4Yna y dywedodd Mardocheus, Duw a wnaeth hyn.
5Canys côf gennif y breuddwyd yr hwn a welais am y pethau hyn: o blegit ni phallodd dim o hynny.
6Ffynnon fechan a aeth yn afon, ac oedd yn oleuni, ac yn haul, ac yn ddwfr mawr: Esther yr hon a brîododd y brenin, ac a wnaeth efe yn frenhines yw ’r afon.
7A’r ddwy ddraig ydwyf inne, ac Aman:
8A’r cenhedloedd y rhai a ddaethant i ddifetha henw yr Iddewon.
9A’m cenedl i yw ’r Israel ymma, y rhai a floeddiasāt ar yr arglwydd, ac hwy a achubwyd: îe yr Arglwydd a achubodd ei bobl, a’r Arglwydd a’n gwaredodd ni o’r drygau hyn oll: a Duw a wnaeth arwyddion a gwrthiau mawrion, y rhai ni wneithid ym mysc y cenhedloedd
10Am hynny y gwnaeth efe ddau goel-brē, vn iw bobl ei hun, a’r llall i’r cenhedloedd oll.
11A’r ddau goel-bren a ddaethant gerbron Duw tros yr holl genhedloedd, erbyn awr, ac amser, a dydd farn.
12Felly Duw a feddyliodd am ei bobl, ac a gyfiawnhaodd ei etifeddiaeth.
13Am hynny y dyddiau hynny fyddant iddynt hwy yn y mîs Adar ar y pedwerydd ar ddêc o’r mîs gyd ag ymgyfarfod, a llawenydd a hyfrydwch ym mysc ei bobl ef byth tros oes.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
