyd y rhai oeddynt nesaf atynt hwy hyd Issachar, a Zabulon, a Nephthali a ddugasant fara ar assynnod, ac ar gamelod, ac ar fulod, ac ar ŷchen: yn fwyd, yn flawd, yn ffigus, ac yn resingau, ac yn wîn, ac yn olew, ac yn warthec, ac yn ddefaid mewn amldra: o herwydd llawenydd yn Israel.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.