1Yr henuriad at yr annwyl Gaius, yr hwn yr wyf yn ei garu mewn gwirionedd.
2Yr annwyl, yr ydwyf yn dymuno yn bennaf dy fôd yn llwyddo, ac yn dda’r bŷd arnat, fel y mae dy enaid yn llwyddo.
3Canys llawenychais yn fawr, pan ddaeth dy frodyr a thestiolaethu am y gwirionedd sydd ynot, fel yr ydwyt yn rhodio mewn gwirionedd.
4Nid oes gennif lawenydd mwy nâ hyn clywed bôd fy meibion yn rhodio mewn gwirionedd.
5Yr annwyl, yr ydwyt yn gwneuthur yn ffyddlon yr hyn yr wyt yn ei wneuthur i’r brodyr, ac i estroniaid,
6Y rhai a destiolaethasant am dy gariad ger bron yr eglwysi, y rhai os hebryngi rhagddynt megis y gwedde o herwydd Duw, da y gwnei.
7Canys er mwyn ei enw ef yr aethant allan, heb gymmeryd dim gan y cenhedloedd.
8Nyni a ddylêm gan hynny dderbyn y cyfryw rai, fel y byddom gynhorthwy-wŷr i’r gwirionedd.
9Scrifennais at yr eglŵys: eithr Dietrephes yr hwn sydd yn chwennych cael blaenori yn eu plith hwy, ni dderbyn ddim o honom.
10O herwydd pa ham, os deuaf, mi a fynegaf ei weithredoedd y rhai y mae yn eu gwneuthur, gan siarad yn ein herbyn ni â geiriau drygionus: ac nid yn fodlon i hynny, hefyd nid yw efe ei hun yn derbyn y brodyr, eithr y mae yn gwahardd y rhai a ewyllysient, ac yn eu gyrru o’r eglwys.
11Fy annwylyd, na ddilyn yr hyn sydd ddrwg, ond yr hyn sydd dda: yr hwn sydd yn gwneuthur daioni o Dduw y mae: a’r hwn a wna ddrygioni, ni welodd Dduw.
12Y mae i Demetrius air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hunan: a nyni hefyd ein hunain ydym yn testiolaethu, a gwyddoch fôd ein testiolaeth ni yn wîr.
13Y mae i mi lawer o bethau iw scrifennu: eithr nid a phen ac ingc yr escrifennaf i attat.
14Gobeithio yr ydwyf gael dy weled ar fyrder, ac y cawn ymddiddan enau yng-enau.
15Tangnheddyf i ti, y mae y cyfeillion i’th annerch: annerch y cyfeillion wrth eu henwau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
