1Ac efe a’m dug fi i’r porth y porth yr hwn sydd yn edrych tua’r dwyrain.
2Ac wele ogoniant Duw’r Israel yn dyfod oddi wrth y dwyrain, ai lais fel sŵn dyfroedd lawer, a’r ddaiar yn discleirio oi ogoniāt ef.
3A’r golwg Ezec.9.3.fel y golwg a welswn, fel y golwg yr hwn a welais pan ddaethwn yng-hylch difetha y ddinas: îe y gweledigaethau fel y weledigaeth yr hon a welswn wrth afon Chebar: yna y syrthiais ar fy wyneb.
4A Ezec.10.4. Ezec.11.22.gogoniant yr Arglwydd a ddaeth i’r tŷ ffordd y porth yr hwn ai wyneb tua’r dwyrain.
5Yna yspryd a’m cododd fi, ac a’m dûg i’r cyntedd nessaf i mewn, ac wele llanwase gogoniant yr Arglwydd y tŷ.
6Clywn hefyd yn llefaru wrthif o’r tŷ: ac yr ydoedd gŵr yn sefyll yn fy ymyl:
7Ac efe a ddywedodd wrthif, ha fab dŷn lle fyng-orseddfa, a lle gwadnau fy nhraed, (lle y trigaf ym mysc meibion Israel yn dragywydd) a’m henw sanctaidd ni haloga tŷ Israel mwy, hwynt ai brenhinoedd trwy eu putteindra, na thrwy gyrph meirw eu brenhinoedd eu huchel-leoedd,
8Er rhoddi o honynt eu rhinniog wrth fy rhinniog maufi, ai gorsyn wrth fyng-orsyn mau fi, a phared rhyngof fi â hwynt, etto hwynt a halogasant fy enw sanctaidd ai ffieidd-dra hwynt y rhai a wnaethant: am hynny mi ai hyssais hwynt yn fy llid.
9Pellhânt yr awr hon eu putteindra, a chelanedd eu brenhinoedd oddi wrthif fi, ac mi a drigaf yn eu mysc hwy yn dragywydd.
10Ti fab dŷn, mynega am y tŷ hwn i dŷ Israel fel y cywilyddiant am eu hanwireddau, ac y mesurant siampl
11Ac os cywilyddiant am yr hyn oll a wnaethant, yspyssa iddynt, ac yscrifenna o flaen eu llygaid hwynt bortreiad y tŷ ai lun, ai fynediadau allan, ai ddyfodiadau i mewn, îe ei holl ddull, ai holl ddeddfau, ai holl luniau, ai holl gyfreithiau, fel y cadwant ei holl ddull ef, ai holl ddeddfau, ac y gwnelant hwynt.
12Dymma ddull y tŷ, ar benn y mynydd ei holl derfyn ef, yn gysscgr sancteiddiolaf o amgylch ogylch: wele dymma ddull y tŷ.
13Dymma fesurau’r allor wrth gufyddau, o gufydd a dyrnfedd cufydd: y gwaelod gufydd, a’r llêd yn gufydd, a’r ymylwaith ar ei mîn yn vn rhychwant o amgylch: ac dymma vchter yr allor.
14Ac o’r gwaelod y llawr hyd y darn issaf dau gufydd ac vn cufydd o lêd a phedwar cufydd o’r darn lleiaf hyd y mwyaf, a chufydd o lêd.
15A’r allor bedwar cufydd, ac o’r allor hefyd tu ag i fynu bedwar o gyrn.
16A’r allor ddeuddec o hyd, a deuddec o lêd, yn scwâr yn ei phedwar ystlys.
17A’r ffrâm bedwar ar ddêc o hŷd, a phedwar ar ddêc o lêd hyd ei phedair congl, a’r ymyl-waith o amgylch iddi yn hāner cufydd, a gwaelod iddi yn gufydd o amgylch: ai grissiau yn edrych tua’r dwyrain.
18Ac efe a ddywedodd wrthif, ha fâb dyn, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw: dymma ddeddfau’r allor, yn y dydd y gwneler hi, i boeth-offrymmu poeth offrwm, ac i daenellu gwaed arni.
19Yna y rhoddi at y Lefiadaidd offeiriaid (y rhai ydynt o hâd Zadoc, yn nessau attafi medd yr Arglwydd Dduw i’m gwasanaethu) fustach ieuangc yn bech-aberth.
20A chymmer oi waed ef, a dyro ar ei phedwar corn hi, ac ar bedair congl y ffrâm, ac ar yr ymyl o amgylch: felly glanhâ, a chyssegra hi.
21Cymmer hefyd fustach y pech-aberth, a llosc ef yn y lle nodedig i’r tŷ, o’r tu allan i’r cyssegr.
22Ac ar yr ail dydd offrwm di fwch geifr perffaithgwbl yn bech-aberth, fel y cyssegront yr allor megis y cyssegrasant hi a’r bustach.
23Pan orphennech gyssegru, offrwm di fustach ieuangc perffaith-gwbl, a hwrdd perffaith-gwbl o’r praidd.
24Hefyd o flaen yr Arglwydd yr offrymmi hwynt, a’r offeiriaid a fwriant halen arnynt, ac ai hoffrymmant hwy yn boeth offrwm i’r Arglwydd.
25Saith niwrnod yr offrymmi fwch yn bech-aberth bob dydd: felly yr offrymmant fustach ieuangc a hwrdd o’r praidd o rai perffaithgwbl.
26Saith niwrnod y cyssegrant yr allor, ac y glanhânt hi, ac yr ymgyssegrant.
27A phan ddarffo y ddyddiau hyn, bydd ar yr wythfed dydd ac o hynny allan i’r offeiriaid offrymmu ar yr allor eich poeth offrymmau, a’ch ebyrth hedd, ac mi a fyddaf fodlon i chwi medd yr Arglwydd Dduw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.