Numeri 4 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IIII.Swyddau y Lefiaid o ddec ar hugain hyd ddec a deugain o oed.

1A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, ac wrth Aaron gan ddywedyd.

2Cymmer nifer meibion Cehath, o blith meibion Lefi, drwy eu teuluoedd, yn ol tŷ eu tadau.

3O fab deng mlwydd ar hugain ac vchod hyd fab deng mlwydd a deugain, pob vn a elo mewn swydd i wneuthur gwasanaeth, ym mhabell y cyfarfod.

4Dymma wenidogaeth meibion Cehath, ym mhabell y cyfarfod: sanctaidd cyssegredic.

5Yna deued Aaron, ai feibion, pan gychwnno y gwerssyll, a thynnant i lawr y wahan-lenn orchudd, a gorchguddiant a hi Arch y destioliaeth.

6A Exod.25.15.gosodant ar hynny dô o grwyn daiarfoch, a thanant yn vchaf wisc o sidan glâs ei gyd a gosodant ei throssolion

7Ac ar fwrdd* gosod y tanant wisc o sidan glâs, a gossodant ar hynny y dysclau a’r cwppanau, a’r phiolau, a’r cafuau tywallt, a bydded bara arno bob amser.

8A thanant arnynt wisc o scarlat, a gorchguddiant hwnnw a gorchudd o groen daiarfoch, a gossodant ei drossolion

9Cymmerant hefyd wisc o sidan glâs a 56 gorchguddiant Exod.25.30.ganhwyll-bren y goleuni, ai lusernau, Exod.25.31. Exod.25.38.ai efeilian, ai gafnau, a holl lestri yr olew, y rhai y gwasanaethant ef a hwynt.

10A gosodant ef, ai holl ddodrefn mewn gorchudd o groen daiar-foch, a gosodant ar drossol.

11A thanant wisc o sidan glâs ar yr allor aur, a gorchguddiant hi a gorchudd o groen daiar-foch, a gosodant ei throssolion

12Cymmerant hefyd holl ddodrefn y gwasanaeth, y rhai y gwasanaethant a hwynt yn y cyssegr, a rhoddant mewn gwisc o sidan glâs, a gorchguddiant hwynt mewn gorchudd o groen daiar-foch, a gosodant ar drossol.

13A thynnant allan ludw’r allor, a thanant arni wisc borphor.

14A rhoddant arni ei holl lestri, y rhai y gwasanaethant hi ant, hwy y pedill tân, y cigweiniau, y rhawiau hefyd a’r cawgiau, holl lestri yr allor: a thanant arni orchudd o groen daiar-foch, a gosodant ei throssolion wrthi.

15Pan ddarffo i Aaron ac iw feibion orchguddio y cyssegr, a holl ddodrefn y cyssegr, pan gwchwnno y gwerssyll: wedi hynny deued meibion Cehath, iw dwyn ond na chyffyrddant a’r hyn a fyddo cyssegredic, rhac iddynt farw: dymma glud meibion Cehath, ym mhabell y cyfarfod.

16A gorchwyliaeth Eleazer mab Aaron yr offeiriad olew y goleuni, Exod.30.34.a’r arogldarth llysseuoc, a’r bwyd offrwm gwastadol, ac Exod.30.23.olew yr eneiniad gorchwyliaeth yr holl dabernacl a’r hyn oll ynddo, yn y cyssegr ai holl ddodrefn.

17A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, ac Aaron gan ddywedyd:

18Na thorrwch ymmaith lwyth tylwyth y Cehathiaid o blith y Lefiaid:

19Ond hyn a wnewch iddynt, fel y byddant fyw, ac na fyddant feirw: pan nessânt at y sanctaidd bethau cyssegredic, Aaron ai feibion a ddeuant ac ai gosodant hwynt bob vn ar ei wasanaeth, ac at ei glud.

20Ond na ddeuant i edrych ar orchguddio yr hynn sydd gyssegredic i farw o honynt.

21A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses gan ddywedyd:

22Cymmer nifer meibion Gerson hefyd yn ôl tŷ eu tadau, trwy eu teuluoedd.

23O fab deng-mlwydd ar hugain ac vchod, hyd fab deng-mlwydd a deugain y rhifi hwynt: pob vn a ddel i ddwyn swydd, gan wasanaethu gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod.

24Dymma wenidogaeth tylwyth y Gersoniaid, o wasanaeth ac o glud.

25Sef dwyn o honynt lennau y tabernacl a phabell y cyfarfod, ei len dô ef, ar tô daiar-foch, yr hwn yn vchaf arno, a chudd-lenn drws pabell y cyfarfod.

26A throelloc lennau y cynteddfa, a chaeadlen drws porth y cynteddfa yr hwn ynghylch y tabernacl a’r allor o amgylch ai rhaffau, a holl offer eu gwasanaeth hwynt, a’r hyn oll a wnaed iddynt, fel y gwasanaethant.

27Wrth orchymmyn Aaron ai feibion y bydd holl wasanaeth meibion y Gersoniaid, yn eu holl glud ac yn eu holl wasanaeth: a dodwch attynt eu holl glud iw cadw.

28Dymma wasanaeth tylwyth meibion y Gersoniaid ym mhabell y cyfarfod, ac ar law Ithamar mab Aaron yr offeiriad eu llywodraethu hwynt.

29[Yna] meibion Merari: drwy eu teuluoedd, wrth dŷ eu tadau y cyfrifi hwynt:

30O fab deng-mlwydd ar hugain ac vchod hyd fab deng-mlwydd a deugain, y rhifi hwynt: pob vn a ddêle i ddwyn swydd i wasanaethu gwasanaeth pabell y cyfarfod.

31Ac dymma orchwyliaeth eu clud hwynt yn eu holl wasanaeth ym mhabell y cyfarfod: Exod.26.18.ystyllod y tabernacl, ai farrau, ai golofnau, ai forteisiau.

32A cholofnau y cynteddfa oddi amgylch ai morteisiau, ai hoelion, ai rhaffau yng-hyd ai holl offer, ac ynghyd ai holl wasanaeth: rhifwch hefyd y dodrefn erbyn eu henwau y rhai a orchwyliant a gludant hwy.

33Dymma wasanaeth tylwyth meibion Merari yn eu holl wenidogaeth, ym mhabell y cyfarfod, dan law Ithamar fab Aaron yr offeiriad.

34A rhifodd Moses, ac Aaron, a phennaethiaid cynnulleidfa meibion Cehath drwy eu teuluoedd, ac yn ôl tŷ eu tadau:

35O fab deng-mlwydd ar hugaiu ac vchod, ac hyd fab deng-mlwydd a deugain, pob vn a ddele mewn swydd i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod.

36Ai rhifedigion drwy eu teuluoedd oedd, ynt ddwy fil, saith cant, a dec a deugain.

37Dymma rifedigion tylwyth y Cehathiaid pob gwasanaethudd ym mhabell y cyfarfod: y rhai a rifodd Moses ac Aaron wrth orchymyn yr Arglwydd drwy law Moses.

38Rhifedigion meibion Gerson hefyd drwy eu teuluoedd, ac yn ol tŷ eu tadau

39O fab deng-mlwydd ar hugain ac vchod, ac hyd fab deng-mlwydd a deugain, pob vn a ddele mewn swydd i wasanaeth ym mhabell y cyfarfod.

40Ai rhifedigion hwynt drwy eu teuluoedd ac yn ôl tŷ eu tadau oeddynt ddwy fil, a chwechant, a dec ar hugain.

41Dymma rifedigion tylwyth meibion Gerson pob gwasanaethudd ym mhabell y cyfarfod, y rhai a rifodd Moses ac Aaron wrth orchymyn yr Arglwydd.

42A rhifedigion tylwyth meibion Merari, drwy eu teuluoedd, ac yn ôl tŷ eu tadau

43O fab deng-mlwydd ar hugain ac vchod, ac hyd fab deng-mlwydd a deugain, pob vn a ddelo mewn swyddi wasanaethu ym mhabell y cyfarfod.

44Ai rhifedigion hwynt drwy eu teuluoedd oeddynt, dair mil, a dau cant.

45Dymma rifedigion tylwyth meibion Merari y rhai a rifodd Moses ac Aaron wrth orchymyn yr Arglwydd drwy law Moses.

46Yr holl rifedigion y rhai a rifodd Moses ac Aaron, a phennaethiaid Israel o’r Lefiaid drwy eu teuluoedd ac yn ôl tŷ eu tadau

47O fab deng-mlwydd ar hugain ac vchod, ac hyd fab deng-mlwydd a deugain pob vn a ddele i wneuthur gwaith gwasanaeth, neu waith clud ym mhabel y cyfarfod.

48Ai rhifedigion oeddynt wyth mil, pump cant, a phedwar vgain.

49Wrth orchymyn yr Arglwydd trwy law Moses, y rhifodd efe hwynt, pob vn wrth ei wasanaeth, ac wrth ei glud: ai rhifedigion y rhai a orchymynnase yr Arglwydd wrth Moses.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help