2.Samuel 2 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. II.Eneiniad Dafydd yn Hebron ac Iuda. 8 Isboseth yn llywodraethu Israel trwy help Abner. 17 Gwyr Dafydd yn gorchfygu gwyr Abner.

1Ac yn ôl hyn yr ymgynghorodd Dafydd a’r Arglwydd gan ddywedyd, a âfi i fynu i vn o ddinasoedd Iuda? a’r Arglwydd a ddywedodd wrtho ef, dôs i fynu: yna y dywedodd Dafydd, i ba le yr âf i fynu? dywedodd yntef, i Hebron.

2Yna Dafydd a aeth i fynu yno, ai ddwy wragedd hefyd Ahinoam yr Iezralithes, ac Abigail gwraig Nabal y Carmeliad.

3A Dafydd a ddug i fynu ei wŷr y rhai gyd ag ef, pob vn ai deulu: a hwy a arhosasant yn ninasoedd Hebron.

4Yna gwŷr Iuda a ddaethant, ac a eneiniasant Ddafydd yno yn frenin ar dŷ Iuda: a mynegasant i Ddafydd gan ddywedyd, mai gwŷr Iabes Gilead 1.Sam 31.13.a gladdasent Saul.

5A Dafydd a anfonodd gennadau at wyr Iabes Gilead, ac a dywedodd wrthynt hwy: bendigedic chwi i’r Arglwydd, y rhai a wnaethoch y drugaredd hon a’ch arglwydd Saul, ac ai claddasoch ef.

6Ac yn awr yr Arglwydd a waelo a chwi drugaredd, a gwirionedd: minne hefyd a dalaf i chwi am y daioni hwn, o blegit i chwi wneuthur y peth hyn.

7Yn awr gan hynny, ymnerthed eich dwylo, a byddwch feibion grymmus: canys marw a fu eich arglwydd Saul, a thy Iuda a’m heneiniasant innef yn frenin arnynt hwy.

8Ond Abner mab Ner tywysog y filwriaeth yr hon gan Saul a gymmerth Isboseth fab Saul, ac ai dug ef i Mahanaim.

9Ac ai gosododd ef yn frenin ar Gilead, ac ar yr Assuriaid, ac ar Iezrahel: ac ar Ephraim ac ar Beniamin, ac ar holl Israel.

10Mab deu-gain-mlwydd Isboseth mab Saul, pan deyrnasodd efe ar Israel, a dwy flynedd y teyrnasodd efe: tŷ Iuda yn vnic oeddynt gyd a Dafydd.

11(A rhifedi y dyddiau y rhai y bu Dafydd yn frenin yn Hebron ar dŷ Iuda oedd saith mlynedd, a chwe mis.

12Ac Abner mab Ner, a gweision Isboseth fab Saul a aethant allan o Mahanaim i Gibeon.

13Ioab hefyd mab Serfia, a gweision Dafydd a aethant allan, ac a gyfarfuant a hwynt wrth lynn Gibeon: a’r rhai hyn a eisteddasant wrth y llynn or nailldu, a’r lleill wrth y llynn o’r tu arall.

14Yna Abner a ddywedodd wrth Ioab, cyfoded yn awr y llangciau, a chwarânt ger ein bronnau ni: a dywedodd Ioab cyfodant.

15Yna y cyfodasant, ac yr aethant trosodd dan rif: deuddec o Beniamin, sef oddi wrth Isboseth fab Saul, a deuddec o weision Dafydd.

16A phob vn a ymaflodd ym mhen ei gilydd ac ei gleddyf yn ystlys ei gyfell, felly y cyd syrthiasant hwy: am hynny y galwyd y lle hwnnw erw’r cryfion yr hon yn Gibeon.

17A bu ryfel caled iawn y dwthwn hwnnw: a tharawyd Abner, a gwŷr Israel o flaen gweision Dafydd.

18A thri mab Serfia oeddynt yno, Ioab, ac Abisai, ac Asahel: ac Asahel mor fuan ar ei draed ag vn o’r iwrchod y rhai yn y maes.

19Ac Asahel a ddilynodd ar ôl Abner: ac wrth fyned ni throdd ar y tu dehau, nac ar y tu asswy oddi ar ôl Abner.

20Yna Abner a edrychodd oi ôl ac a ddywedodd, ai tydi ymma Asahel? a dywedodd yntef myfi.

21Yna y dywedodd Abner wrtho ef, trô ar dy law ddehau, neu ar dy law asswy, a dal it vn o’r llangciau, a chymmer it ei arfau ef: ond ni fynne Asahel droi oddi ar ei ôl ef.

22Ac Abner a ddywedodd eilwaith wrth Asahel, cilia di oddi ar fy ôl i: i ba beth y tarawaf di i lawr, canys pa fodd y codwn fyng-olwg ar Ioab dy frawd ti

23Pan wrthododd efe ymado, yna Abner ai tarawodd ef a bôn y waiw-ffon tann y bummed a’r waiw-ffon a’ aeth allan o’r tu cefn iddo ef, fel y syrthiodd efe yno, ac y bu farw yn ei lê: a phawb a’r oedd yn dyfod i’r lle yr hwn y syrthiase Asahel ynddo, ac y buase efe farw, a safasant.

24Ioab hefyd, ac Abisai a erlidiasant ar ôl Abner: pan fachludodd yr haul yna hwy a ddaethant hyd frynn Ammah yr hwn gyferbyn a Giah tu ag anialwch Gibeon.

25A meibion Beniamin a ymgasclasant ar ôl Abner, ac yr oeddynt yn un fintai: ac a safasant ar benn vn brynn.

26Yna Abner a alwodd ar Ioab, ac a ddywedodd, ai byth y dinistria’r cleddyf? oni wyddost ti mai chwerwder fydd yn y diwedd? hyd ba bryd gan hynny y byddi heb ddywedyd wrth y bobl am ddychwelyd oddi ar ôl eu brodyr hwynt?

27A dywedodd Ioab, fel mai byw yw Duw oni buase a ddywedaist, diau yna y borau’r aethe y bobl i fynu, bob vn oddi ar ôl ei frawd.

28Felly Ioab a vdcanodd mewn vdcorn, a’r holl bobl a safasant, ac nid erlidiasant mwyach ar ôl Israel, ac ni chwanegasant ymladd mwyach.

29Yna Abner ai wŷr a aethant drwy’r rhos ar hyd y nôs honno: ac aethant tros yr Iorddonen, a thrammwyasant holl Bithron, a daethant i Mahanaim.

30Ac Ioab a ddychwelodd oddi ar ôl Abner, ac a gasclodd yr holl bobl: ac yr oedd yn eisieu o weision Dafydd bedwar gŵr ar bymthec ac Asahel.

31A gweision Dafydd a darawsent o Beniamin, ac o wŷr Abner dry-chant, a thri vgain gŵr y buant feirw.

32A hwy a ddugasant Asahel, ac ai claddasant ef ym meddrod ei dâd yr hwy yn Bethlehem: ac Ioab ai wŷr a rodiasant ar hyd y nôs, ac yn Hebron y goleuodd arnynt hwy.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help