Esther 4 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IIII.Mordocêus yn mynegu i Esther beth a ddychymygasid yn erbyn yr Iddewon gan ei hannog hi i geisio ymwared iddynt hwy. 16 Hithe yn erchi iddynt hwy ymprydio, a gweddio trosti hi.

1Pan ŵybu Mordocêus yr hyn oll a wnelsid, yna Mordocêus a rwygodd ei ddillad, ac a wiscodd sach-liain a lludw: ac a aeth allan i ganol y ddinas, ac a waeddodd a chwerw lefvchel.

2Ac efe a ddaeth hyd o flaen porth y brenin: ond ni dyfod i borth y brenin mewn gwisc o sach.

3Ac ym mhob talaith, lle, a’r y daeth gair y brenin ai orchymyn galar mawr gan yr Iddewon, ac ympryd, wylofain hefyd, ac oer-nad: sach-liain, a lludw a danâsid ar laweroedd.

4Yna llangcesau Esther, ai stafellyddion hi a ddaethant, ac a fynegasant iddi hi, a’r frenhines a dristaodd yn ddirfawr: a hi a ddanfonodd wiscoedd i ddilladu Mordocêus, ac i dynnu ymmaith ei sach-liain ef oddi am dano, ond ni chymmere efe

5Am hynny Esther a alwodd ar Hathaco stafellyddion y brenin, yr hwn a osodase efe oi blaen hi, a hi a orchymynnodd iddo am Mordocêus, fynnu gwybod pa beth hyn, ac am ba beth hyn.

6Yna Hathac a aeth at Mordocêus i heol y ddinas, yr hon o flaen porth y brenin.

7A Mordocêus a fynegodd iddo’r hyn oll a ddigwyddase iddo ei hun: ac hysvysrwydd am yr arian y rhai a ddywedase Haman y tale efe i dryssorau y brenin yn erbyn yr Iddewon iw difetha hwynt.

8Ac efe a roddodd iddo destynn scrifen y gorchymyn yr hwn a osodasid yn Susan (am beri eu dinistrio hwynt) iw ddangos i Esther, ac i fynegu iddi: ac i orchymyn iddi fyned i mewn at y brenin i ymbil ag ef, ac i ymnhedd oi flaen ef dros ei phobl.

9Yna Hathac a ddaeth, ac a fynegodd i Esther eiriau Mordocêus.

10Ac Esther a ddywedodd wrth Hathac, ac a orchymynnodd iddo wrth Mordocêus.

11Holl weision y brenin, a phobl talaithau y brenin ydynt yn gŵybod mai pa ŵr bynnac, neu wraig a’r a ddelo i mewn at y brenin i’r cyntedd nesaf i mewn heb ei alw, ei vnic gyfraith ef ei farwolaethu oddieithr yr hwn yr estynno’r brenin y deyrn-wialen aur iddo, fel y byddo byw: ac ni’m galwyd i ddyfod i mewn at y brenin bellach ys deng-nhiwrnod ar hugain.

12Pan fynegasant hwy i Mordocêus eiriau Esther.

13Yna Mordocêus a ddywedodd am iddynt atteb Esther: na feddwl yn dy galon y dîengi di nhŷ’r brenin rhagor yr holl Iddewon.

14O herwydd os tewi a sôn a wnei di y pryd hyn, cyssur ac ymwared a gyfyd i’r Iddewon o le arall, tithe hefyd a thŷ dy dâd a gyfrgollir: a phwy sydd yn gwybod ai o herwydd y fath amser a hwn y daethost ti i’r frenhiniaeth?

15Yna Esther a ddywedodd am atteb Mordocêus

16Dos di, chascl yr holl Iddewon y rhai a geffir yn Susan, ac ymprydiwch drosofi, na fwytewch hefyd, ac nac yfwch dri-diau nôs na dydd, minne hefyd a’m llancesau a ymprydiaf felly: ac yna’r âfi mewn at y brenin yr hwn nid yw gyfraithlon, ac o derfydd am danaf, darfydded am danaf.

17Felly Mordocêus a aeth ymmaith: ac a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchymynnase Esther iddo ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help