2.Brenhinoedd 17 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XVII.Hosea ddrygionus wedi myned tan dreth i’r Assyriaid yn gwrthod eu gwarrogaeth hwynt. 7 Duw yn gadel am bechod yr Israeliaid i’r Assyriaid eu caethiwo hwynt. 25 Llewod yn difetha yr Assyriaid a ddaethent i aros yn Samaria.

1O’r ddeuddecfed flwyddyn i Ahaz frenin Iuda: y teyrnasodd Hosea mab Elah yn Samaria ar Israel naw mlynedd.

2Ac efe a wnaeth yr hyn oedd drwg yngolwg yr Arglwydd: etto nid fel brenhinoedd Israel y rhai a fuasent oi flaen ef.

3A Salmaneser brenin Assyria a ddaeth i fynu yn ei erbyn ef: a Hosea a fu yn wâs iddo ef, ac a ddug iddo anrhegion.

4A brenin Assyria a gafodd fradwriaeth yn Hosea, am ddanfon o honaw gennadau at So brenin yr Aipht, ac na ddanfonase efe i fynu anrheg i frenin Assyria, fel bôb blwyddyn: am hynny brenin Assyria a gaeodd arno ef, ac ai rhwynnodd ef mewn carchar-dŷ.

5Yna brenin Assyria a aeth i fynu drwy yr holl wlad: ac a ddaeth i fynu i Samaria, ac a warchâodd arni hi dair blynedd.

6 2.Bren.18.10. Yn y nawfed flwyddyn i Hosea, yr ennillodd brenin Assyria Samaria, ac y caeth-gludodd efe Israel i Assyria: ac ai cyfleuedd hwynt yn Halah, ac yn Habor, afon Gozan, ac ninasoedd y Mediaid:

7Am i feibion Israel bechu yn erbyn yr Arglwydd eu Duw hwynt, yr hwn ai dugase hwynt i fynu o wlâd yr Aipht, oddi tann law Pharao brenin yr Aipht: ac am iddynt ofni duwiau dieithr,

8A rhodio o honynt yn neddfau y cenhedloedd y rhai a fwriase yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel: ac y rhai a wnaethe brenhinoedd Israel.

9A meibion Israel a wnaethent yn ddirgel bethau y rhai nid inion ger bron yr Arglwydd eu Duw: ac a adailadasent iddynt vchelfeudd yn ei holl ddinasoedd, yn gystal ym mhob tŵr gwil-wŷr, ac ym mhob dinas gaeroc.

10Gosodasent hefyd iddynt ddelwau, a llwynau: ar bob brynn vchel, a thann bob prenn îr-las.

11Ac arogl-darthasent yno yn yr holl vchelfeudd, fel y cenhedloedd y rhai a gaeth-gludase yr Arglwydd oi blaen hwynt: a gwnelsent bethau drygionus i ddigio yr Arglwydd.

12A hwy a wasanaethasent eulynnod, y rhai y dywedase yr Arglwydd wrthynt, Deut.4.19.na wnewch y peth hyn.

13Er i’r Arglwydd destiolaethu yn Israel, ac yn Iuda drwy law yr holl brophwydi, phob gweledudd, gan ddywedyd, Iere.18.11.|JER 18:11 & 25.5.|JER 25:5 & 35.15.dychwelwch o’ch ffyrdd drygionus, a chedwch fyng-orchymynnion, a’m deddfau, yn ôl yr holl gyfraith yr hon a orchymynnais i’ch tadau: a’r hon a anfonais attoch chwi drwy law fyng-weision y prophwydi,

14Etto ni wrandawent: Deut.31.27.eithr sythasant eu gwarrau, fel gwarrau eu tadau, y rhai ni chredasent yn yr Arglwydd eu Duw.

15Canys hwy a ddirmygasant ei ddeddfau ef, ai gyfammod yr hwn a wnaethe efe ai tadau hwynt, ai destiolaethau ef y’ rhai y testiolaethodd efe iddynt: a hwy a rodiasant ar ôl oferedd nes eu myned yn ofer: hefyd ar ôl y cenhedloedd y rhai oeddynt oi hamgylch y rhai y gorchymynnase yr Arglwydd iddynt, na wnelent fel hwynt hwy.

16Eithr hwynt a wrthodasant holl orchymynnion yr Arglwydd eu Duw, ac a wnaethant iddynt ddelw dawdd, Exod.32.8. 1.Bren.12.28.[nid amgen] dau lô: gwnaethant hefyd lwyn, ac ymgrymmasant i holl lu y nefoedd, a gwasanaethasant Baal.

17A hwynt Pen.16.3.a yrrasant eu meibion ai merched drwy yr tân, a dewiniasant ddewiniaeth, a daroganasant: ymroddasant hefyd i wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng-olwg yr Arglwydd, gan ei ddigio ef.

18Am hynny yr Arglwydd a ddigiodd yn ddirfawr wrth Israel, ac ai trossodd hwynt oi ŵydd efe: ni adawyd onid llwyth Iuda yn vnic.

19Ni chadwodd Iuda ychwaith orchymynnion yr Arglwydd eu Duw: eithr hwy a rodiasant yn neddfau yr Israeliaid y rhai a wnelsent hwy.

20Am hynny yr Arglwydd a ddiystyrodd holl had Israel, ac ai cystuddiodd hwynt, rhoddodd hwynt hefyd yn llaw yr anrheithwyr: nes iddo eu taflu hwynt oi ŵydd.

21Canys efe a rwygodd Israel oddi wrth dy Ddafydd, a hwynt a wnaethant Ieroboam fab Nabat yn frenin: ac Ieroboam a yrrodd Israel oddi ar ôl yr Arglwydd, ac a wnaeth iddynt bechu pechod mawr.

22A meibion Israel a roddiasant yn holl bechodau Ieroboam y rhai a wnaeth efe: heb gilio oddi wrth hynny.

23Nes i’r Arglwydd fwrid ymmaith Israel oi wydd ef, fel y llefarase drwy law Iere.25.9.ei holl weision y prophwydi: ac Israel a gaeth-gludwyd oi wlad ei hun i Assyria hyd y dydd hwn.

24A brenin Assyria a ddug o Babilon, o Cutha hefyd, ac o Afa, o Hemath hefyd, ac o Sepharfaim, ac ai cyfleuodd hwynt yn ninasoedd Samaria, yn lle meibion Israel: felly hwynt a orescynnasant Samaris, ac a drigasant yn ei dinasoedd hi.

25Ac yn nechreu eu trigas hwynt yno nid ofnasant hwy yr Arglwydd: am hynny’r Arglwydd a anfonodd lewod yn eu plith hwynt y rhai ai lladdasant hwy.

26Am hynny y mynegwyd i frenin Assyria gan ddywedyd, y cenhedloedd y rhai a gaethgludaist ti, ac a gyfleuaist yn ninasoedd Samaria nid adwaenent ddefod Duw y wlâd: am hynny efe a anfonodd lewod yn eu mysc hwynt ac wele lladdasant hwynt, am na wyddent ddefod Duw y wlâd.

27Yna brenin Assyria a orchymynnodd gan ddywedyd, cyrchwch yno vn o’r offeiriaid y rhai a gaeth-gludasoch oddi yno, i fyned, ac i drigo yno: ac i ddyscu iddynt ddefod Duw y wlâd

28Felly vn o’r offeiriaid y rhai a gaeth gludasent hwy o Samaria a ddaeth ac a drigodd yn Bethel: ac efe a ddyscodd iddynt hwy pa fodd yr ofnent yr Arglwydd.

29Etto pob cenhedlaeth oeddynt yn gweuthur eu duwiau: ac ai gosodasant yn nhai yr vchelfeudd y rhai yr oeddynt yn presswylio ynddynt.

30Canys gwŷr Babilon a wnaethant Succoth Benoth, a gwŷr Cutha a wnaethant Nergal: gwŷr Hemath hefyd a wnaethant Asima.

31A’r Asiaid a wnaethant Nibcaz, a Thartac: a’r Sepharsiaid a loscosant eu mebion mewn tan i Adramelech, ac i Hanamelech duwiau y Sepharsiaid.

32Felly hwy a ofnasant yr Arglwydd: ac a wnaethant iddynt rai oi gwehillion eu hun yn offeiriaid yr vchelfeudd, y rhai a wnaethant iddynt yn nhŷ’r vchelfeudd.

33Yr Arglwydd yr oeddynt hwy yn ei ofni, etto gwasanaethu’r oeddynt eu duwiau yn ôl defod y cenhedloedd y rhai a gaeth-gludasent oddi yno.

34Hyd y dydd hwn y maent hwy yn gwneuthur yn ôl eu hên arferion: nid ydynt yn ofni’r Arglwydd, ac nid ydynt yn gwneuthur yn ôl eu deddfau hwynt, nac yn ôl eu harfer, nac yn ôl y gyfraith, nac yn ôl y gorchymyn yr hwn a orchymynnodd yr Arglwydd i feibion Iacob, yr hwn y gosododd efe Gen.32.28.|GEN 32:28. 1.Bren.18.31.|1KI 18:31. Barn.6.10.|JDG 6:10. Iere.10.1.ei enw yn Israel.

35A’r Arglwydd a wnaethe gyfammod a hwynt, ac a orchymynnase iddynt gan ddywedyd, nac ofnwch dduwiau dieithr: ac nac ymgrymmwch iddynt, no wasanaethwch hwynt ychwaith, ac nac aberthwch iddynt hwy.

36Ond yr Arglwydd yr hwn a’ch dûg chwi i fynu a wlâd yr Alpht, mewn nerth mawr, ac a braich estynnedic, ef a ofnwch chwi: iddo ef hefyd yr ymgrymmwch, ac iddo ef yr aberthwch.

37Y deddfau hefyd a’r barnedigaethau, a’r gyfraith, a’r gorchymyn y rhai a scrifennodd efe i chwi a gedwch chwi, gan gwneuthur yr holl ddyddiau: ac nac ofnwch dduwiau dieithr.

38Ac nac anghofiwch y cyfammod yr hwn a ammodais a chwi: ac nac ofnwch dduwiau dieithr.

39Eithr ofnwch yr Arglwydd eich Duw: ac efe a’ch gwared chwi o law eich holl elynnion.

40Ond ni wrandawsant hwy, eithr yn ôl eu hên arfer y gwnaethant hwy.

41Felly y cenhedloedd hyn fuant yn ofni yr Arglwydd, ac yn gwasanaethu eu delwau cerfiedic: eu meibion, ai hwyrion fel y gwnaeth eu tadau hwynt, y maent hwy yn gwneuthur hyd y dydd hwn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help