2.Corinthiaid 11 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XI.Ei serch ef i’r Corinthiaid, 5 ardderchogrwydd ei swydd ef, 9 a’r boen a gafodd efe ynddi hi.

1Och na oddefech ychydig fy anghallineb, eithr hefyd goddefwch fi.

2Canys eiddigus wyf am danoch, ag eiddigedd duwiol: o blegit darperais chwi i vn gŵr, i’ch rhoddi chwi megis morwyn bûr i Grist.

3Ac yr wyf yn ofni rhag megis y twyllodd y Canys yr ydych yn diodef ffyliaid yn llawen, gan fod eich hun yn synhwyrol.

20Canys goddefwch yn caethiwe vn chwi, pe bai vn i’ch llyngcu, pe bai vn yn ddwyn oddi arnoch, pe bai vn yn ymdderchafu, os bydd vn i’[ch] llwyr-fwytta, pe tarawe vn chwi ar eich wyneb.

21Am amharch yr ydwyf yn dywedyd: megis ein bod yn weiniaid: eithr ym mha beth bynnag y bydd neb yn hyf (yr wyf yn dywedyd yn ffôl) hyf wyf inne hefyd.

22 Phil.3.6. Hebræaid ydynt, felly finne: Israeliaid ydynt, felly finne: hâd Abrahā ydynt, felly finne.

23Gweinidogion Crist ydynt (yr ydwyf yn dywedyd yn ffôl) mwy wyfi: mewn poen yn amlach, mewn archollion dros fesur: yng-harchar yn amlach, ym angeu yn fynych.

24Gan yr Iddewon bum-waith y derbyniais ddeugain gwialennod ond vn.

25 Act.16.23. Tair gwaith i’m curwyd â gwiail; Act.14.19.vnwaith i’m llabyddiwyd, tair gwaith y torrodd llong arnaf, nôs a dydd y bum yn y dyfn-fôr;

26Mewn teithiau y bum yn fynych, ym mheryglon llif-ddyfroedd, ym mheryglon lladron, ym mheryglon fyng-henedl ym mheryglon gan y cenhedloedd, ym mheryglon yn y ddinas, ym mheryglon yn yr anialwch, ym mheryglon ar y môr, ym mheryglon ym mhlith brodyr gau,

27Mewn blinder a lludded, mewn anhunedd yn fynych, mewn newyn a syched, mewn ympryd yn fynych, mewn annwyd a noethni.

28Heb law y pethau oddi allan, y mae yr ymosod beunyddol arnaf, y gofal tros yr hôll eglwysi.

29Pwy sy wann, nad wyf finne wann? pwy a dramgwyddir, na loscwyf finne?

30Os rhaid i mi orfoleddu, mi a orfoleddaf yn y pethau sy yn perthyn i’m gwendid.

31Duw, a Thâd ein Harglwydd ni Iesu Grist yr hwn sydd fendigedig yn oes oesoedd, a ŵyr nad wyf yn dywedyd celwydd.

32 Act.9.24. Yn Damascus llywiawdr y bobl dann frenin Aretus a barodd wilio dinas y Damasciaid, gan ewyllysio fy nal i:

33A thrwy ffenestr i’m gollyngwyd ar hyd y mur mewn basged, ac y diengais o’i ddwylaw ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help