1.Thessaloniaid 1 - William Morgan Bible 1588 original edition

PENNOD. I.Y mae efe yn diolch i Dduw drostynt, am eu bod hwy mor ddiyscog mewn ffydd a gweithredoedd da, 6 Ag yn derbyn yr Efengyl mor ddifrif, 7 fel y maent yn siampl i bawb eraill.

1Paul a Sylfanus a Thimotheus, at eglwys y Thessaloniaid yn-Nuw Tad, ac yn yr Arglwydd Iesu Crist: Grâs i chwi a thangneddyf gan Dduw ein Tad a chan yr Arglwydd Iesu Grist.

2 2.Thess.1.3. Yr ydym yn diolch i Dduw yn oestadol trosoch chwi oll, gan Philip.1.34.wneuthur coffa am danoch yn ein gweddiau,

3Yn ddibaid gan goffau gwaith eich ffydd, a’r poenus gariad, ac ymaros gobaith yn ein Harglwydd Iesu Grist ger bron Duw sef ein Tad,

4Gan wybod, frodyr annwyl, fod eich etholedigaeth chwi o Dduw.

5Canys ni bu ein Efengyl ni mewn gair yn vnic, eithr hefyd mewn nerth, ac yn yr Yspryd glân, ac mewn llawn hyder mawr megis y gwyddoch pa ryw fodd yr oeddem yn eich plith er eich mwyn chwi.

6A chwi a aethoch yn ddilyn-wŷr i ni, ac i’r Arglwydd, ac a dderbyniasoch y gair mewn gorthrymder mawr gyd â llawenydd yr Yspryd glân.

7Fel yr oeddech yn siamplau i’r rhai oll a ydynt yn credu ym Macedonia ac Achaia.

8Canys oddi wrthych chwi y seiniodd gair yr Arglwydd, nid ym Macedonia, ac Achaia yn vnic, eithr ym mhob man yr aeth eich ffydd allan hefyd, yr hon sydd ar Dduw, fel nad rhaid i ni ddywedyd dim.

9Canys y maent yn mynegu am danom ni pa ryw ddyfodiad i mewn a gawsom ni attoch chwi, a pha wedd yr troasoch at Dduw oddi wrth eulynnod, i wasanaethu’r bywiol a’r gwir Dduw,

10Ac i edrych am ei Fab ef o’r nefoedd, yr hwn a gyfodes efe o feirw, sef Iesu ein gwaredudd ni oddi wrth y digofaint sydd ar ddyfod.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help