Lefiticus 24 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXIIII.1 Olew y lusernau. 10 Cospedigaeth y cabludd. 17 Cyfraith y cyffelyb.

1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd:

2Gorchymyn i feibion Israel ddwyn attat olew oliwydden pur coethedic yn oleuni, Exod.27.20.i beri i’r lusernau gynneu bôb amsêr.

3O’r tu allan i wahan-len y destiolaeth ym mhabell y cyfarfod y trefna Aaron ef o hwyr hyd forau ger bron yr Arglwydd bôb amser, deddf dragywyddol drwy eich cenhedlaethau

4 Exod.25.31. Ar y canhwyllbren pûr y trefna efe y llusernau ger bron yr Arglwydd bôb amser.

5A chymmer beillied a phoba ef yn ddeuddec teissen: dwy ddecfed ran fydd pôb teissen.

6A gosot hwynt yn ddwy rês, Exod.25.30.chwech y rhês, ar y bwrdd pur ger bron yr Arglwydd.

7A dod ti thus pur ar y rhesau, fel y byddo yn fara coffadwriaeth, yn aberth tanllyd i’r Arglwydd.

8Ar bôb dydd Sabboth y trefna efe hynn ger bron yr Arglwydd bôb amsêr, yn gyfammod tragywyddol oddi wrth feibion Israel.

9A bydd eiddo Aaron ai feibion, Exod, 29.33.|EXO 29:33. lefit.8.31.|LEV 8:31. mat.12.4.hwynt ai bwyttu yn y lle sanctaidd, canys sancteidd-beth cyssegredic yw iddo ef o ebyrth tanllyd yr Arglwydd ddeddf dragywyddol.

10A mab gwraig o Israel, a hwnn yn fab gŵr o’r Aipht, a aeth allan ym mysc meibion Israel, a mab yr Israelities, a gŵr o Israel a ymgynhenuasant yn y gwerssyll.

11A mab y wraig o Israel a felldithiodd enw ac a gablodd: yna y dygasant ef at Moses, ac enw ei fam oedd Selomit merch Dibri o lwyth Dan.

12A gosodasant ef yng-harchar nes hysbysu iddynt o enau’r Arglwydd

17A phan laddo neb ddyn, Exod.21.12.lladder yntef yn farw.

18A’r hwn a laddo anifail, taled efe vn byw am dano.

19A phan roddo vn amaf ar ei gymydog, fel y gwnaeth gwneler iddo.

20Torriad am dorriad, llygad am lygad, Exod.21.24. Deut.19.21. mat.5.38.dant am dant, megis y rhoddes anaf ar ddyn, felly rhodder arno yntef.

21A’r hwn a laddo anifail ai tâl, a laddo ddyn a leddir.

22Bydded vn farn i chwi bydded i’r diethr fel i’r priodor, Exod.12.49.myfi yr Arglwydd eich Duw.

23Yna y mynegodd Moses i feibion Israel, a hwynt a ddugasant ŷ cabludd i’r tu allan i’r gwerssyll, ac ai llabyddiasant ef a cherric, felly meibion Israel a wnaethant megis y gorchymynnodd yr Arglwydd wrth Moses.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help