1Os dadleuwn â thi cyfiawn ti ô Arglwydd, er hynny rhesymmaf â thi farnedigaethau: Job.21.7.|JOB 21:7. psal.37.1.|PSA 37:1. psal.73.1|PSA 73:1. habac.1.3.pa ham y llwydda ffordd yr anwir? ac y ffynna’r anffyddlonniaid oll?
2Plennaist hwy a gwreiddiasant, cynyddasant, a dugasant ffrwyth: agos wyt at eu genau, a phell oddi wrth eu meddyliau.
3Ond ti Arglwydd a’m adwaenost, a’m gwelaist, ac a brofaist fyng-halon tu ag attat: tynn allan hwynt megis defaid i’r lladdedigaeth, a pharatoa hwynt erbyn dydd y lladdfa.
4Pa hŷd y galara yr ddaiar, ac y gwywa gwellt yr hollfaes, o blegit drygioni y rhai sy yn trigo ynddi? methodd yr anifeiliaid a’r adar, o blegit dywedasant, ni wêl efe ein diwedd ni.
5O rhedaisti gyd a’r gwŷr traed, a hwy yn dy flino, pa fodd yr ymdrewi a’r meirch? er dy fod yn ddiogel mewn tîr heddychlawn: etto pa fodd y gwnei yn vchelder yr Iorddonen?
6Canys dy frodyr a thŷ dy dâd, îe y rhai hynny a anghywirasant â thi, hwynt hwy hefyd a waeddasant ar dy ôl, na choelia hwy er dywedyd yn deg wrthit.
7Gadewais fy nhŷ, gadewais fy etifeddiaeth, mi a roes annwylyd fy enaid yn llaw ei elynnion ef.
8Fy etifeddiaeth a aeth i mi megis llew yn y coed: rhuodd i’m herbyn, am hynny caseais hi.
9A fy etifeddiaeth i mi fel aderyn brith? onid yr adar o amgylch yn ei herbyn hi deuwch ymgesclwch holl fwyst-filod y maes, deuwch iw bwytta.
10Bugeiliaid lawer a ddestruwiasant fyng-winllan, sathrasant fy rhandir, fy rhandir dirion a roddasant yn ddiffaethwch anrheithiol.
11Gosodasant hi yn anrhaith, ac wedi ei hanrheithio y galarodd hi wrthif: y tir ei gyd a anrheithiwyd, am nad neb yn ystyried yn ei galon.
12Anrheith-wŷr a ddaethant ar yr holl frynnau yn yr anialwch: canys cleddyf yr Arglwydd sy yn difetha o’r gwrr i’r ddaiar hyd y cwrr i’r ddaiar: nid heddwch i ddim cnawdol.
13Hauasant wenith, a hwynt a fedasant ddrain, ymboenasant, ac ni chawsant lêsâd: cywilyddiasant gan hynny am eich ffrwythydd chwi rhag llid digofaint yr Arglwydd.
14Fel hyn y dywed yr Arglwydd yn erbyn fy holl gymydogion drwg, y rhai sy yn cyffwrdd a’r etifeddiaeth yr hon a berais i’m pobl Israel ei hetifeddu: wele mi ai tynnaf hwy allan oi tîr, ac a dynnaf dŷ Iuda oi mysc hwynt.
15Ac wedi i mi eu tynnu hwynt allan, troaf a thrugarhâf wrthynt, a dychwelaf hwynt pôb vn iw etifeddiaeth, a phob vn iw dîr ei hun.
16Ac os gan ddyscu y dyscant ffyrdd fy mhobl, i dyngu i’m enw, (byw yw’r Arglwydd) megis y dyscasant fy mhobl i dyngu i Baal, yna yr adailedir hwy yng-hanol fy mhobl.
17Eithr oni wrandawant, yna y diwreiddiast y genhedlaeth hon, a chan ddifetha myfi ai dinistriaf hi, medd yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.