2.Machabæaid 7 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VII.Cospedigaeth y saith mrodyr ai mam.

1Digwyddodd hefyd ddal saith mrodyr ai mam, gan orchymyn iddynt oddi wrth y brenin, fwytta cîg môch ang-hyfreithlon, a hwy a gurwyd â phlangellau, a gwiail.

2Ond vn o honynt yr hwn a ddadleuodd yn gyntaf a ddywedodd, pa beth yr wyti yn ei geisio’: a pha beth a fynni di ei ŵybod gennym ni’: canys yr ydym ni yn barod i farw yn gynt nag y torrwn ni gyfreithiau ein tadau.

3Yna y cythruddodd y brenin, ac y parodd dwymno pedill a pheiriau, y rhai yn y man a wnaethpwyd yn boeth.

4Ac efe a orchymynnodd dorri allan tafod yr hwn a ddadleuase yn gyntaf, ai flingo ef, a thorri ymmaith ei aelodau eithaf yng-olwg ei frodyr eraill ai fam.

5Weithian pan ni ellid dim o honaw ef, efe a barodd ei ddwyn ef i’r tân, ai ffrio yn fyw: a thra yr oedd y mwg drôs hir o amser yn mygu allan or pair, y brodyr eraill ai mam a annogentt eu gilydd i farw yn galonnog gan ddywedyd fel hyn:

6Y mae yr Arglwydd Dduw yn edrych arnom, ac yn ddiau efe a gymmer ddiddanwch o honom ni, megis y mynegodd Moses yn ei ganiad, Deut.32.36.yn yr hwn y testiolaethodd gan ddywedyd, ac efe a gymmer ddiddanwch yn ei weision.

7Wedi marw o’r cyntaf fel hyn: hwy a ddygasant yr ail iw wneuthur yn watwargerdd, ac wedi iddynt dynnû croen ei ben ai wallt, hwy a ofynnasant iddo, a fywyttei di cyn merthyrû dy gorph bob yn aelod.

8Ond efe a attebodd yn iaith ei wlâd, na wnaf.

9Am hynny hwn hefyd fel y cyntaf a ferthyrwyd yn gyflym: a phan oedd yn rhoddi i fynŷ’r yspryd, efe a ddywedodd: ty di lofrudd, wyt yn dwyn ein bywyd presennol oddi arnom, ond Brenhin y byd a’n cyfyd ni (y rhai ydym yn meirw tros ei gyfreithiau) i dragywyddol gyfo­diadigaeth y bywyd.

10Yn ôl hwn y dygwyd y trydydd hefyd iw watwar, a phan ofynnasant am ei dafod, efe at estynnodd allan yn ebrwydd, ac a ledodd ei freichiaû yn hŷf, ac a lefarodd yn wrol.

11Y rhai hyn a gefais i gan Ddûw o’r nef, a’r rhai hyn yr ydwyfi yn eu Dirmygu er mwyn ei gyfreithiau ef, ac yr ydwyf yn gobeithio derbyn y rhain ail-waith ganddo ef.

12Yn gymmeint ag i’r brenin a’r rhai oeddynt gyd ag ef synnû a rhyfeddu wrth galon­did y gŵr ieuangc, megis wrth vn heb brisio am ei boenaû.

13Ac yn ôl marw hwn hwy a ferthŷrasant y pedwerydd hefyd, gan ei ladd y cyffelyb fôdd.

14Yr hwn pan ydoedd agos a marw a ddywedodd, pêth deisyfadwy yw i ni newidio y pethau sydd raid eu gobeithio gan ddynion, a dis­gwil am ein gobaith oddi wrth Ddûw fel ein cyfoder eilwaith drwyddo ef: canys i ti ni bydd cyfodiadigaeth i fywyd.

15Wedi hynny hwy a ddygasant y pummed ac ai merthyrâsant.

16Yr hwn gan edrych ar y brenin a ddywedodd, y mae genit allû ym mysc dynion, ac er i ti fôd n farwol yr wyt ti yn gwneuthur a fynnech: ond na thybbia wrthod o Ddûw ein cenhedl ni.

17Ond disgwil ennyd, a gwêl ei allû mawr ef, fel y cospa efe dy di a’th hâd.

18Yn ôl hwn hwy a ddygasant y chweched yr hwn pan ydoedd yn marw a ddywedodd: na somma mo honot ty hûn yn ofer: canys nyni ydym yn dioddef y pethaû hyn o’n plegit ein hŷnain, o blegit pechu o honō yn erbyn ein Dûw: a’r pethau hyn a wnaethpwyd yn rhyfeddod

19Ond na feddwl di y diengi di heb dy gos­pi, yr hwn wyt yn ceisio rhyfela yn erbyn Duw.

20Ond y fam oedd yn rhyfeddfawr ragorol ac yn haeddu cof ardderchog: yr hon tros yspait diwrnod a oddefodd â chalon rymus weled ei saith mâb yn marw ar yr vnwaith, o blegit ei gobaith a osodase hi yn yr Arglwydd.

21Ac hi a annogodd bôb un o honynt yn iaith ei gwlâd, ac yn llawn o yspryd a doethineb hi a gynhyrfodd ei meddwl â chalon wrol, ac a ddywedodd wrthynt,

22Ni wn pa fodd y daethoch i’m bru: canys ni roddais i chwi nac yspryd na bywyd, ac nid myfi a ddosparthodd aelôdau eich cyrph.

23Ond yn ddiau gwneuthurwr y bŷd, yr hwn a luniodd anedigaeth dŷn, ac a gafodd na­turiaeth pôb peth, a’r hwn a rydd eilwaith i chwi er ei drugaredd yspryd a bywyd, yn gymmeint ag i chwi yn awr eich dirmygu eich hunain er mwyn ei gyfreithiau ef.

24Antiochus hefyd gan dybbio ei fôd yn ddirmygus, a chan feddwl fod ei hymadrodd hi yn wradwyddus, tra ydoedd yr ieûangaf etto yn fyw, a geisiodd ei ddênu nid yn vnic â geiriau, ond hefyd trwy addo â llyfau ei wneuthur yn gyfoethog, ac yn oludog os efe a ym wrthode a chyfreithiau ei dadau, ac hefyd y cymmere efe ef megis yn gâr iddo, ac y rhodde iddo swyddau

25Ac o blegit nas gwrandawe y gŵr ieu­angc, efe a barodd gyrchu ei fam, ac a siriolodd arni hi gynghori ei mâb am ei hoedl ef.

26Ac wedi iddo ddeisyfu arni hynny â geiriau lawer, hi a addawodd iddo y cynghore hi ei mab.

27Yna ei fam a droes atto, a chan watwar y teiran creulon, hi ddywedodd yn iaith ei gwlad.

28Fy mab trugarha wrthif, yr hon a’th ddûg di naw mis yn fy mru, yr hon a roddais i ti laeth dair blynedd, yr hon a’th ddûg di i fynu hyd yn hyn, a’r hon a oddefais orthrymderau dy fagwriaeth, attolwg i ti fy mab edrych ar y nef a’r ddaiar, ac edrych ar bôb peth ag sydd ynddynt, cydnebydd wneuthur o Dduw y pethau hyn o’r pethau nid oeddynt, a gwneuthur rhywogaeth dŷn felly.

29Nac ofn a mor cigydd hwn, ond bydd debig i’th frodyr, cymmer dy farwolaeth, fel y ga­llwyf dy dderbyn gyd a’th frodyr yn yr vn­rhyw drugaredd.

30A thra yr ydoedd hi yn dywedyd hyn, y gŵr ieuangc a lefarodd, beth yr ydych chwi yn edrych am dano: nid oes yn fy mryd vfyddhau gorchymyn y brenin, ond yr ydwyf yn gwrando ar orchymynnion y gyfraith, y rhai a roddwyd i’n tadau trwy law Moses.

31Tithe hefyd yr hwn wyt ddychymygwr pob drwg i’r Hebræaid, ni diengi rhag llaw Dduw.

32Canys nyni ydym yn goddef o blegit ein pechodau ein hunain.

33Ond er bôd y Duw byw tros ennyd yn digio wrthym er athrawiaeth ac addysc i ni, etto efe a gymmyd trachefn âi weision.

34Ond ty di ô annuwiol ac sceleraf o’r holl ddynion, nac ymddercha dy hun yn ofer gan ffrommi mewn ansiccr obaith, a chan godi dy ddwylaw yn erbyn gweision Duw:

35Canys ni ddiengaist di etto rhag barn Duw oll alluog, yr hwn sydd yn gweled

36Fy mrodyr y rhai weithian a oddefasant lafur byrr, ydynt yr awron dan sanctaidd gyfammod bywyd tragywyddol: tithe hefyd trwy farn Duw, a dderbynni boenau addas o blegit dy falchder.

37Minne hefyd megis ag y gwnaeth fy­mrodyr a roddaf fyng-horph a’m henides dros gyfreithiau ein teidiau, gan attolwg i Dduw, drugarhau o honaw yn gyflym wrth y genedl hon, a pheri i tithe drwy benyd a chospedigaeth gyffessu, mai efe sydd Dduw yn vnic.

38A diweddu hefyd ynofi a’m brodyr o ddigofaint yr Holl-alluog, yr hwn yn addas a syrthiodd ar ein holl genedl.

39Yna ’r brenin wedi ei enynnu â chynddaredd, a wŷnfydodd yn erbyn hwn yn fwy na nêb, ac a fu drwm ganddo ei watwar.

40Hwn hefyd a fu farw yn sanctaidd, gan roddi ei gwbl ymddyried yn yr Arglwydd.

41Yn ddiwethaf o’r cwbl y fam yn ôl ei meibion a fu farw.

42Weithian bydded digon dywedyd hyn am gwleddau, ai creulondeb aruthrol.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help