Ecclesiasticus 49 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XLIX.Clôd Iosias, Hezecias, Dafydd, Ieremi, Ezechiel, Zorobabel, lesus, Nehemias, Enoch, Ioseph, Sem a Seth.

1Coffadwriaeth 2.Bren.22.1. 2.cron.34.3.Iosias sydd fel cymmysciad arogl-darth trwy gyfarwydd waith yr apothecari.

2O mae hi cyn felused â’r mêl ym mhob genau, ac fel cerdd mewn gwledd o wîn.

3Efe a gafodd gyfarwyddyd i ddadtroi y bobl, ac a ddug ymmaith ffieidd-dra anwiredd.

4Efe a gyfeiriodd ei galon at yr Arglwydd, 2.Bren.23.5.ac a gadarnhaodd dduwioldeb yn amser pecha­duriaid.

5Pob ond Dafydd, Ezecias ac Iosias a wnaethant fai.

6Canys brenhinoedd Iuda hefyd a adawsant, ac a wrthodasant gyfraith y Goruchaf.

7Yntef a roddes eu corn hwynt i arall, ai gogoniant i genedl ddieithr.

8[Am hynny] y lloscasaut hwy y ddinas etholedic sanctaidd, ac 2.Bren.25.9.yr anrheithiwyd ei heolydd hi yn ôl prophwydoliaeth Ieremi.

9Canys efe ai cystuddiodd ef, ac yntef Iere.1.5.wedi ei sancteiddio yn brophwyd o groth ei fam i ddiwreiddio, a niweidio, a difetha, felly hefyd i adailadu ac: blannu.

10 Ezec.1.3. Ezeciel yntef a welodd weledigaeth ogoneddus, yr hon a ddangoswyd iddo ef ar ger­byd o gerubiaid.

11Efe a feddyliodd am y gelynnion yn y gafod, Ezec 13.9.|EZK 13:9 & 38.11.ac a gyfarwyddodd y rhai iniawn eu ffyrdd.

12Felly bendigedic fyddo coffadwriaeth y deuddec prophwyd.

13Pa foddHag.2.2|HAG 2:2. 4.esdr.4.2.y mawrygwn ni Zorobabel, ac yntef megis yn sel ar y llaw ddehau.

14Felly Zach.3.1.|ZEC 3:1. age.1.12.|HAG 1:12. nehem.7.1.Iesus fab Iosedec: y rhai hyn yn eu dyddiau a adailasant y tŷ, ac a gyfodasant Deml sanctaidd i’r Arglwydd yr hon a ddarparwyd yn ogoniant tragywyddol.

15Nehemias hefyd a oedd o’r rhai etholedic, am yr hwn y mae mawr goffa, yr hwn a gododd i ni y caerau a syrthiasent, Gen.5.24.|GEN 5:24. pen.44.16.|SIR 44:16. heb.11.5.ac a osododd i fynu y pyrth ar barrau, ac a gyfododd ein tai ni.

16Ni chreuwyd ar y ddaiar fath Gen.41.44.|GEN 41:44 & 42.6.|GEN 42:6 & 45.8.Enoch, yr hwn a gyfodwyd i fynu oddi ar y ddaiar.

17Ac ni bu y fath ŵr ag Gen.5.3.|GEN 5:3 & 11.10.Ioseph yr hwn a oedd bennaeth ar ei frodyr,

18A chynhaliwr y bobl, am escyrn yr hwn yr edrychodd yr Arglwydd.

19Sem a Seth a gawsant barch gan ddynion: ac Adda oedd yn y greadwriaeth goruwch pôb peth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help