Gweithredoedd yr Apostolion 20 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XX.Paul yn myned i Macedonia, ac i dîr Groec. 7 Arlwy swpper yr Arglwydd. 9 Cwymp Eutichus, a’i ddadebriad i fywyd. 13 Teithiau yr Apostolion o le i le. 18 Paul yn dangos ei gyflwr yn ei swydd, a’i ddiniweidrwydd. 28 Cyngor i eglwys-wyr. 36 Paul yn gweddio, ac yn cymmeryd ei gennad.

1Ac wedi darfod y derfysc galwodd Paul y discyblion atto, ac y cyfarchodd iddynt, ac efe a aeth ymmaith i fyned i Macedonia.

2Ac wedi iddo fyned tros y parthau hynny, a’i cynghori hwynt â llawer o ymadrodd, yr aeth efe i Groec.

3Ac yn ôl darfod iddo fwrw tri mis yno, wedi i’r Iddewon gynllwyn iddo, ac efe yn myned i Syria, efe a welodd yn dda ddychwelyd trwy Macedonia.

4A chydymdeithiodd ag ef hyd yn Asia, Sopater o Berea: ac Aristarchus, a Secundus, o Thessalonia, a Gaius o Derbea, a Thimotheus, a Tytichus, a Trophimus hefyd o Asia:

5Y rhai hyn a aethant o’r blaen, ac a arhosasant am danom yn Troas.

6A ninnau a fordwyasom ymmaith oddi wrth Philippi yn ôl dyddiau y bara croiw, ac a ddaethom i Troas o fewn pum diwrnod, lle yr arhosasom saith niwrnod.

7A’r dydd cyntaf o’r Sabboth wedi i’r discyblion ddyfod yng-hyd i dorri bara, Paul a bregethodd iddynt, ac am ei fod ar fedr myned ymmaith drannoeth, efe a barhâodd yn llefaru hyd hanner nôs.

8Ac yr oedd llawer o ganhwyllau yn y lloft lle yr oeddynt wedi ymgasclu.

9Ac fel yr oedd rhyw ŵr ieuangc a’i enw Eutichus yn eistedd mewn ffenestr, wedi ei orchfygu â thrymgwsc, tra yr oedd Paul yn ymresymmu yn hir, wedi ei yrru gan gwsc efe a syrthiodd i lawr o’r drydedd lofft, ac efe a gyfodwyd i fynu yn farw.

10Pan ddaeth Paul i wared, efe â syrthiodd arno ef, ac a’i cofleidiodd, gan ddywedyd: na chyffroed arnoch: canys y mae ei enaid ynddo ef.

11Felly wedi iddo fyned i fynu a thorri bara, a chymmeryd bwyd, efe a lefarodd hyd y boreu, ac felly yr aeth ymmaith,

12Ac hwy a ddugâsant y bachgen yn fyw, ac hwy a gyssurwyd yr ddirfawr.

13Ond nyni a aethom i’r llong, ac ahwyliasom i Assos, oddi yn oi dderbyn Paul: canys felly yr ordeiniase efe ar fedr myned ei hun ar ei draed.

14A phan ddaeth efe attom ni i Assos, ei dderbyn a wnaethwn, a myned i Mitylene.

15A morio a wnaethom oddi yno, a dyfod trannoeth gyferbyn â Chios, a thradwy y tiriasom yn Samos, ac a arhosasom yn Trogilium, a’r ail dydd yr aethom i Miletum.

16O blegit Paul a amcanase hwylio heb law Ephesus, fel na hydde iddo dreulio amser yn Asia, canys bryssio yr oedd i edrych a alle efe fod yn Ierusalem erbyn dydd y Sul-gwyn.

17O herwydd pa achos, efe a ddanfonodd o Miletum i Ephesus, ac a alwoed yng-hyd henuriaid yr eglwys.

18Y rhai, pan ddaethant atto ef, efe a ddywedodd wrthynt: Chwi a ŵyddoch er y dydd cyntaf y daethym i Asia, pa fodd y bum i gyd â chwi dros yr holl amser,

19Yn gwasanaethu yr Arglwydd mewn pôb gostyngeiddrwydd, a llawer o ddagrau a phrofedigaethau: y rhai a ddigwyddâsant i mi trwy gynllwyn yr Iddewon.

20Ac na ochelais ddim o’r pethau oeddynt fuddiol i chwi, na’s mynegais i chwi, ac na’s dyscais i chwi, yn oleu, ac o dŷ i dŷ:

21Gan destiolaethu i’r Iddewon, ac i’r Groegiaid hefyd, yr edifeirwch yr hwn sydd yn Nuw, a’r ffydd yn ein Harglwydd Iesu Grist.

22Ac yn awr, wele fi yn rhwym yn yr Yspryd yn myned i Ierusalem, heb ŵybod beth a dderfydd i mi yno:

23Eithr bod yr Yspryd glân yn tystio i mi ym mhob tref, gan ddywedyd: fod rhwymau a blinderoedd yn fy aros.

24Ond nid wyfi yn gwneuthur cyfrif o ddim, ac nid cu gennif fy enioes fy hun, os gallaf orphen fyng-yrfa trwy lawenydd, a’r weinidogaeth yr hon a dderbyniais gan yr Arglwydd Iesu, i destiolaethu am Efengyl grâs Duw.

25Ac yr awr hon, wele: mi a wn na chewch chwi oll (ym mysc y rhai y bum i yn trammwy, i bregethu teyrnas Dduw) weled fy ŵyneb i mwy ond hyn.

26Am hynny heddyw yr ydwyf yn eich cymmeryd chwi yn dystion, mae glân ydwyfi oddi wrth waed pawb oll.

27Canys nid arbedais fynegu i chwi holl gyngor Duw.

28Edrychwch gan hynny arnoch eich hunain, ac ar yr holl braidd, i’r hwn y gwnaethyr yspryd glân chwi yn olyg-wŷr, i fugeilio eglwys Dduw, yr hon a brynodd efe â’i briod waed.

29Myfi a wn hyn, yn ôl i mi ymadel, y daw bleiddiau trymmion yn eich plith, nid eiriêchant y praidd,

30Ac o’ch mysc chwi eich hunain y cyfyd gwŷr, y rhai a draethant bethau gŵyr-draws, i dynnu discyblion ar eu hôl.

31Am hynny gwiliwch, a meddyliwch na pheidials ddydd a nôs dros dair blynedd a rhybuddio pôb vn â dagrau.

32A’r awr hon frodyr, yr ydwyf yn eich gorchymyn i Dduw, ac i air ei ras ef, yr hwn a all adeiladu chwaneg, a rhoddi i chwi etifeddiaeth gyd â’r rhai a sancteiddiwyd oll.

33Ni chwennychais nac arian, nac aur, na gwisc neb.

34Ie chwi a ŵyddoch eich hunain, wneuthur o’r dwylo hyn wasanaeth am yr hyn oedd raid i mi, 1 Cor4.12. 1.thess.2.9. 2 thess.3.8. a’r rhai oeddynt gyd â mi.

35Mi o ddangosais i chwi bôb peth, fod yn rhaid cynnal y gweiniaid trwy lafurio fel hyn: a choffa geiriau yr Iesu, ddywedyd o honaw ef, mai dedwyddach yw rhoddi nâ derbyn.

36Ac wedi iddo draethu y hyn, gan roddi eu liniau ar lawr, efe a weddiodd gyd â hwynt oll.

37Yna pawb a ŵylasant yn ddirfawr, a hwy a ruthrâsant yng-wddf Paul, ac a’i cusanasant ef:

38Gan ofidio yn bennaf am y gair a ddywedase efe, na chaent weled ei wyneb ef mwy: ac hwy a’r hebryngâsant ef i’r lleng.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help